Wrth eich gwaith: rhianta a chyflogaeth yng Nghymru
Inquiry5
Cynhaliodd y Pwyllgor
Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ymchwiliad i feichiogrwydd,
mamolaeth a gwaith.
Cylch
gorchwyl:
Roedd y cylch gorchwyl yn cynnwys ystyried y canlynol:
- Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu ar
ganfyddiadau adolygiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar
wahaniaethu mewn perthynas â beichiogrwydd a mamolaeth;
- Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio tuag at ei
hamcan cydraddoldeb strategol, sef nodi a lleihau’r achosion o
anghydraddoldeb o ran cyflogaeth, sgiliau a thâl sy’n ymwneud â rhyw, yn
enwedig mewn perthynas â beichiogrwydd a mamolaeth;
- Y graddau y mae Cynllun Gweithredu Economaidd a
rhaglenni cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru yn mynd i’r afael â materion a
wynebir gan famau;
- A yw’r cynnig gofal plant newydd yn cyd-fynd â
chymorth wedi’i dargedu i famau ddechrau gweithio neu ddychwelyd i’r
gwaith, a
- Graddau’r gwahaniaethu mewn perthynas â beichiogrwydd
a mamolaeth yn y sector cyhoeddus yng Nghymru (ac amrywiannau rhwng
gwahanol grwpiau o fenywod), ac enghreifftiau o arfer da.
Tystiolaeth
Er mwyn llywio gwaith y
Pwyllgor, cynhaliodd gyfres o sesiynau tystiolaeth lafar ac ymgynghoriad
cyhoeddus. Gallwch weld manylion y sesiynau tystiolaeth lafar drwy glicio’r
‘tab cyfarfod’ uchod.
Adroddiad
Cyhoeddodd
y Pwyllgor ei adroddiad: Wrth
eich gwaith - rhianta a chyflogaeth yng Nghymru ym mis Gorffennaf 2018.
Wrth
gyhoeddi’r adroddiad, dywedodd John Griffiths AC,
Cadeirydd y Pwyllgor:
“Nid
yw atal cyfran helaeth o’r boblogaeth rhag cyfrannu eu sgiliau a’u profiad at y
gweithlu yn deg, ac nid yw’n gwneud synnwyr economaidd. Yn sgil newidiadau
technolegol, cymdeithasol ac economaidd, dyma’r amser i foderneiddio
gweithleoedd fel eu bod yn addas ar gyfer y dyfodol i bawb, nid rhieni yn
unig.”
Mae
adroddiad 'Spark' byrrach wedi'i gyhoeddi hefyd a gallwch ei ddarllen yma.
Cyflwynodd
Llywodraeth Cymru ei
hymateb i’r adroddiad ym mis Medi 2018. Cafwyd dadl ar yr adroddiad ac
ymateb y Llywodraeth yn y Cyfarfod Llawn ar
26 Medi 2018.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 19/01/2018
Dogfennau
- Llythyr gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip (4 Tachwedd 2019)
PDF 258 KB
- Llythyr at Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip (14 Tachwedd 2018)
PDF 88 KB
- Adroddiad y Pwyllgor - Wrth eich gwaith: rhianta a chyflogaeth yng Nghymru (PDF 3MB) – Gorffennaf 2018
- Llythyr gan Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip ac y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol (5 Mehefin 2018)
PDF 280 KB
- Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth (4 Mehefin 2018)
PDF 310 KB
- Llythr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg (30 Mai 2018)
PDF 210 KB
- Llythyr gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (29 Mai 2018) (Saesneg yn unig)
- Llythyr at Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip a'r Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol (24 Mai 2018)
PDF 90 KB
- Llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth (15 Mai 2018)
PDF 89 KB
- Llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg (11 Mai 2018)
PDF 97 KB
- Llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg (26 Ebrill 2018)
Ymgynghoriadau
- Wrth eich gwaith:rhianta a chyflogaeth yng Nghymru (Wedi ei gyflawni)