Ymchwiliad byr i ymateb Llywodraeth Cymru i lifogydd yng Nghymru

Ymchwiliad byr i ymateb Llywodraeth Cymru i lifogydd yng Nghymru

 

Cynhaliodd Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig y Senedd (“y Pwyllgor”) ymchwiliad byr i ymateb Llywodraeth Cymru i’r llifogydd a ddigwyddodd ym mis Chwefror 2020 yng Nghymru.

 Bu’r Pwyllgor yn ystyried:

-        a yw'r lefel bresennol o gyllid a ddarperir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol (FCERM), ac i awdurdodau perthnasol ddarparu ymateb brys i lifogydd, yn ddigonol?

-        a fydd angen mwy o gyllid brys i gynorthwyo awdurdodau lleol i ymdrin â llifogydd y gaeaf hwn?

-        a yw awdurdodau lleol yn cael digon o gymorth i adfer ar ôl llifogydd mawr, cynnal unrhyw ymchwiliadau angenrheidiol a gwneud newidiadau sydd eu hangen i reoli'r risg pe bai llifogydd yn digwydd eto?

-        pa mor effeithiol yw Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol Cymru o ran darparu rôl gynghori a chydlynu i Lywodraeth Cymru?

 

Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth ysgrifenedig gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ac awdurdodau lleol ac mae'r rhain wedi'u cyhoeddi.

Ar 8 Hydref 2020, cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn graffu gyda Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ynglŷn ag ymateb Llywodraeth Cymru i’r llifogydd.

Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad: Llifogydd yng Nghymru (PDF 171KB) ar 9 Hydref 2020 ac ymatebodd (PDF 450KB) Llywodraeth Cymru ar 27 Ionawr 2021.

 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 01/10/2020

Dogfennau

Papurau cefndir