Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Marc Wyn Jones 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 10/12/2020 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.45)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, cafwyd datganiad gan y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu y dylid gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor i ddiogelu iechyd y cyhoedd.

1.3 Os byddai unrhyw broblemau technegol yn codi yn ystod y cyfarfod, gan olygu y byddai ei gyswllt band eang yn cael ei dorri, nododd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno y byddai Jenny Rathbone AS yn cymryd ei lle fel Cadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.

(13.45-14.30)

2.

Covid-19 a Threfniadau pontio'r Undeb Ewropeaidd: Sesiwn graffu gyda Llywodraeth Cymru

Lesley Griffiths AS, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Gian Marco Currado, Cyfarwyddwr, Yr Amgylchedd a’r Môr

Christianne Glossop, Swyddfa'r Prif Filfeddyg

John Howells, Cyfarwyddwr Newid Hinsawdd, Ynni a Chynllunio

Dean Medcraft, Cyfarwyddwr Cyllid a Gweithrediadau

Tim Render, Cyfarwyddwr Tir, Natur a Bwyd

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Bu’r Aelodau yn holi Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig a’i swyddogion am Covid-19 ac ymateb ei hadran hyd yma i’r pandemig, ac am drefniadau pontio’r Undeb Ewropeaidd.

(14.40-15.25)

3.

Covid-19 a Threfniadau pontio'r Undeb Ewropeaidd: Parhau â'r sesiwn graffu gyda Llywodraeth Cymru

Lesley Griffiths AS, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Gian Marco Currado, Cyfarwyddwr, Yr Amgylchedd a’r Môr

Christianne Glossop, Swyddfa'r Prif Filfeddyg

John Howells, Cyfarwyddwr Newid Hinsawdd, Ynni a Chynllunio

Dean Medcraft, Cyfarwyddwr Cyllid a Gweithrediadau

Tim Render, Cyfarwyddwr Tir, Natur a Bwyd

 

Cofnodion:

3.1 Parahodd yr Aelodau i holi Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig a’i swyddogion am Covid-19 ac ymateb ei hadran hyd yma i’r pandemig, ac am drefniadau pontio’r Undeb Ewropeaidd.

(15.25)

4.

Papurau i'w nodi

Cofnodion:

4.1 Cafodd y papurau eu nodi.

4.1

Gohebiaeth gan Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol mewn perthynas â'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol - Cymru'r Dyfodol

Dogfennau ategol:

4.2

Cyflwyniad ysgrifenedig gan Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru mewn perthynas â bioamrywiaeth ac ailwylltio

Dogfennau ategol:

4.3

Gohebiaeth gan Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ynghylch datganiad o wrthwynebiad i dollau trwyddedi rhwydi 2021-2023

Dogfennau ategol:

4.4

Gohebiaeth gan Gyfoeth Naturiol Cymru ynghylch Arglawdd Tan Lan

Dogfennau ategol:

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

6.

Covid-19 a Threfniadau pontio'r Undeb Ewropeaidd - trafod y dystiolaeth a daeth i law o dan eitemau 2 a 3

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn graffu. Cytunwyd i ysgrifennu at y Gweinidog i gael rhagor o wybodaeth am rai o'r materion a godwyd yn ystod y sesiwn.