Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sarah Beasley
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 29/01/2020 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1
O dan Reol Sefydlog 17.47,
gohiriodd y Cadeirydd y cyfarfod tan 10.30 gan nad oedd y cynrychiolydd o
Gymdeithas y Swyddogion Carchar yn bresennol. 1.2
Ailgynullodd y Pwyllgor am 10.30. Croesawodd
y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. 1.3
Nododd y Cadeirydd fod Helen Mary
Jones AC bellach wedi gadael y Pwyllgor. Diolchodd y Cadeirydd i'r Aelod am ei
chyfraniad at waith y Pwyllgor, a chroesawodd Rhun ap Iorwerth AC fel aelod
newydd o'r Pwyllgor. |
|
(09.30-10.15) |
Darparu gofal iechyd a gofal cymdeithasol ar yr ystâd carchardai i oedolion: Sesiwn dystiolaeth gyda Chymdeithas y Swyddogion Carchar Ricky McNeil, Swyddog Carchar a Swyddog Cangen POA, CEM
Berwyn Briff ymchwil Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Ni
chynhaliwyd y sesiwn dystiolaeth gan nad oedd y cynrychiolydd o Gymdeithas y
Swyddogion Carchar yn bresennol. |
|
(10.15) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o eitem 4 ac eitem 5 o’r cyfarfod heddiw. Cofnodion: 3.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
|
(10.15-10.30) |
Darparu gofal iechyd a gofal cymdeithasol ar yr ystâd carchardai i oedolion: Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 4.1 Ni chynhaliwyd yr eitem
gan nad oedd y cynrychiolydd o Gymdeithas y Swyddogion Carchar yn bresennol. |
|
(10.30-10.45) |
Ymchwiliad i’r prosesau ar gyfer rhyddhau cleifion o’r ysbyty: Cwmpas a dull gweithredu papur cwmpasu ar
brosesau ar gyfer rhyddhau cleifion o’r ysbyty Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.1 Bu'r
Pwyllgor yn ystyried y cwmpas a'r dull arfaethedig ar gyfer yr ymchwiliad i
brosesau rhyddhau o'r ysbyty, a chytunodd arno. |
|
(10.45-11.45) |
Darparu gofal iechyd a gofal cymdeithasol ar yr ystâd carchardai i oedolion: Sesiwn Dystiolaeth gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Vaughan Gething AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol Matt Downton, Pennaeth Iechyd Meddwl a Grwpiau Agored i
Niwed, Llywodraeth Cymru Alistair Davey, Dirprwy Gyfarwyddwr Galluogi Pobl,
Llywodraeth Cymru Papur 1 – Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 6.1 Clywodd
y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. 6.2
Cytunodd swyddogion Llywodraeth Cymru i ddarparu: Ø Ffigurau gwariant gan Fyrddau Iechyd ar ofal iechyd i’r carchardai. Ø Gwybodaeth ychwanegol ynghylch grŵp goruchwylio iechyd a gofal
cymdeithasol carchardai. Ø Diweddariad ar y safonau drafft ar gyfer iechyd meddwl mewn carchardai. Ø Copi o Strategaeth HMPSS ar gyfer ymdrin â phobl hŷn yn y ddalfa yn
rhanbarth Cymru. |
|
(11.45) |
Papurau i’w nodi |
|
Llythyr gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sy’n rhoi gwybodaeth ychwanegol yn dilyn y sesiwn graffu gyffredinol gyda’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar 3 Hydref 2019 Dogfennau ategol: Cofnodion: 7.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr. |
||
Llythyr gan Gomisiynydd y Gymraeg ynghylch Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) Dogfennau ategol: Cofnodion: 7.2 Nododd y Pwyllgor y llythyr. |
||
(11.45) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 8.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig o dan Reol Sefydlog
17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod. |
|
(11.45-12.00) |
Darparu gofal iechyd a gofal cymdeithasol ar yr ystâd carchardai i oedolion: Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 9.1 Trafododd y Pwyllgor dystiolaeth y Gweinidog a'r
themâu allweddol sy'n codi yn sgîl yr ymchwiliad, ar gyfer eu cynnwys yn ei
adroddiad. |
|
(12.00-12.30) |
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2020-21: Trafod yr adroddiad drafft Dogfennau ategol: Cofnodion: 10.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft gan
dderbyn casgliadau ac argymhellion yr adroddiad, yn amodol ar fân newidiadau a
oedd i’w cytuno drwy e-bost. |