Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Amseriad disgwyliedig: 15(v4)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 14/07/2021 - Y Cyfarfod Llawn
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai
Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd Bydd y
Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl
Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
13.30 Gofynnwyd yr 8 cwestiwn
cyntaf. Atebwyd cwestiynau 2 a 6 gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd.
Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog a’r
Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg Bydd y
Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl
Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
14.19 Gofynnwyd yr 8 cwestiwn
cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r
Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan y Prif Weinidog: Cynllun Rheoli’r Coronafeirws Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.07 Yn unol â Rheol Sefydlog
12.18, am 15.53 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Llywydd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(0 munud) |
Cwestiynau Amserol Ni chafwyd unrhyw Gwestiynau Amserol Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
Gwestiynau Amserol. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
16.05 Gwnaeth Elin Jones
ddatganiad am - Cofio Elystan Morgan. Gwnaeth Jane Dodds ddatganiad
am - Nodi 50 mlynedd ers agor llwybr
troed Clawdd Offa. Gwnaeth Joel James
ddatganiad am - Mae Eglwys Edward Gyffeswr yn y Rhath yn dathlu can mlynedd ers
gosod ei charreg sylfaen. Gwnaeth Cefin Campbell ddatganiad am - Dathlu
50 mlwyddiant y Mudiad Meithrin. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cynnig i sefydlu pwyllgor o dan Reol Sefydlog 16.1: Pwyllgor y Llywydd NDM7765 Elin Jones
(Ceredigion) Cynnig bod Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn
sefydlu Pwyllgor y Llywydd i gyflawni’r swyddogaethau a nodir yn Rheol Sefydlog
18B.2. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.12 NDM7765 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Senedd, yn
unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor y Llywydd i gyflawni’r
swyddogaethau a nodir yn Rheol Sefydlog 18B.2. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cynnig i ethol aelodau i bwyllgor: Pwyllgor y Llywydd NDM7769 Elin Jones
(Ceredigion) Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3 a
Rheol Sefydlog 18.B4: Yn ethol y canlynol fel aelodau o Bwyllgor y Llywydd: a) Y Dirprwy Lywydd fel Cadeirydd y Pwyllgor; b) Peredur Owen Griffiths, (cadeirydd y pwyllgor cyfrifol
o dan Reol Sefydlog 19); a c) Joyce Watson (Llafur Cymru), Janet Finch-Saunders
(Ceidwadwyr Cymreig) a Rhys ab Owen (Plaid Cymru). Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.13 NDM7769 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3 a
Rheol Sefydlog 18.B4: Yn ethol y canlynol yn aelodau o Bwyllgor y Llywydd: a) Y Dirprwy Lywydd yn Gadeirydd y Pwyllgor;b) Peredur
Owen Griffiths (cadeirydd y pwyllgor cyfrifol o dan Reol Sefydlog 19); ac)
Joyce Watson (Llafur Cymru), Janet Finch-Saunders (Ceidwadwyr Cymreig) a Rhys
ab Owen (Plaid Cymru. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod – Bil gofal preswyl i blant NDM7723 Jane Dodds (Canolbarth
a Gorllewin Cymru) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil ar reoleiddio, monitro a
chomisiynu gofal preswyl i blant, gan gynnwys plant y mae angen gofal iechyd
meddwl cleifion mewnol arnynt, a gwasanaethau i bobl ag anableddau dysgu neu
niwroamrywiaeth arall yng Nghymru. 2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai: a) gwella'r broses o gomisiynu a darparu lleoliadau gofal
preswyl i blant yng Nghymru, gan gynnwys cydgysylltu a darparu ar draws
awdurdodau lleol i sicrhau bod lleoliadau addas yn fwy digonol; b) gwella'r broses o reoleiddio a monitro gofal preswyl a
lleoliadau maethu, gan gynnwys alinio â gwasanaethau eraill fel addysg, tai a
digartrefedd, ac iechyd; c) dileu'r ddarpariaeth ar gyfer darparwyr sy'n gwneud
elw yn y sector gofal preswyl ar gyfer plant sy'n derbyn gofal, yn ogystal â
gwasanaethau i bobl ag anableddau dysgu a niwroamrywiaeth. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.13 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM7723
Jane Dodds (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Cynnig
bod y Senedd: 1.
Yn nodi cynnig ar gyfer Bil ar reoleiddio, monitro a chomisiynu gofal preswyl i
blant, gan gynnwys plant y mae angen gofal iechyd meddwl cleifion mewnol
arnynt, a gwasanaethau i bobl ag anableddau dysgu neu niwroamrywiaeth arall yng
Nghymru. 2.
Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai: a)
gwella'r broses o gomisiynu a darparu lleoliadau gofal preswyl i blant yng
Nghymru, gan gynnwys cydgysylltu a darparu ar draws awdurdodau lleol i sicrhau
bod lleoliadau addas yn fwy digonol; b)
gwella'r broses o reoleiddio a monitro gofal preswyl a lleoliadau maethu, gan
gynnwys alinio â gwasanaethau eraill fel addysg, tai a digartrefedd, ac iechyd; c)
dileu'r ddarpariaeth ar gyfer darparwyr sy'n gwneud elw yn y sector gofal
preswyl ar gyfer plant sy'n derbyn gofal, yn ogystal â gwasanaethau i bobl ag
anableddau dysgu a niwroamrywiaeth. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig – Ymchwiliad cyhoeddus annibynnol i'r ffordd yr ymdriniwyd â phandemig COVID-19 NDM7768 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd) Cynnig bod y Senedd: Yn galw am ymchwiliad cyhoeddus annibynnol i'r ffordd yr
ymdriniwyd â phandemig COVID-19 yng Nghymru. Cyd-gyflwynwr: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.39 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM7768
Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig
bod y Senedd: Yn
galw am ymchwiliad cyhoeddus annibynnol i'r ffordd yr ymdriniwyd â phandemig
COVID-19 yng Nghymru. Cyd-gyflwynwr: Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Gwrthodwyd y cynnig. Yn
unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 17.22 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y
Dirprwy Lywydd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru – Prydau ysgol am ddim NDM7767 Sian Gwenllian
(Arfon) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi cyhoeddi sawl adroddiad yn ddiweddar gan Sefydliad
Bevan a Chlymblaid Gwrthdlodi Cymru ar ehangu'r ddarpariaeth o brydau ysgol am
ddim a graddau tlodi yng Nghymru. 2. Yn nodi bod llythyr a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan
Glymblaid Gwrthdlodi Cymru ac a lofnodwyd gan 10 sefydliad gwrthdlodi yn galw
ar Lywodraeth newydd Cymru i wneud ehangu prydau ysgol am ddim yn flaenoriaeth.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) ddiwygio'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer prydau
ysgol am ddim fel bod pob disgybl ysgol mewn teulu sy'n cael credyd cynhwysol
neu fudd-dal cyfatebol yn gymwys; b) ymestyn hawliau prydau ysgol am ddim yn barhaol i
ddisgyblion mewn teuluoedd nad yw cyllid cyhoeddus ar gael iddynt; c) cyhoeddi llinell amser ar gyfer gweithredu prydau
ysgol am ddim i bawb fesul cam er mwyn gwarantu cinio ysgol maethlon o
ffynonellau lleol i bob disgybl ysgol. Sefydliad
Bevan: Expanding the provision of free school meals in Wales (Saesneg yn
unig) Sefydliad
Bevan: Expanding the eligibility criteria for free school meals (Saesneg yn
unig) Sefydliad
Bevan: Snapshot of poverty in spring 2021 (Saesneg yn unig) Mae copi o'r llythyr a gaiff ei grybwyll ym mhwynt 2 o'r
cynnig wedi cael ei anfon i Aelodau o'r Senedd. Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley Griffiths
(Wrecsam) Dileu pwynt 3 a rhoi
yn ei le: Yn nodi bod
Llywodraeth Cymru: a) wedi cychwyn
adolygu’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer prydau ysgol am ddim yn unol â’r
ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu, gyda’r bwriad o ymestyn yr hawl, mae data
dros dro y Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD) yn dangos
bod 108,203 o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, cynnydd o bron
i 18,000 ers CYBLD 2020; b) wedi darparu £60
miliwn ychwanegol ers dechrau’r pandemig i ddarparu prydau ysgol am ddim
ychwanegol yn ystod blwyddyn ariannol 2020-21 ac wedi cael cydnabyddiaeth gan y
Sefydliad Polisi Addysg am ei chymorth i deuluoedd sy’n gymwys i gael prydau
ysgol am ddim yn ystod y pandemig; c) yn mynd i ddarparu
£23.3 miliwn ychwanegol i ymestyn prydau ysgol am ddim yn ystod gwyliau’r ysgol
ym mlwyddyn ariannol 2021-22, gan sicrhau’r ddarpariaeth fwyaf hael yn y
DU; ac d) yn gweithio gyda
phartneriaid i ddarparu’r unig gynllun cyffredinol i roi brecwast am ddim mewn
ysgolion cynradd yn y DU. [Os derbynnir
gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol] Gwelliant 2 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd) Ym mhwynt 3, dileu
is-bwynt (c). Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.41 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7767 Sian
Gwenllian (Arfon) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi cyhoeddi sawl
adroddiad yn ddiweddar gan Sefydliad Bevan a Chlymblaid Gwrthdlodi Cymru ar
ehangu'r ddarpariaeth o brydau ysgol am ddim a graddau tlodi yng Nghymru. 2. Yn nodi bod llythyr a
gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Glymblaid Gwrthdlodi Cymru ac a lofnodwyd gan 10
sefydliad gwrthdlodi yn galw ar Lywodraeth newydd Cymru i wneud ehangu prydau
ysgol am ddim yn flaenoriaeth. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i: a) ddiwygio'r meini prawf
cymhwysedd ar gyfer prydau ysgol am ddim fel bod pob disgybl ysgol mewn teulu
sy'n cael credyd cynhwysol neu fudd-dal cyfatebol yn gymwys; b) ymestyn hawliau prydau ysgol
am ddim yn barhaol i ddisgyblion mewn teuluoedd nad yw cyllid cyhoeddus ar gael
iddynt; c) cyhoeddi llinell amser ar
gyfer gweithredu prydau ysgol am ddim i bawb fesul cam er mwyn gwarantu cinio
ysgol maethlon o ffynonellau lleol i bob disgybl ysgol. Sefydliad Bevan: Expanding the provision of free
school meals in Wales (Saesneg yn unig) Sefydliad Bevan: Expanding the eligibility criteria
for free school meals (Saesneg yn unig) Sefydliad Bevan: Snapshot of poverty in spring 2021 (Saesneg yn unig) Mae copi o'r llythyr a gaiff ei
grybwyll ym mhwynt 2 o'r cynnig wedi cael ei anfon at Aelodau o'r Senedd.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley
Griffiths (Wrecsam) Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le: Yn nodi bod Llywodraeth Cymru: a) wedi cychwyn adolygu’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer
prydau ysgol am ddim yn unol â’r ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu, gyda’r
bwriad o ymestyn yr hawl, mae data dros dro y Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar
Lefel Disgyblion (CYBLD) yn dangos bod 108,203 o ddisgyblion yn gymwys i gael
prydau ysgol am ddim, cynnydd o bron i 18,000 ers CYBLD 2020; b) wedi darparu £60 miliwn ychwanegol ers dechrau’r
pandemig i ddarparu prydau ysgol am ddim ychwanegol yn ystod blwyddyn ariannol
2020-21 ac wedi cael cydnabyddiaeth gan y Sefydliad Polisi Addysg am ei
chymorth i deuluoedd sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn ystod y
pandemig; c) yn mynd i ddarparu £23.3 miliwn ychwanegol i ymestyn
prydau ysgol am ddim yn ystod gwyliau’r ysgol ym mlwyddyn ariannol 2021-22, gan
sicrhau’r ddarpariaeth fwyaf hael yn y DU; ac d) yn gweithio gyda phartneriaid i ddarparu’r unig
gynllun cyffredinol i roi brecwast am ddim mewn ysgolion cynradd yn y DU. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd
ei bleidlais fwrw i bleidleisio yn erbyn y gwelliant, yn unol â Rheol Sefydlog
6.20(ii). Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Ym mhwynt 3, dileu is-bwynt (c). Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM7767 Sian
Gwenllian (Arfon) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi cyhoeddi sawl adroddiad
yn ddiweddar gan Sefydliad Bevan a Chlymblaid Gwrthdlodi Cymru ar ehangu'r
ddarpariaeth o brydau ysgol am ddim a graddau tlodi yng Nghymru. 2. Yn nodi bod llythyr a
gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Glymblaid Gwrthdlodi Cymru ac a lofnodwyd gan 10
sefydliad gwrthdlodi yn galw ar Lywodraeth newydd Cymru i wneud ehangu prydau
ysgol am ddim yn flaenoriaeth. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i: a) ddiwygio'r meini prawf
cymhwysedd ar gyfer prydau ysgol am ddim fel bod pob disgybl ysgol mewn teulu
sy'n cael credyd cynhwysol neu fudd-dal cyfatebol yn gymwys; b) ymestyn hawliau prydau ysgol
am ddim yn barhaol i ddisgyblion mewn teuluoedd nad yw cyllid cyhoeddus ar gael
iddynt; Sefydliad Bevan: Expanding the provision of free
school meals in Wales (Saesneg yn unig) Sefydliad Bevan: Expanding the eligibility criteria
for free school meals (Saesneg yn unig) Sefydliad Bevan: Snapshot of poverty in spring 2021 (Saesneg yn unig) Mae copi o'r llythyr a gaiff ei
grybwyll ym mhwynt 2 o'r cynnig wedi cael ei anfon at Aelodau o'r Senedd.
Gwrthodwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Yn
unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 18.31 cafodd y trafodion eu hatal dros dro i
ganiatau egwyl cyn y Cyfnod Pleidleisio. Dechreuodd
yr eitem am 18.42 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM7766 Buffy Williams
(Rhondda) Cymorth i fenywod sy'n dioddef anhwylder straen wedi
trawma ôl-enedigol. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.47 NDM7766 Buffy Williams (Rhondda) Cymorth i fenywod sy'n dioddef anhwylder straen wedi trawma ôl-enedigol. |