Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Arweiniad a Hawliadau Ariannol
Cyflwynwyd y Bil Cyfarwyddyd Ariannol a Hawliadau yn Nhŷ’r Arglwyddi ar 22 Mehefin 2017. Bil gan Lywodraeth y DU
ydoedd ac fe’i noddwyd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau. Ei amcanion polisi
datganedig oedd:
- creu un corff - y Corff Canllawiau
Ariannol Sengl - sy'n gyfrifol am yr holl ganllawiau ariannol cyhoeddus,
er mwyn galluogi'r cyhoedd i gael mynediad at gyngor ar ddyledion a
chanllawiau ariannol diduedd, o ansawdd da ac am ddim;
- gwneud newidiadau i reoleiddio
Cwmnïau Hawliadau Rheoli (CMCS), gan drosglwyddo cyfrifoldeb rheoleiddio
i'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol er mwyn diogelu defnyddwyr rhag
camymddygiad eang ar draws y sector, megis galwadau niwsans ac anogaeth o
hawliadau twyllodrus.
Roedd y Bil yn ddarostyngedig i’r broses
cydsyniad deddfwriaethol o dan Reol Sefydlog 29.
Dilynir y broses hon pan fydd
Llywodraeth y DU yn ceisio cydsyniad Cynulliad
Cenedlaethol Cymru i ddeddfu ar fater a allai ddod o fewn cymhwysedd y Cynulliad fel arfer.
Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
mewn perthynas â'r Bil Cyfarwyddyd Ariannol a Hawliadau (PDF, 94KB) ar 5 Gorffennaf 2017.
Cyfeiriwyd y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol gan y Pwyllgor Busnes ar 18
Gorffennaf 2017 (PDF, 53KB) at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac
Addysg a'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth
Leol a Chymunedau, a’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad oedd 5 Hydref 2017.
Cyhoeddodd y
Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ei adroddiad
ar y Memorandwm ar 8 Chwefror 2018.
Cyhoeddodd y
Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ei adroddiad
ar y Memorandwm ar 8 Chwefror 2018.
Pleidleisiodd y Senedd
i roi cydsyniad i'r Bil ar 13 Chwefror 2018.
Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Llywodraeth;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 20/07/2017
Angen Penderfyniad: 18 Gorff 2017 Yn ôl Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd
Angen Penderfyniad: Before 5 Hyd 2017 Yn ôl Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd, Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd
Dogfennau
- Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol - Y Bil Arweiniad a Hawliadau Ariannol- 5 Gorffennaf 2017 (PDF, 196KB)
- Y Pwyllgor Busnes – Yr amserlen ar gyfer ystyried y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Arweiniad a Hawliadau Ariannol - Gorffennaf 2017 (PDF, 53 KB)
- Llythyr gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant - 24 Gorffennaf 2017
PDF 324 KB
- Llythyr gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg - 24 Gorffennaf 2017
PDF 325 KB
- Llythyr gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant - 28 Gorffennaf 2017
PDF 269 KB
- Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant i Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - 23 Awst 2017
PDF 268 KB
- Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - 23 Awst 2017
PDF 278 KB
- Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Adroddiad ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Bil Arweiniad a Hawliadau Ariannol Llywodraeth y DU
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at Gadeirydd y Pwyllgor Busnes – Y Bil Arweiniad a Hawliadau Ariannol – 03 Hydref 2017
PDF 118 KB
- Llythyr gan y Llywydd at Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau - 6 Rhagfyr 2017 (PDF, 206KB)
PDF 201 KB
- Llythyr gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau at y Llywydd - 8 Rhagfyr 2017
PDF 60 KB
- Llythyr gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau at y Gweinidog Tai ac Adfywio - 8 Rhagfyr 2017
PDF 60 KB