NDM8121 Dadl Plaid Cymru - Effaith fyd-eang defnydd domestig
NDM8121 Dadl Plaid Cymru - Effaith fyd-eang defnydd domestig
NDM8121 Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r
Dyfodol (Cymru) 2015 yn ei gwneud yn ofynnol i Gymru ymsefydlu fel cenedl sy’n
gyfrifol ar lefel fyd-eang;
b) y gellir priodoli
mwy na 50 y cant o goedwigoedd a gaiff eu colli yn fyd-eang a'r tir a gaiff ei
drawsnewid i gynhyrchu nwyddau amaethyddol a chynhyrchion coedwigaeth y mae
defnyddwyr yn galw amdanynt;
c) bod ardal sy'n
cyfateb i 40 y cant o faint Cymru yn cael ei defnyddio dramor i dyfu llond llaw
yn unig o nwyddau sy'n cael eu mewnforio i Gymru (palmwydd, soi, cig eidion,
cacao, rwber naturiol, lledr, pren, papur a mwydion);
d) bod ardaloedd eang
dramor yn cael eu dinistrio i greu nwyddau a anfonir i Gymru, gyda
chanlyniadau trychinebus gan gynnwys cam-drin pobl frodorol, llafur plant, a
cholli bioamrywiaeth.
2. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru:
a) i fod yn atebol am
ac adrodd yr allyriadau sylweddol o nwyon tŷ gwydr a achosir gan Gymru
dramor o ganlyniad i'r datgoedwigo a'r golled mewn cynefin sy'n gysylltiedig â
mewnforio nwyddau i Gymru;
b) i gryfhau ei
chontract economaidd – sy'n datblygu perthynas â busnes o amgylch twf ac
arferion cyfrifol – i'w gwneud yn ofynnol i lofnodwyr ymrwymo i gadwyni
cyflenwi nad ydynt yn cynnwys datgoedwigo, trosi ac ecsbloetio cymdeithasol;
c) i ddatblygu system
fwyd fwy hunangynhaliol i Gymru drwy ddatblygu llwybr tuag at system fwyd
sy'n addas ar gyfer y dyfodol ac sy'n rhoi ffynhonnell gynaliadwy o fwyd i
gymunedau a fyddai'n cynnwys:
(i) gwrthdroi colli
capasiti prosesu lleol;
(ii) gyrru cadwyni
cyflenwi lleol;
(iii) blaenoriaethu
mewnforio nwyddau cynaliadwy yn unig o dramor; a
(iv) helpu i fynd i'r
afael â thlodi bwyd a diffyg maeth.
d) i
ddefnyddio ysgogiadau caffael i greu gofyniad i gadwyni cyflenwi fod yn
rhydd o ddatgoedwigo, trosi ac ecsbloetio cymdeithasol, fel rhan o'r newid i
ddefnyddio nwyddau cynaliadwy sydd wedi'u cynhyrchu'n lleol;
e) i gefnogi ffermwyr
Cymru i roi'r gorau i ddefnyddio bwyd anifeiliaid da byw sy'n cael ei fewnforio
sy'n gysylltiedig â datgoedwigo a thrawsnewid cynefinoedd dramor;
f) i gefnogi
prosiectau a mentrau rhyngwladol gyda'r nod o gadw ac adfer coedwigoedd yn y
prif wledydd sy'n cynhyrchu nwyddau; a
g) i sicrhau ei bod yn
hyrwyddo cytundebau masnach newydd a fydd yn gwarantu safonau amgylcheddol a
hawliau dynol uchel, yn enwedig o amgylch datgoedwigo, ynghyd â mesurau gorfodi
llym.
Cyflwynwyd y gwelliant
a ganlyn:
Gwelliant 1 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd)
Ychwanegu is-bwynt
newydd ar ddiwedd pwynt 2:
i
gyflwyno siarter bwyd a diod lleol i annog siopau, caffis a bwytai i werthu
bwyd a diod sy'n dod o ffynonellau lleol yn hytrach na bwyd a diod wedi'i
fewnforio
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 08/11/2022