Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Naomi Stocks
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 08/02/2018 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r
cyfarfod. |
||
(09:15 -10:15) |
Ymchwiliad i gysgu ar y stryd yng Nghymru - sesiwn dystiolaeth 1 Dr Peter Mackie, Uwch Ddarlithydd, Ysgol Daearyddiaeth
a Chynllunio, Prifysgol Caerdydd Yr Athro Suzanne Fitzpatrick, Athro / Cyfarwyddwr y
Sefydliad (ISPHERE), Prifysgol Heriot-Watt Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan: ·
Dr Peter Mackie, Uwch Ddarlithydd, Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio,
Prifysgol Caerdydd ·
Yr Athro Suzanne Fitzpatrick, Athro / Cyfarwyddwr y Sefydliad (ISPHERE),
Prifysgol Heriot-Watt ·
2.2 Cytunodd Dr Peter Mackie i ddarparu nodyn ar: ·
enghreifftiau o arfer da o allgymorth gweithredol; ac ·
ar atebion arloesol a argymhellir ar gyfer awdurdodau lleol i oresgyn
diffyg argaeledd tai yng nghyd-destun digartrefedd |
|
(10:25-11:25) |
Ymchwiliad i gysgu ar y stryd yng Nghymru - sesiwn dystiolaeth 2 Jane Thomas, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Tai a
Chymunedau, Cyngor Caerdydd Simon Inkson, Pennaeth Tai, Cyngor Sir Powys Julie Francis, Rheolwr y Gwasanaeth, Tai, Cyngor Wrecsam Tracy Hague, Arweinydd Opsiynau Tai Cyfamser, Cyngor
Wrecsam Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
3.2 Gofynnodd y Cadeirydd am nodyn am y lefel o waith a wneir ar y cyd
rhwng awdurdodau o ran gwasanaethau ailgysylltu, gan gynnwys y lefel o gymorth
a ddarperir i unigolion. |
|
(11.25 - 12.25) |
Ymchwiliad i gysgu ar y stryd yng Nghymru - sesiwn dystiolaeth 3 Antony Kendall, Cyfarwyddwr Gweithrediadau, The Wallich Yvonne Connolly, Rheolwr Rhanbarthol Cymru a'r De Orllewin, Byddin yr
Iachawdwriaeth Richard Edwards, Prif Weithredwr, Canolfan Huggard Frances Beecher, Prif Weithredwr, Llamau Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan: ·
Antony Kendall, Cyfarwyddwr Gweithrediadau, The Wallich ·
Yvonne Connolly, Rheolwr Rhanbarthol Cymru a'r De Orllewin, Byddin yr
Iachawdwriaeth ·
Richard Edwards, Prif Weithredwr, Canolfan Huggard ·
Frances Beecher, Prif Weithredwr, Llamau 4.2 Cytunodd Llamau i
ddarparu nodyn ar yr awdurdodau lleol sy'n darparu tocynnau cludiant i bobl
sy'n cysgu ar y stryd wrth iddynt ddefnyddio gwasanaethau ailgysylltu. 4.3 Cytunodd Byddin
yr Iachawdwriaeth i ddarparu gwybodaeth am eu gwaith ailgysylltu gydag
awdurdodau lleol, gan gynnwys hepgoriadau trwy wasanaethau rheng flaen. |
|
(13.15 - 14.15) |
Ymchwiliad i gysgu ar y stryd yng Nghymru - sesiwn dystiolaeth 4 Katie Dalton, Cyfarwyddwr, Cymorth Cymru Jennie Bibbings, Rheolwr Ymgyrchoedd, Shelter Cymru Rebecca Jackson, Swyddog Polisi ac Ymchwil, Shelter Cymru Jon Sparkes, Prif Weithredwr, Crisis Beth Thomas, Rheolwr Gwerthiannau Rhanbarthol, Cymru a De Orllewin Lloegr,
y Big Issue Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan: ·
Katie Dalton, Cyfarwyddwr, Cymorth Cymru ·
Jennie Bibbings, Rheolwr Ymgyrchoedd, Shelter Cymru ·
Rebecca Jackson, Swyddog Polisi ac Ymchwil, Shelter Cymru ·
Jon Sparkes, Prif Weithredwr, Crisis ·
Beth Thomas, Rheolwr Gwerthiannau Rhanbarthol, Cymru a De Orllewin Lloegr,
y Big Issue 5.2 Cytunodd Shelter Cymru i ddarparu data ar awdurdodau lleol sy'n delio
â'r rhai sy'n gadael y carchar mewn perthynas ag angen blaenoriaethol; 5.3 Cytunodd Cymorth Cymru i egluro'r cynnydd ymddangosiadol o 250% o ran
pobl sy'n cysgu ar y stryd ym Mhen-y-bont ar Ogwr, fel y cyfeiriwyd atynt yn eu
papur tystiolaeth. 5.4 Gofynnodd y Pwyllgor am gopi o'r
astudiaeth a gyfeiriwyd ato gan Crisis ar gost y sawl sy'n cysgu ar y stryd yn
yr hirdymor i wasanaethau cyhoeddus. |
|
(14.15 - 15.15) |
Ymchwiliad i gysgu ar y stryd yng Nghymru - sesiwn dystiolaeth 5 Y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Jeremy Vaughan, Heddlu De Cymru Prif Uwcharolygydd Stephen Jones, Heddlu De Cymru Ian Barrow, Cyfarwyddwr yr NPS yng Nghymru, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf
Ei Mawrhydi yng Nghymru Diana Binding, Uwch Reolwr Arweiniol ar Lety, Cwmni Adsefydlu Cymunedol
Cymru Dusty Kennedy, Cyfarwyddwr, Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan: ·
Y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Jeremy Vaughan, Heddlu De Cymru ·
Prif Uwcharolygydd Stephen Jones, Heddlu De Cymru ·
Ian Barrow, Cyfarwyddwr yr NPS yng Nghymru, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf
Ei Mawrhydi yng Nghymru ·
Diana Binding, Uwch Reolwr Arweiniol ar Lety, Cwmni Adsefydlu Cymunedol
Cymru ·
Dusty Kennedy, Cyfarwyddwr, Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru 6.2 Cytunodd Cwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru i ddarparu data ar y Llwybr
Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Digartrefedd ar gyfer Plant, Pobl Ifanc ac
Oedolion yn yr Ystâd Ddiogel, mewn perthynas â'r cyfnod rhybudd a roddir i
awdurdodau lleol a gwasanaethau cymorth o ran pobl sy'n gadael y carchar. 6.3 Gofynnodd y Pwyllgor am ddata ar nifer yr arestiadau o ran pobl sy'n
cysgu ar y stryd gan Heddlu De Cymru. |
|
Papur(au) i'w nodi |
||
Llythyr gan y Gweinidog Tai ac Adfywio mewn cysylltiad â chysgu ar y stryd yng Nghymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 7.1.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog
Tai ac Adfywio mewn perthynas â chysgu ar y stryd yng Nghymru. |
||
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau mewn cysylltiad â chysgu ar y stryd yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.2.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y
Pwyllgor Deisebau mewn perthynas â chysgu ar y stryd yng Nghymru. |
||
Nodiadau o ymweliadau’r Pwyllgor mewn cysylltiad â chysgu ar y stryd yng Nghymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 7.3.a Nododd y Pwyllgor nodiadau ymweliadau
Pwyllgor mewn perthynas â chysgu ar y stryd yng Nghymru. |
||
Gwybodaeth ychwanegol gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) mewn cysylltiad â Bil yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.4.a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan
Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru mewn perthynas â'r Bil Ombwdsmon Gwasanaethau
Cyhoeddus (Cymru). |
||
Llythyr gan Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip mewn cysylltiad â hawliau dynol yng Nghymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 7.5.a Nododd y Pwyllgor y llythyr at Arweinydd y
Tŷ a'r Prif Chwip mewn perthynas â Hawliau Dynol yng Nghymru. |
||
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau mewn cysylltiad â diogelwch tân yng Nghymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 7.6.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau mewn
perthynas â chysgu ar y stryd yng Nghymru. |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac o eitemau 1, 2 a 3 yn y cyfarfod ar 14 Chwefror 2018 Cofnodion: 8.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
||
(15.30 - 15.35) |
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Ymosodiadau ar Weithwyr Argyfwng (Tramgwyddau) - ystyried yr adroddiad drafft Cofnodion: 9.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
a chytuno arno: Bil Ymosodiadau ar Weithwyr Gwasanaethau Brys (Troseddau) |
|
(15.15 - 15.30) |
Ymchwiliad i gysgu ar y stryd yng Nghymru - trafod y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 2, 3, 4, 5 a 6 Cofnodion: 10.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitemau 2, 3, 4. 5. a 6. |