Cysylltedd digidol yng Nghymru
Inquiry5
Mae’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a
Seilwaith (“y Pwyllgor”) wedi cytuno i gynnal darn byr o waith ar
gysylltedd digidol yng Nghymru. Bydd y gwaith hwn yn canolbwyntio ar bolisïau
band eang a mynediad at fand eang.
Cynhaliodd y
Pwyllgor sesiynau tystiolaeth lafar gyda rhanddeiliaid ddydd Mercher 11 Mai 2022.
Adroddiad
Cyhoeddodd y
Pwyllgor ei adroddiad, Cysylltedd digidol
– band-eang, (PDF 322KB) ar 1 Awst 2022. Ymatebodd
(PDF 262KB) Llywodraeth Cymru ar 27 Medi 2022.
Cynhaliwyd dadl yn y Cyfarfod Llawn ar 16 Tachwedd 2022.
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 05/04/2022
Ymgynghoriadau
- Cysylltedd digidol yng Nghymru (Wedi ei gyflawni)