Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Marc Wyn Jones 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 17/09/2020 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig.

1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, cafwyd datganiad gan y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu y dylid gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor i ddiogelu iechyd y cyhoedd.

1.3 Os byddai unrhyw broblemau technegol yn codi yn ystod y cyfarfod, gan olygu y byddai ei gyswllt band eang yn cael ei dorri, nododd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno y byddai Jenny Rathbone AS yn cymryd ei lle fel Cadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.

 

 

(13:45 - 14:30)

2.

COVID-19: Sesiwn graffu gyda Llywodraeth Cymru

Lesley Griffiths AS, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Gian Marco Currado, Cyfarwyddwr, Yr Amgylchedd a’r Môr

Christianne Glossop, Prif Swyddog Milfeddygol

John Howells, Cyfarwyddwr Newid Hinsawdd, Ynni a Chynllunio

Dean Medcraft, Cyfarwyddwr Cyllid a Gweithrediadau

Tim Render, Cyfarwyddwr Tir, Natur a Bwyd

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Bu’r Aelodau yn holi Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig a’i swyddogion am Covid-19 ac ymateb ei hadran hyd yma i’r pandemig.

(14:45 - 15:30)

3.

COVID-19: Parhau gyda sesiwn graffu Llywodraeth Cymru

Lesley Griffiths AS, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Gian Marco Currado, Cyfarwyddwr, Yr Amgylchedd a’r Môr

Christianne Glossop, Prif Swyddog Milfeddygol

John Howells, Cyfarwyddwr Newid Hinsawdd, Ynni a Chynllunio

Dean Medcraft, Cyfarwyddwr Cyllid a Gweithrediadau

Tim Render, Cyfarwyddwr Tir, Natur a Bwyd

 

 

Cofnodion:

3.1 Parhaodd yr Aelodau i holi Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig a’i swyddogion am Covid-19 ac ymateb ei hadran hyd yma i’r pandemig.

4.

Papurau i'w nodi

Cofnodion:

4.1 Cafodd y papurau eu nodi.

4.1

Gohebiaeth gan y Cadeirydd at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig yn dilyn sesiwn dystiolaeth 9 Gorffennaf 2020 ar ymateb y Llywodraeth i'r argyfwng Covid-19

Dogfennau ategol:

4.2

Gohebiaeth gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn dilyn sesiwn dystiolaeth 9 Gorffennaf 2020 ar ymateb y Llywodraeth i'r argyfwng Covid-19

Dogfennau ategol:

4.3

Gohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig - Prynu Gwybodus a Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014

Dogfennau ategol:

4.4

Ymateb Llywodraeth Cymru at lythyr y Cadeirydd ynghylch y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Pysgodfeydd

Dogfennau ategol:

4.5

Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad y Pwyllgor ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer Bil Amgylchedd y DU

Dogfennau ategol:

4.6

Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad y Pwyllgor ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol i'r Bil Amaethyddiaeth

Dogfennau ategol:

4.7

Gohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ynghylch fframwaith deddfwriaethol cynllun y taliad sylfaenol a chymorth gwledig o 2021

Dogfennau ategol:

4.8

Gohebiaeth rhwng Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a Chyfansoddiad a Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ar Orchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2020

Dogfennau ategol:

4.9

Gohebiaeth rhwng y Cadeirydd a Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ynghylch Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU

Dogfennau ategol:

4.10

Gohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig at Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ynghylch Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU

Dogfennau ategol:

4.11

Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ynghylch Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2021-22

Dogfennau ategol:

4.12

Gohebiaeth gan David Hughes mewn perthynas â golygu genynnau

Dogfennau ategol:

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac o'r cyfarfod ar 24 Medi 2020

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

6.

COVID-19: Trafod y dystiolaeth a daeth i law o dan eitemau 2 a 3

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn graffu. Cytunwyd i ysgrifennu at y Gweinidog i gael rhagor o wybodaeth am rai o'r materion a godwyd yn ystod y sesiwn.

 

7.

Trafod adroddiad drafft y Pwyllgor ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol mewn perthynas â Bil Pysgodfeydd y DU

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft, a chytunodd arno.

 

8.

Trafodaeth ar flaenraglen waith drafft y Pwyllgor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith a chytunodd arni.