NDM8113 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Strôc

NDM8113 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Strôc

NDM8113 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod Diwrnod Strôc y Byd yn cael ei gynnal ar 29 Hydref 2022.

2. Yn cydnabod yr ymateb brys sydd ei angen i atal perygl i fywyd pobl sy'n dioddef strôc.

3. Yn cyfarwyddo'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, yn unol â Rheol Sefydlog 17.2, i gynnal adolygiad i fanteision a heriau ail-gategoreiddio strôc fel "coch: galwadau sy'n bygwth bywyd ar unwaith" o dan y Model Ymateb Clinigol.

Model Ymateb Clinigol

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

Yn nodi sefydlu Bwrdd y Rhaglen Strôc yn ddiweddar i ysgogi gwelliannau mewn gwasanaethau ac i sicrhau canlyniadau gwell i bobl yng Nghymru o ran strôc.

 

Math o fusnes: Dadl

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 25/10/2022