Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naomi Stocks 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 25/02/2021 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1.      Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod o’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau. Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Huw Irranca-Davies AS.

 

1.2.      Cyhoeddodd Mandy Jones AS a Laura Anne Jones AS fuddiannau perthnasol.

 

1.3.      Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd ei fod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd.

 

1.4.      Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe bai’n gadael y cyfarfod am unrhyw reswm, y byddai Dawn Bowden AS yn Gadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.

 

 

(13.30 - 14.30)

2.

Ymchwiliad i ddiogelwch tân mewn tyrau o fflatiau yng Nghymru (Papur Gwyn Llywodraeth Cymru - Adeiladau Mwy Diogel yng Nghymru: Ymgynghoriad): sesiwn dystiolaeth 1

Owen Jayne, Rheolwr Grŵp, Pennaeth Diogelwch Tân Busnes, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru

Siôn Slaymaker, Rheolwr Grŵp, Pennaeth Diogelwch Tân Busnes, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru

Bob Mason, Pennaeth Diogelwch Tân Busnes, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan

·         Owen Jayne, Rheolwr Grŵp, Pennaeth Diogelwch Tân Busnes, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru

·         Siôn Slaymaker, Rheolwr Grŵp, Pennaeth Diogelwch Tân Busnes, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru

·         Bob Mason, Pennaeth Diogelwch Tân Busnes, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru

 

(14.45 - 15.45)

3.

Ymchwiliad i ddiogelwch tân mewn tyrau o fflatiau yng Nghymru (Papur Gwyn Llywodraeth Cymru - Adeiladau Mwy Diogel yng Nghymru: Ymgynghoriad): sesiwn dystiolaeth 2

Paul Edwards, Uwch Gyfarwyddwr Rhanbarthol, Cyngor Cenedlaethol Adeiladu Tai (NHBC)

Peter Richards, Cadeirydd, Rheolaeth Adeiladu Awdurdodau Lleol (LABC) Cymru

Andrew Thomas, Uwch-swyddog Rheoli Adeiladau, y Gweithgor Diogelwch Tân, Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan

·         Paul Edwards, Uwch Gyfarwyddwr Rhanbarthol, Cyngor Cenedlaethol Adeiladu Tai (NHBC)

·         Peter Richards, Cadeirydd, Rheolaeth Adeiladu Awdurdodau Lleol Cymru

·         Andrew Thomas, Uwch-swyddog Rheoli Adeiladau, y Gweithgor Diogelwch Tân, Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig

 

 

(16.00 - 17.00)

4.

Ymchwiliad i ddiogelwch tân mewn tyrau o fflatiau yng Nghymru (Papur Gwyn Llywodraeth Cymru - Adeiladau Mwy Diogel yng Nghymru: Ymgynghoriad): sesiwn dystiolaeth 3

Jason Clarke, Pennaeth Rheolaeth Risg, Warwick Estates

Nigel Glen, Prif Weithredwr, y Gymdeithas Asiantaethau Rheoli Preswyl (ARMA)

Mark Snelling, Pennaeth, Cynghorydd Diogelwch a Thân, ARMA

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·         Jason Clarke, Pennaeth Rheoli Risg, Warwick Estates

·         Nigel Glen, Prif Weithredwr, Cymdeithas Asiantaethau Rheoli Preswyl (ARMA)

·         Mark Snelling, Cynghorydd Iechyd, Diogelwch a Thân, y Gymdeithas Asiantaethau Rheoli Preswyl (ARMA)

 

5.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

5.1

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau mewn perthynas â diogelwch tân mewn adeiladau uchel iawn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1.a. Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau mewn perthynas â diogelwch tân mewn adeiladau uchel iawn.

 

5.2

Adroddiad gan Sefydliad Bevan "Different experiences of poverty in Winter 2020" o ran effaith COVID-19

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.2.a Nododd y Pwyllgor yr adroddiad gan Sefydliad Bevan ar brofiadau gwahanol o dlodi yn ystod Gaeaf 2020 o ran effaith COVID-19.

 

5.3

Adroddiad gan y Groes Goch Brydeinig ar "Y flwyddyn hiraf" o ran effaith COVID-19

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.3.a Nododd y Pwyllgor yr adroddiad gan y Groes Goch Brydeinig ar "Y flwyddyn hiraf" o ran effaith COVID-19. 

 

5.4

Llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol mewn cysylltiad ag effaith COVID-19 a chysgu ar y stryd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.4.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol mewn perthynas ag effaith COVID-19 a chysgu ar y stryd.

 

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac o’r cyfarfod ar 4 Mawrth 2021

Cofnodion:

6.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(17.00 - 17.15)

7.

Ymchwiliad i ddiogelwch tân mewn tyrau o fflatiau yng Nghymru (Papur Gwyn Llywodraeth Cymru - Adeiladau Mwy Diogel yng Nghymru: Ymgynghoriad): trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

7.1. Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 2, 3 a 4.

 

(17.15 - 17.25)

8.

Trafod adroddiad gwaddol y Pwyllgor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1. Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad gwaddol.