Darparu gofal iechyd a gofal cymdeithasol ar yr ystâd carchardai i oedolion

Darparu gofal iechyd a gofal cymdeithasol ar yr ystâd carchardai i oedolion

Inquiry5

Cynhaliodd Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Pumed Senedd ymchwiliad i’r ddarpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol mewn carchardai yng Nghymru.

Er nad yw carchardai wedi’u datganoli, mae’r system gofal iechyd wedi’i datganoli, ac mae gan Lywodraeth Cymru gyfres glir o gyfrifoldebau i ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i garcharorion a gaiff eu cadw yng Nghymru. Roedd ymchwiliad y Pwyllgor yn canolbwyntio ar brofiadau carcharorion yng Nghymru o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ar yr ystâd carchardai i oedolion.

Cyhoeddodd Pwyllgor y Pumed Senedd ei adroddiad ym mis Mawrth 2021. Ymatebodd Llywodraeth Cymru ym mis Awst 2021.

Ysgrifennodd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Chweched Senedd at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar 8 Gorffennaf 2022 i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am argymhellion Pwyllgor y Pumed Senedd. Ymatebodd y Gweinidog ar 2 Medi 2022

 

Y cefndir

Llywodraeth Cymru sydd â’r cyfrifoldeb cyffredinol dros ddatblygu gofal iechyd yng ngharchardai’r sector cyhoeddus yng Nghymru. GIG Cymru sy’n atebol am gynllunio gwasanaethau iechyd i garcharorion, ond dim ond mewn partneriaeth â Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi (HMPPS) y gellir gweithredu’r cyfrifoldeb hwn. Ar lefel leol, mae Byrddau Partneriaeth Iechyd Carchardai, a gaiff eu cadeirio ar y cyd gan Fyrddau Iechyd Lleol a Llywodraethwyr y carchardai, yn gyfrifol am reoli gwasanaethau iechyd carchardai.

Yr eithriad i’r drefn hon yw Carchar EM Parc. Yn yr achos hwn, ariennir a chomisiynir gwasanaethau gofal iechyd sylfaenol drwy’r Weinyddiaeth Gyfiawnder o dan gontract preifat gyda chwmni G4S. Y GIG yng Nghymru sy’n gyfrifol am gomisiynu gwasanaethau gofal eilaidd / gofal trydyddol yno.

Ystâd carchardai Cymru

Dynion yn unig yw’r carcharorion yng Nghymru, ac roedd y boblogaeth hon yn 4,291 ar ddiwedd mis Ebrill 2018.  Caiff carcharorion eu cadw ar bum safle yn ne Cymru ac yng Ngharchar Berwyn yn y gogledd, ac mae categori gwahanol ar gyfer pob carchar o ran proffil, swyddogaeth a diogelwch. Nid oes dim carchardai i fenywod yng Nghymru. Y sefydliadau agosaf ar gyfer  menywod yw Carchar EM Eastwood Park yn Swydd Gaerloyw a Charchar EM Styal yn Swydd Gaer. Mae Carchar Parc yn garchar ar gyfer oedolion yn bennaf, ond mae hefyd yn cynnwys Sefydliad Troseddwyr Ifanc ble y caiff y rhan fwyaf o’r carcharorion 18-24 mlwydd oed yng Nghymru eu cadw. Y Bwrdd Iechyd lle mae’r carchar wedi’i leoli sy’n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau gofal iechyd. Y Byrddau Iechyd dan sylw yw: 

  • Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan - Carchar EM Brynbuga a Charchar EM Prescoed
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a Sir Fynwy - Carchar EM Caerdydd
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg – Carchar EM Abertawe
  • Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr – Carchar EM Berwyn

Mae gan bob carchar ei gyfleusterau gofal iechyd ei hun. Mae meddygon teulu, nyrsys a chynorthwywyr gofal iechyd yn gweithio ar y safle ym mhob carchar.

Sesiynau tystiolaeth

 

Sesiwn dystiolaeth

Dyddiad, Agenda a Chofnodion

Trawsgrifiad

Fideo

1. Dr Robert Jones

Dr Robert Jones, Canolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd

27 Mawrth 2019

Darllenwch y trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd.tv

2. Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, Arolygiaeth Carchardai Ei Mawrhydi ac Arolygiaeth Gofal Cymru

Rhys Jones, Pennaeth Uwchgyfeirio a Gorfodi, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru

Tania Osborne, Pennaeth Arolygu Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Arolygiaeth Carchardai Ei Mawrhydi

Gillian Baranski, Prif Arolygydd, Arolygiaeth Gofal Cymru

03 Hydref 2019

Darllenwch y trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd.tv

3. Ombwdsman Carchardai a Phrawf

Sue McAllister, Ombwdsman Carchardai a Phrawf

13 Tachwedd 2019

Darllenwch y trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd.tv

4. Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru

Jackie Davies, Pennaeth Gwasanaethau Oedolion ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru

Y Cyngnorydd Huw David, Llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

21 Tachwedd 2019

Darllenwch y trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd.tv

5. Byrddau Iechyd Lleol

Rob Smith, Cyfarwyddwr Ardal y Dwyrain, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Rob Lightburn, Dirprwy Bennaeth Gofal Iechyd, CEM Berwyn, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Alan Lawrie, Cyfarwyddwr Iechyd Sylfaenol, Iechyd Cymunedol ac Iechyd Meddwl, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Carmel Donovan, Rheolwr Gwasanaeth Cymunedau Integredig, Bwrdd Iechyd Prifysgol Carmel Donovan

Alison Ryland, Uwch-nyrs/Rheolwr Gofal Iechyd ym maes Gofal Sylfaenol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Dr Mair Strinati, Cyfarwyddwr Clinigol Grwpiau Agored i Niwed, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Dr Anjula Mehta, Meddyg Teulu a Chyfarwyddwr Dros Dro Gwasanaethau Iechyd Sylfaenol a Chymunedol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Emily Dibdin, Arweinydd Clinigol ar gyfer Amgylcheddau Diogel a Chamddefnyddio Sylweddau, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

 

21 Tachwedd 2019

Darllenwch y trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd.tv

6. Gwasanaeth Carchardai a Phrawf ei Mawrhydi

Chris Jennings, Cyfarwyddwr Gweithredol Cymru (Dros Dro) – Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EM

Amanda Corrigan, Llywodraethwr Carchar EM Abertawe

Janet Wallsgrove, Llywodraethwr Carchar EM Parc

9 Ionawr 2020

Darlllenwch y trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd.tv

6. Llywodraeth Cymru

Vaughan Gething AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Matt Downton, Pennaeth Iechyd Meddwl a Grwpiau Agored i Niwed, Llywodraeth Cymru

Alistair Davey, Dirprwy Gyfarwyddwr Galluogi Pobl, Llywodraeth Cymru

29 Ionawr 2020

Darllenwch y trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd.tv

 

 

 

 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 20/02/2019

Dogfennau

Papurau cefndir

Ymgynghoriadau