Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 99(v4)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 26/10/2022 - Y Cyfarfod Llawn
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai
Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. |
||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb
rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
cwestiwn 1-3 a 5-9. Tynnwyd cwestiwn 4 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd Lefarwyr y
Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb
rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.19 Gofynnwyd
y 10 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiynau 4 a 5 eu grwpio i’w hateb gyda’i
gilydd. Gwahoddodd y Llywydd Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r
Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol Gofyn i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r
Trefnydd Sioned
Williams (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Llywodraeth ddatganiad yn dilyn
dyfarniad yr Uchel Lys ar gynlluniau addysg Cyngor Bwrdeistref Sirol
Castell-nedd Port Talbot? Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.03 Atebwyd
gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd Sioned Williams
(Gorllewin De Cymru):
A wnaiff y Llywodraeth ddatganiad yn dilyn dyfarniad yr Uchel Lys ar gynlluniau
addysg Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot? |
|||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.09 Gwnaeth
Natasha Asghar ddatganiad am - Diwali. |
|||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cynnig i ethol Cadeirydd Dros Dro y Cyfarfodydd Llawn NDM8114 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 6.23A, yn ethol Paul Davies fel
Cadeirydd Dros Dro y Cyfarfodydd Llawn. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.11 NDM8114 Elin Jones
(Ceredigion) Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 6.23A, yn ethol Paul Davies fel
Cadeirydd Dros Dro y Cyfarfodydd Llawn. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.91 yn ceisio cytundeb y Senedd i gyflwyno Bil Aelod – Bil Addysg Awyr Agored (Cymru) NDM8069 Sam Rowlands (Gogledd Cymru) Cynnig bod y Senedd,
yn unol â Rheol Sefydlog 26.91: Yn
cytuno y caiff Sam Rowlands AS gyflwyno Bil i roi effaith i'r wybodaeth a
gaiff ei chynnwys yn y Memorandwm
Esboniadol a gyhoeddwyd ar 17 Awst 2022 o dan Reol Sefydlog 26.91A. Dogfennau
Ategol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.12 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM8069 Sam Rowlands (Gogledd
Cymru) Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.91: Yn
cytuno y caiff Sam Rowlands AS gyflwyno Bil i roi effaith i'r wybodaeth a
gaiff ei chynnwys yn y Memorandwm Esboniadol a gyhoeddwyd ar
17 Awst 2022 o dan Reol Sefydlog 26.91A. Dogfennau
Ategol Papur Ystadegol: Bil Addysg Awyr Agored (Cymru) Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Bil Manteisio ar Fudd-daliadau NDM8108 Sioned Williams (Gorllewin De Cymru) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi
cynnig ar gyfer Bil defnyddio budd-daliadau. 2. Yn nodi
mai diben y Bil hwn fyddai: a) sicrhau bod mwy o
arian yn dod i bocedi pobl Cymru drwy gynyddu'r defnydd o daliadau cymorth
Cymreig a thaliadau cymorth awdurdodau lleol; b) gosod dyletswydd ar
bob sefydliad sector cyhoeddus i hyrwyddo i'r eithaf y defnydd o fudd-daliadau
Cymreig a budd-daliadau awdurdodau lleol; c)
ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus symleiddio a sicrhau cysondeb drwy
Gymru o ran y dull o ymgeisio am fudd-daliadau o'r fath. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.05 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM8108 Sioned Williams
(Gorllewin De Cymru) Cynnig
bod y Senedd: 1.
Yn nodi cynnig ar gyfer Bil defnyddio budd-daliadau. 2.
Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai: a)
sicrhau bod mwy o arian yn dod i bocedi pobl Cymru drwy gynyddu'r defnydd o
daliadau cymorth Cymreig a thaliadau cymorth awdurdodau lleol; b)
gosod dyletswydd ar bob sefydliad sector cyhoeddus i hyrwyddo i'r eithaf y
defnydd o fudd-daliadau Cymreig a budd-daliadau awdurdodau lleol; c)
ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus symleiddio a sicrhau cysondeb drwy
Gymru o ran y dull o ymgeisio am fudd-daliadau o'r fath. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg – Mae’n effeithio ar bawb: Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr NDM8112 Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi adroddiad y
Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ‘Mae’n effeithio ar bawb: Aflonyddu
rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr’ a osodwyd yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Gorffennaf 2022. Nodyn:
Gosodwyd
ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Hydref 2022. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
16.32 NDM8112 Jayne Bryant
(Gorllewin Casnewydd) Cynnig
bod y Senedd: Yn
nodi adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ‘Mae’n effeithio ar
bawb: Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr’ a osodwyd yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Gorffennaf 2022. Nodyn: Gosodwyd ymateb
Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Hydref 2022. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Strôc NDM8113 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi bod Diwrnod
Strôc y Byd yn cael ei gynnal ar 29 Hydref 2022. 2. Yn cydnabod yr ymateb
brys sydd ei angen i atal perygl i fywyd pobl sy'n dioddef strôc. 3. Yn cyfarwyddo'r
Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, yn unol â Rheol Sefydlog 17.2, i
gynnal adolygiad i fanteision a heriau ail-gategoreiddio strôc fel
"coch: galwadau sy'n bygwth bywyd ar unwaith" o dan y Model
Ymateb Clinigol. Cyflwynwyd y gwelliant
a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu pwynt 3 a rhoi
yn ei le: Yn
nodi sefydlu Bwrdd y Rhaglen Strôc yn ddiweddar i ysgogi gwelliannau mewn
gwasanaethau ac i sicrhau canlyniadau gwell i bobl yng Nghymru o ran strôc. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.15 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM8113 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi bod Diwrnod Strôc y
Byd yn cael ei gynnal ar 29 Hydref 2022. 2. Yn cydnabod yr ymateb brys
sydd ei angen i atal perygl i fywyd pobl sy'n dioddef strôc. 3. Yn cyfarwyddo'r Pwyllgor
Iechyd a Gofal Cymdeithasol, yn unol â Rheol Sefydlog 17.2, i gynnal adolygiad
i fanteision a heriau ail-gategoreiddio strôc fel "coch: galwadau sy'n
bygwth bywyd ar unwaith" o dan y Model Ymateb Clinigol.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliant a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le: Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM8113 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi bod Diwrnod Strôc y
Byd yn cael ei gynnal ar 29 Hydref 2022. 2. Yn cydnabod yr ymateb brys
sydd ei angen i atal perygl i fywyd pobl sy'n dioddef strôc. 3. Yn nodi sefydlu Bwrdd y
Rhaglen Strôc yn ddiweddar i ysgogi gwelliannau mewn gwasanaethau ac i sicrhau
canlyniadau gwell i bobl yng Nghymru o ran strôc.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.06 |
||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM8107 Tom Giffard (Gorllewin De Cymru) Ariannu
dyfodol Cymru: buddsoddi mewn prifysgolion i sbarduno twf economaidd Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.11 NDM8107 Tom Giffard
(Gorllewin De Cymru) Ariannu
dyfodol Cymru: buddsoddi mewn prifysgolion i sbarduno twf economaidd |