Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Naomi Stocks
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 12/10/2020 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1. Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r Pwyllgor
Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau. 1.2. Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, nododd y Cadeirydd
ei fod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu
iechyd y cyhoedd. 1.3. Nododd y Cadeirydd, os bydd yn gadael y cyfarfod heb
rybudd am unrhyw reswm, fod y Pwyllgor wedi cytuno y bydd Dawn Bowden AS yn dod
yn Gadeirydd dros dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22. |
||
(13.30 - 14.45) |
Ymchwiliad i COVID-19 a’i effaith ar faterion sy’n ymwneud â chylch gwaith y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau - sesiwn dystiolaeth gyda’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol Julie James AS, y
Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr
Cyffredinol, Cydlynu Argyfwng COVID-19, Llywodraeth Cymru Emma Williams, Cyfarwyddwr
Tai ac Adfywio, Llywodraeth Cymru Claire Bennett, Cyfarwyddwr
Cymunedau a Threchu Tlodi, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan: ·
Julie James AS, y Gweinidog Tai a
Llywodraeth Leol ·
Emma Williams, Cyfarwyddwr, Tai ac
Adfywio, Llywodraeth Cymru ·
Claire Bennett, Cyfarwyddwr, Cymunedau
a Threchu Tlodi, Llywodraeth Cymru |
|
(15.00 - 16.15) |
Ymchwiliad i COVID-19 a’i effaith ar faterion sy’n ymwneud â chylch gwaith y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau - sesiwn dystiolaeth gyda’r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip Jane Hutt AS, y
Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip Alyson Francis, Dirprwy
Gyfarwyddwr yr Is-Adran Cymunedau, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan: ·
Jane Hutt AS, y
Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip ·
Alyson Francis,
Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Gymunedau, Llywodraeth Cymru 3.2. Yn ystod y sesiwn dystiolaeth, cytunodd y Dirprwy
Weinidog a’r Prif Chwip i ddarparu: ·
rhestr o aelodau'r
grŵp cyfathrebu hygyrch; ·
y dyddiad cau i’r
grŵp cyllido cynaliadwy ar gyfer trais yn erbyn menywod,
cam-drin domestig a thrais gytuno ar y model cyllido cynaliadwy. |
|
Papur(au) i’w nodi Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol at Gadeirydd pob Pwyllgor ynghylch y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1.a. Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Tai a
Llywodraeth Leol at Gadeirydd pob Pwyllgor ynghylch y Fframwaith Datblygu
Cenedlaethol. |
||
Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd at y Llywydd mewn perthynas â Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Tenantiaethau Preswyl: Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Cymru) 2020 Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.2.a. Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog
Cyllid a’r Trefnydd at y Llywydd mewn perthynas â Rheoliadau Deddf y Coronafeirws
2020 (Tenantiaethau Preswyl: Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Cymru) 2020. |
||
Gwybodaeth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â’r Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.3.a. Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan
Lywodraeth Cymru mewn perthynas â Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru). |
||
Llythyr gan y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip mewn perthynas â’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Cam-drin Domestig Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.4.a. Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Dirprwy Weinidog
a’r Prif Chwip mewn perthynas â’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil
Cam-drin Domestig. |
||
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus mewn perthynas ag effaith y pandemig COVID-19 Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.5.a. Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y
Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus mewn perthynas ag effaith y pandemig COVID-19. |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 5.1. Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig. |
||
(16.15 - 16.30) |
Ymchwiliad i COVID-19 a’i effaith ar faterion sy’n ymwneud â chylch gwaith y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau - trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 6.1. Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd a
cytunodd i ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip mewn perthynas â
materion a godwyd yn ystod y sesiwn. |
|
(16.30 - 16.45) |
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Cam-drin Domestig - trafod yr ymateb gan Lywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1. Trafododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru
a chytunodd i ysgrifennu ymateb ar y cyd gyda'r Pwyllgor Deddfwriaeth,
Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad. |