NDM8108 Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Bil Manteisio ar Fudd-daliadau

NDM8108 Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Bil Manteisio ar Fudd-daliadau

NDM8108 Sioned Williams (Gorllewin De Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil defnyddio budd-daliadau.

2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:

a) sicrhau bod mwy o arian yn dod i bocedi pobl Cymru drwy gynyddu'r defnydd o daliadau cymorth Cymreig a thaliadau cymorth awdurdodau lleol;

b) gosod dyletswydd ar bob sefydliad sector cyhoeddus i hyrwyddo i'r eithaf y defnydd o fudd-daliadau Cymreig a budd-daliadau awdurdodau lleol;

c) ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus symleiddio a sicrhau cysondeb drwy Gymru o ran y dull o ymgeisio am fudd-daliadau o'r fath.

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Math: Er gwybodaeth

Cyhoeddwyd gyntaf: 25/10/2022