Amrywiaeth ym maes llywodraeth leol
Inquiry5
Cynhaliodd y Pwyllgor
Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ymchwiliad i amrywiaeth ym maes llywodraeth leol.
Cylch
gorchwyl:
Cylch gorchwyl yr ymchwiliad
oedd:
- Deall pwysigrwydd amrywiaeth ymhlith cynghorwyr lleol, gan
gynnwys yr effaith ar ymgysylltu â'r cyhoedd, trafod a gwneud
penderfyniadau.
- Deall y prif rwystrau i ddenu cronfa fwy amrywiol o
ymgeiswyr ar gyfer etholiadau llywodraeth leol.
- Trafod meysydd arloesedd ac arfer da a all helpu i
gynyddu amrywiaeth ym maes llywodraeth leol.
- Trafod effaith bosibl y cynigion ym Mhapur Gwyrdd
Llywodraeth Cymru, Cryfhau Llywodraeth Leol i gynyddu amrywiaeth yn
siambrau'r Cyngor.
Tystiolaeth
Cynhaliodd y Pwyllgor nifer o sesiynau
tystiolaeth i lywio gwaith y Pwyllgor. Gellir gweld tabl ohonynt isod.
Ymgynghorodd y Pwyllgor hefyd ar y pwnc gan greu
arolygon ar-lein i gynghorwyr a’r cyhoedd. Mae ymatebion i’r ymgynghoriad,
yr arolygon i gynghorwyr
a’r arolygon i’r cyhoedd
wedi cael eu cyhoeddi.
Sesiwn dystiolaeth |
Dyddiad, agenda a
chofnodion |
Trawsgrifiad |
Fideo |
1. Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac Un Llais Cymru Y Cynghorydd Debbie Wilcox, Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol
Cymru ac Arweinydd Casnewydd Daniel Hurford, Pennaeth Polisi, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Siân Williams, Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd, Cyngor
Bwrdeistref Sirol Conwy Paul Egan, Dirprwy Brif Weithredwr, Un Llais Cymru |
|
||
2.
Cymdeithas Diwygio
Etholiadol Cymru Jessica Blair, Cyfarwyddwr, Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru |
|||
3.
Cynrychiolwyr sefydliadau Cydraddoldeb Cerys Furlong, Prif Weithredwr, Chwarae Teg Catherine Fookes, Cyfarwyddwr, Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod (RhCM)
Cymru Uzo Iwobi OBE, Prif Swyddog Gweithredol, Cyngor Hil Cymru Paul Hossack, Uwch Swyddog Cyswllt, y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau
Dynol |
|
||
4.
Cynrychiolwyr
pleidiau gwleidyddol Mike Payne, Cadeirydd, Pwyllgor Trefnu, Llafur Cymru Gareth Clubb, Prif Weithredwr, Plaid Cymru Y Cynghorydd Bablin Molik, cynghorydd yng Nghaerdydd a chadeirydd
plaid leol Caerdydd a’r Fro ar gyfer Democratiaid Rhyddfrydol Cymru Roger Pratt, Cyfarwyddwr yr Adolygiad Ffiniau, Ceidwadwyr Cymreig Tom Harrison, Swyddog Rhanbarthol, UKIP Cymru |
|||
5.
Cynrychiolwyr cyrff
ieuenctid Kathryn Allen, Is-lywydd, Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid
Gwirfoddol Steve Davis, Rheolwr Gwasanaeth, Grwp Prif Swyddogion Ieuenctid Julia Griffiths, Cyd-Brif Weithredwr Dros Dro, Youth Cymru Chisomo (Chizi) Phiri, Swyddog Menywod, UMC Cymru |
|||
6.
Y Gweinidog Tai a
Llywodraeth Leol Julie James AC, Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol Lisa James, Dirprwy Gyfarwyddwr Democratiaeth Llywodraeth Leol,
Llywodraeth Cymru Angharad Thomas-Richards, Cynghorwr y Rhaglen Diwygio Etholiadol,
Llywodraeth Cymru |
|
Adroddiad
Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad ar amrywiaeth ym maes
llywodraeth leol ar 4 Ebrill 2019. Darllenwch yr adroddiad
llawn (PDF, 799KB).
Wrth gyhoeddi'r adroddiad, dywedodd John Griffiths AC,
Cadeirydd y Pwyllgor:
“Mae llywodraeth leol yng Nghymru yn darparu ystod o
wasanaethau pwysig i’n cymunedau, gan gynnwys addysg a gwasanaethau cymdeithasol.
Mae’n gyfrifol am ddeall anghenion trigolion lleol a darparu ar eu cyfer. Po
fwyaf cynrychioliadol y mae ein cynghorwyr o’r bobl maent yn eu gwasanaethu,
gorau i gyd o ran eu gallu i gyflawni eu dyletswyddau a’u cyfrifoldebau.”
Gosododd Llywodraeth Cymru ei hymateb
(PDF, 562KB) i’r adroddiad ar 19 Mehefin 2019. Cafwyd dadl ar yr adroddiad ac
ymateb y Llywodraeth yn y Cyfarfod Llawn ar
26 Mehefin 2019.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 10/05/2018
Dogfennau
- Crynodeb o’r arolwg - y cyhoedd yn gyffredinol
PDF 186 KB
- Crynodeb o’r arolwg – cynghorwyr
PDF 199 KB
- Llythyr gan y Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru - 13 Mehefin 2018 (Saesneg yn unig)
PDF 71 KB
- Llythyr gan y Cadeirydd at y Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru - 5 Mehefin 2018
PDF 89 KB Gweld fel HTML (4) 10 KB
Ymgynghoriadau
- Ymchwiliad i amrywiaeth ym maes llywodraeth leol (Wedi ei gyflawni)