NDM7723 Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Bil gofal preswyl i blant

NDM7723 Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Bil gofal preswyl i blant

NDM7723 Jane Dodds (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil ar reoleiddio, monitro a chomisiynu gofal preswyl i blant, gan gynnwys plant y mae angen gofal iechyd meddwl cleifion mewnol arnynt, a gwasanaethau i bobl ag anableddau dysgu neu niwroamrywiaeth arall yng Nghymru.

2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:

a) gwella'r broses o gomisiynu a darparu lleoliadau gofal preswyl i blant yng Nghymru, gan gynnwys cydgysylltu a darparu ar draws awdurdodau lleol i sicrhau bod lleoliadau addas yn fwy digonol;

b) gwella'r broses o reoleiddio a monitro gofal preswyl a lleoliadau maethu, gan gynnwys alinio â gwasanaethau eraill fel addysg, tai a digartrefedd, ac iechyd;

c) dileu'r ddarpariaeth ar gyfer darparwyr sy'n gwneud elw yn y sector gofal preswyl ar gyfer plant sy'n derbyn gofal, yn ogystal â gwasanaethau i bobl ag anableddau dysgu a niwroamrywiaeth.

Math o fusnes: Dadl

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 13/07/2021