Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Naomi Stocks
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 09/01/2019 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1. Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd
i'r cyfarfod. 1.2. Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Siân
Gwenllian AC , Jack Sargeant AC a Jayne Bryant AC.
Dirprwyodd Huw Irranca-Davies AC ar ran Jayne Bryant AC. |
||
(09.30 - 10.30) |
Craffu ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2017/18 Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Chris Vinestock, Prif Swyddog Gweithredol a Chyfarwyddwr
Ymchwiliadau Katrin Shaw, Prif Swyddog Gweithredol a Chyfarwyddwr
Ymchwiliadau Ombwdsmon
Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: adroddiad blynyddol a chyfrifon 2017/18 Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Clywodd
y Pwyllgor dystiolaeth gan: · Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau
Cyhoeddus Cymru · Chris Vinestock, Prif Swyddog Gweithredol a
Chyfarwyddwr Ymchwiliadau · Katrin Shaw, Cyfarwyddwr Polisi, Materion
Cyfreithiol a Llywodraethu 2.2 Yn
ystod y sesiwn, cytunodd yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus i ddarparu ei
ymateb, os oedd ar gael, i'r ymgynghoriad diweddar ar gynghorau tref a
chymuned, ac ar sut yr ymdrinnir â chwynion lleol. |
|
(10.30 - 11.45) |
Ymchwiliad i amrywiaeth ym maes llywodraeth leol: sesiwn dystiolaeth 6 Julie James AC, Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol Lisa James, Dirprwy Gyfarwyddwr Democratiaeth Llywodraeth
Leol, Llywodraeth Cymru Angharad Thomas-Richards, Cynghorwr y Rhaglen Diwygio
Etholiadol, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan: · Julie James AC, y Gweinidog Tai a Llywodraeth
Leol · Lisa James, Dirprwy Gyfarwyddwr,
Democratiaeth Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru · Angharad Thomas-Richards, Cynghorwr y Rhaglen
Diwygio Etholiadol, Llywodraeth Cymru 3.2 Yn ystod y sesiwn dystiolaeth, cytunodd y
Gweinidog Tai ac Adfywio i ddarparu'r eitemau a ganlyn: · nodyn briffio ar gynnydd y cwricwlwm newydd
mewn ysgolion arloesi, sy'n cynnwys llinyn sy'n annog disgyblion i fod yn
ddinasyddion iach a gweithredol yng Nghymru; · y daflen a luniwyd gan Gyngor Dinas Bryste ar
ei waith ynghylch amrywiaeth; |
|
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan y Llywydd at y Prif Weinidog ar y pryd mewn perthynas â deddfwriaeth sy’n ymwneud â Brexit Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1.a
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Llywydd at y Prif Weinidog ar y pryd mewn
perthynas â deddfwriaeth sy’n ymwneud â Brexit. |
||
Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus ar y pryd mewn perthynas â Chyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2019-20 Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.2.a
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a
Gwasanaethau Cyhoeddus ar y pryd mewn perthynas â Chyllideb Ddrafft Llywodraeth
Cymru 2019-20. |
||
Llythyr gan y Gweinidog Tai ac Adfywio ar y pryd mewn perthynas â Chyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2019-20 Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.3.a
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Tai ac Adfywio ar y pryd mewn
perthynas â Chyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2019-20. |
||
Gohebiaeth rhwng y Cadeirydd ac Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip ar y pryd mewn perthynas â beichiogrwydd, mamolaeth a gwaith Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.4.a
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth rhwng y Cadeirydd ac Arweinydd y Tŷ a’r
Prif Chwip ar y pryd mewn perthynas â beichiogrwydd, mamolaeth a gwaith. |
||
Llythyr gan y Llywydd ynghylch diwygio’r Cynulliad: Ariannu’r Comisiwn Etholiadol ac atebolrwydd y sefydliad Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.5.a
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Llywydd ynghylch diwygio’r Cynulliad:
Ariannu’r Comisiwn Etholiadol ac atebolrwydd y sefydliad. |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 5.1. Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig. |
||
(11.45 - 11.50) |
Craffu ar adroddiad blynyddol 2017/18 Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: trafod y dystiolaeth a gafwyd Cofnodion: 6.1.
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitem 2. |
|
(11.50 - 12.10) |
Ymchwiliad i amrywiaeth ym maes llywodraeth leol: trafod y dystiolaeth a gafwyd Cofnodion: 7.1. Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd
o dan eitem 3. |
|
(12.10 - 12.25) |
Ymchwiliad i ddatganoli budd-daliadau lles: trafod dull gweithredu'r ymchwiliad Cofnodion: 8.1. Trafododd y Pwyllgor ei ddull gweithredu ar
gyfer yr ymchwiliad i ddatganoli budd-daliadau lles a chytunodd arno. |
|
(12.25 - 12.40) |
Ymchwiliad i fathodynnau glas: trafod dull gweithredu'r ymchwiliad Cofnodion: 9.1. Trafododd y Pwyllgor ei ddull gweithredu ar
gyfer yr ymchwiliad i fathodynnau glas yng Nghymru: Cymhwystra a Gweithredu. |
|
(12.40 - 12.45) |
Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru): Trefn ystyried - cytundeb mewn egwyddor cyn trafodion Cyfnod 2 Cofnodion: 10.1. Cytunodd y Pwyllgor ar drefn ystyried y Bil
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) cyn trafodion Cyfnod 2. |