Sesiwn untro ynghylch bioamrywiaeth ac ailwylltio yng Nghymru

Sesiwn untro ynghylch bioamrywiaeth ac ailwylltio yng Nghymru

 

Ym mis Tachwedd 2020, cynhaliodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig y Senedd (“y Pwyllgor”) sesiwn untro ynghylch bioamrywiaeth ac ailwylltio yng Nghymru.

Cylch gorchwyl y sesiwn oedd:

  • Bioamrywiaeth a'r adferiad gwyrdd, gan gynnwys y cynnydd presennol ar sail y targedau bioamrywiaeth; a
  • Bioamrywiaeth ac ailwylltio yng nghyd-destun dyfodol cynigion polisi rheoli tir.

 

Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth ysgrifenedig gan randdeiliaid ac mae'r rhain wedi'u cyhoeddi ar y dudalen hon.

 

Ar 19 Tachwedd 2020, cynhaliodd y Pwyllgor sesiynau tystiolaeth gyda rhanddeiliaid i lywio ei ystyriaeth o’r pwnc hwn ac mae manylion y sesiwn hon yn y tabl isod:

 

Sesiwn dystiolaeth

Dyddiad

Trawsgrifiad

Fideo

Sesiwn 1:

Rewilding Britain

 

Sesiwn 2:

Coed Cadw;

Prosiect O’r Mynydd i’r Môr;

Rhwydwaith Ffermio er Lles Natur;

Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB) Cymru;

Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn.

 

Sesiwn 3:

Pwyllgor COPA (Cymunedau Oll Pumlumon a'r Ardal)

 

19 Tachwedd 2020

Trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd.tv

 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 26/10/2020

Dogfennau