Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naomi Stocks 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 999KB) Gweld fel HTML (999KB)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.

1.2 Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb yn ystod eitemau 1-5 gan Janet Finch-Saunders AC. Roedd David Melding AC yn bresennol fel dirprwy ar gyfer Janet yn ystod eitemau 1-5.

1.3 Datganodd John Griffiths AC fuddiant perthnasol.

 

(09.00 - 10.30)

2.

Ymchwiliad i ddiogelwch tân mewn tyrau o fflatiau yng Nghymru: sesiwn dystiolaeth 7

Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig

Carl Sargeant AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Martin Swain, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Diogelwch Cymunedol, Llywodraeth Cymru

Emma Williams, Dirprwy Gyfarwyddwr, Polisïau Tai, Llywodraeth Cymru

Neil Hemington, Pennaeth Cynllunio, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·         Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig

·         Carl Sargeant AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

·         Martin Swain, Dirprwy Gyfarwyddwr, Diogelwch Cymunedol, Llywodraeth Cymru

·         Emma Williams, Dirprwy Gyfarwyddwr, Polisi Tai, Llywodraeth Cymru

·         Neil Hemington, Pennaeth Cynllunio, Llywodraeth Cymru

 

2.2 Yn ystod y sesiwn, cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant a'i swyddogion i ddarparu:

·         ffigurau ar gyfer adeiladau a gofrestrwyd ymlaen llaw cyn i'r rheoliadau adeiladu newydd ddod i rym yn 2016, ac felly na fyddai chwistrellwyr wedi eu gosod ynddynt er iddynt gael eu hadeiladu ar ôl 2016;

·         gwybodaeth am yr amser hiraf a ganiateir rhwng dyddiad gwneud cais am gymeradwyaeth o dan y rheoliadau adeiladu, a'r dyddiad y bydd y gwaith adeiladu yn dechrau;

·         gwybodaeth am ba bryd y bydd y canllawiau diwygiedig ar gael ar ddiogelwch tân mewn tyrau o fflatiau a adeiladwyd yn bwrpasol;

·         eglurhad ynglŷn â'r ddyletswydd statudol ar ddatblygwyr adeiladu i ymgynghori ag awdurdodau tân ac achub ar ôl cyflwyno cynlluniau adeiladu gyntaf.

 

3.

Papur(au) i'w nodi

3.1

Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith ynghylch Cymunedau yn Gyntaf - yr hyn a ddysgwyd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith ynghylch Cymunedau yn Gyntaf - y gwersi a ddysgwyd.

 

3.2

Gohebiaeth gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes ynghylch Cymunedau yn Gyntaf - yr hyn a ddysgwyd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.2.a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes ynghylch Cymunedau yn Gyntaf - y gwersi a ddysgwyd.

 

3.3

Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch Cymunedau yn Gyntaf - yr hyn a ddysgwyd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.3.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch Cymunedau yn Gyntaf - y gwersi a ddysgwyd.

 

3.4

Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch Cymunedau yn Gyntaf - yr hyn a ddysgwyd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.4.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch Cymunedau yn Gyntaf - y gwersi a ddysgwyd.

 

3.5

Llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Arweiniad a Hawliadau Ariannol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.5.a Nododd y Pwyllgor y llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Arweiniad a Hawliadau Ariannol.

 

3.6

Llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Arweiniad a Hawliadau Ariannol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.6.a Nododd y Pwyllgor y llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Arweiniad a Hawliadau Ariannol.

 

3.7

Llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ynghylch Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Arweiniad a Hawliadau Ariannol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.7.a Nododd y Pwyllgor y llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Arweiniad a Hawliadau Ariannol.

 

3.8

Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ynghylch Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Arweiniad a Hawliadau Ariannol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.8.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Arweiniad a Hawliadau Ariannol.

 

3.9

Llythyr gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru at y Llywydd ynghylch Gweithredu Deddf Cymru 2017

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.9.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru at y Llywydd ynghylch Gweithredu Deddf Cymru 2017.

 

3.10

Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant at Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ynghylch Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.10.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant at Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ynghylch Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru).

 

3.11

Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ynghylch Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.11.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ynghylch Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru).

 

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(10.45 - 11.15)

5.

Ymchwiliad i ddiogelwch tân mewn tyrau o fflatiau yng Nghymru: trafod y dystiolaeth a gafwyd o dan eitem 2

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifenyddion y Cabinet ar nifer o faterion a godwyd.

 

(11.15 - 11.30)

6.

Trafod y dull o graffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor a chytunodd ar ei ddull o graffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19.

 

(11.30 - 11.45)

7.

Trafod yr adroddiad drafft ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Arweiniad a Hawliadau Ariannol

Cofnodion:

7.1 Cytunodd y Pwyllgor ar ei adroddiad drafft ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Arweiniad a Hawliadau Ariannol.