Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 101
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 09/11/2022 - Y Cyfarfod Llawn
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y
Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. |
||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb
rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
cwestiynau 1-4 a 6-9. Tynnwyd cwestiwn 5 yn ôl. Atebwyd cwestiynau 4. 8 a 9 gan
y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol. Gwahoddodd y Llywydd Lefarwyr y
Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol ar ôl
cwestiwn 2. |
|||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb
rybudd i’r Cwnsler Cyffredinol ar ôl Cwestiwn 3. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.18 Gofynnwyd
cwestiynau 1, 3-6 a 8 -11. Tynnwyd cwestiynau 2 a 7 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd
Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 3. |
|||||||||
(30 munud) |
Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.11 Gofynnwyd
bob cwestiwn. |
|||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Russell
George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am streic posib gan nyrsys? Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.27 Atebwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol Russell George (Sir
Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am streic posib gan nyrsys? |
|||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.46 Gwnaeth
Mike Hedges ddatganiad am - Tabernacl Treforys yn dathlu 150 o flynyddoedd. Gwnaeth
Cefin Campbell ddatganiad am - 40 mlynedd o S4C. |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig - Codi’r bar: Sicrhau dyfodol y sectorau lletygarwch, twristiaeth a manwerthu NDM8120 Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi adroddiad
Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: Codi’r bar - Sicrhau dyfodol y
sectorau lletygarwch, twristiaeth a manwerthu a osodwyd yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 6 Gorffennaf 2022. Noder:
Gosodwyd
ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Medi 2022. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.51 NDM8120 Paul Davies (Preseli
Sir Benfro) Cynnig
bod y Senedd: Yn
nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: Codi’r bar -
Sicrhau dyfodol y sectorau lletygarwch, twristiaeth a manwerthu a osodwyd yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Gorffennaf 2022. Noder: Gosodwyd ymateb
Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Medi 2022. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Adroddiad Blynyddol 2021/22 NDM8119 Huw Irranca-Davies (Ogwr) Cynnig bod yn Senedd: Yn
nodi Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
ar gyfer 2021/22, a osodwyd yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 12 Hydref 2022. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.48 NDM8119 Huw Irranca-Davies
(Ogwr) Cynnig
bod yn Senedd: Yn
nodi Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
ar gyfer 2021/22, a osodwyd yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Hydref 2022. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru - Effaith fyd-eang defnydd domestig NDM8121 Sian Gwenllian (Arfon) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi: a) bod Deddf Llesiant
Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ei gwneud yn ofynnol i Gymru ymsefydlu
fel cenedl sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang; b) y gellir priodoli
mwy na 50 y cant o goedwigoedd a gaiff eu colli yn fyd-eang a'r tir a gaiff ei
drawsnewid i gynhyrchu nwyddau amaethyddol a chynhyrchion coedwigaeth y mae
defnyddwyr yn galw amdanynt; c) bod ardal sy'n
cyfateb i 40 y cant o faint Cymru yn cael ei defnyddio dramor i dyfu llond llaw
yn unig o nwyddau sy'n cael eu mewnforio i Gymru (palmwydd, soi, cig eidion,
cacao, rwber naturiol, lledr, pren, papur a mwydion); d) bod ardaloedd eang
dramor yn cael eu dinistrio i greu nwyddau a anfonir i Gymru, gyda
chanlyniadau trychinebus gan gynnwys cam-drin pobl frodorol, llafur plant, a
cholli bioamrywiaeth. 2. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru: a) i fod yn atebol am
ac adrodd yr allyriadau sylweddol o nwyon tŷ gwydr a achosir gan Gymru
dramor o ganlyniad i'r datgoedwigo a'r golled mewn cynefin sy'n gysylltiedig â
mewnforio nwyddau i Gymru; b) i gryfhau ei
chontract economaidd – sy'n datblygu perthynas â busnes o amgylch twf ac
arferion cyfrifol – i'w gwneud yn ofynnol i lofnodwyr ymrwymo i gadwyni
cyflenwi nad ydynt yn cynnwys datgoedwigo, trosi ac ecsbloetio cymdeithasol; c) i ddatblygu system
fwyd fwy hunangynhaliol i Gymru drwy ddatblygu llwybr tuag at system fwyd
sy'n addas ar gyfer y dyfodol ac sy'n rhoi ffynhonnell gynaliadwy o fwyd i
gymunedau a fyddai'n cynnwys: (i) gwrthdroi colli
capasiti prosesu lleol; (ii) gyrru cadwyni
cyflenwi lleol; (iii) blaenoriaethu
mewnforio nwyddau cynaliadwy yn unig o dramor; a (iv) helpu i fynd i'r
afael â thlodi bwyd a diffyg maeth. d) i
ddefnyddio ysgogiadau caffael i greu gofyniad i gadwyni cyflenwi fod yn
rhydd o ddatgoedwigo, trosi ac ecsbloetio cymdeithasol, fel rhan o'r newid i
ddefnyddio nwyddau cynaliadwy sydd wedi'u cynhyrchu'n lleol; e) i gefnogi ffermwyr
Cymru i roi'r gorau i ddefnyddio bwyd anifeiliaid da byw sy'n cael ei fewnforio
sy'n gysylltiedig â datgoedwigo a thrawsnewid cynefinoedd dramor; f) i gefnogi
prosiectau a mentrau rhyngwladol gyda'r nod o gadw ac adfer coedwigoedd yn y
prif wledydd sy'n cynhyrchu nwyddau; a g)
i sicrhau ei bod yn hyrwyddo cytundebau masnach newydd a fydd yn gwarantu
safonau amgylcheddol a hawliau dynol uchel, yn enwedig o amgylch datgoedwigo,
ynghyd â mesurau gorfodi llym. Cyflwynwyd y gwelliant
a ganlyn: Gwelliant 1 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Ychwanegu is-bwynt
newydd ar ddiwedd pwynt 2: i
gyflwyno siarter bwyd a diod lleol i annog siopau, caffis a bwytai i werthu
bwyd a diod sy'n dod o ffynonellau lleol yn hytrach na bwyd a diod wedi'i
fewnforio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.31 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM8121 Sian Gwenllian (Arfon) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi: a) bod Deddf Llesiant
Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ei gwneud yn ofynnol i Gymru ymsefydlu
fel cenedl sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang; b) y gellir priodoli mwy na 50
y cant o goedwigoedd a gaiff eu colli yn fyd-eang a'r tir a gaiff ei drawsnewid
i gynhyrchu nwyddau amaethyddol a chynhyrchion coedwigaeth y mae defnyddwyr yn
galw amdanynt; c) bod ardal sy'n cyfateb i 40
y cant o faint Cymru yn cael ei defnyddio dramor i dyfu llond llaw yn unig o
nwyddau sy'n cael eu mewnforio i Gymru (palmwydd, soi, cig eidion, cacao, rwber
naturiol, lledr, pren, papur a mwydion); d) bod ardaloedd eang dramor yn
cael eu dinistrio i greu nwyddau a anfonir i Gymru, gyda chanlyniadau
trychinebus gan gynnwys cam-drin pobl frodorol, llafur plant, a cholli
bioamrywiaeth. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru: a) i fod yn atebol am ac adrodd
yr allyriadau sylweddol o nwyon tŷ gwydr a achosir gan Gymru dramor o
ganlyniad i'r datgoedwigo a'r golled mewn cynefin sy'n gysylltiedig â mewnforio
nwyddau i Gymru; b) i gryfhau ei chontract
economaidd – sy'n datblygu perthynas â busnes o amgylch twf ac arferion
cyfrifol – i'w gwneud yn ofynnol i lofnodwyr ymrwymo i gadwyni cyflenwi nad
ydynt yn cynnwys datgoedwigo, trosi ac ecsbloetio cymdeithasol; c) i ddatblygu system fwyd fwy
hunangynhaliol i Gymru drwy ddatblygu llwybr tuag at system fwyd sy'n
addas ar gyfer y dyfodol ac sy'n rhoi ffynhonnell gynaliadwy o fwyd i gymunedau
a fyddai'n cynnwys: (i) gwrthdroi colli capasiti
prosesu lleol; (ii) gyrru cadwyni cyflenwi
lleol; (iii) blaenoriaethu mewnforio
nwyddau cynaliadwy yn unig o dramor; a (iv) helpu i fynd i'r afael â
thlodi bwyd a diffyg maeth. d) i ddefnyddio ysgogiadau
caffael i greu gofyniad i gadwyni cyflenwi fod yn rhydd o ddatgoedwigo, trosi
ac ecsbloetio cymdeithasol, fel rhan o'r newid i ddefnyddio nwyddau cynaliadwy
sydd wedi'u cynhyrchu'n lleol; e) i gefnogi ffermwyr Cymru i
roi'r gorau i ddefnyddio bwyd anifeiliaid da byw sy'n cael ei fewnforio sy'n
gysylltiedig â datgoedwigo a thrawsnewid cynefinoedd dramor; f) i gefnogi prosiectau a
mentrau rhyngwladol gyda'r nod o gadw ac adfer coedwigoedd yn y prif wledydd
sy'n cynhyrchu nwyddau; a g) i sicrhau ei bod yn hyrwyddo
cytundebau masnach newydd a fydd yn gwarantu safonau amgylcheddol a hawliau
dynol uchel, yn enwedig o amgylch datgoedwigo, ynghyd â mesurau gorfodi llym.
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio. |
|||||||||
Cyfnod Pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 18.27 |
||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM8115 Heledd Fychan (Canol De Cymru) Cynhyrchion mislif am ddim:
yr angen i ddeddfu er mwyn sicrhau bod gan bawb sydd eu hangen fynediad atynt,
lle bynnag y maent yn byw yng Nghymru Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.28 NDM8115 Heledd Fychan (Canol De
Cymru) Cynhyrchion mislif am
ddim: yr angen i ddeddfu er mwyn sicrhau bod gan bawb sydd eu hangen fynediad
atynt, lle bynnag y maent yn byw yng Nghymru |