Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 10/02/2020 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

(13.00 - 14.00)

2.

Effeithiolrwydd Awdurdodau Cynllunio Lleol yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth gyda'r Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-06-20 Papur 1 – Y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol

 

Dr Roisin Willmott - Cyfarwyddwr Cymru a Gogledd Iwerddon, y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Holodd yr Aelodau Dr Roisin Willmott o'r Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol fel rhan o ymchwiliad y Pwyllgor i Effeithiolrwydd Awdurdodau Cynllunio Lleol yng Nghymru.

 

(14.10 - 15.30)

3.

Effeithiolrwydd Awdurdodau Cynllunio Lleol yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Craig Mitchell – Pennaeth Cefnogi Gwastraff, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Mark Hand – Pennaeth Llunio Lle, Tai, Priffyrdd a Llifogydd, Cyngor Sir Fynwy

Andrew Farrow – Prif Swyddog (Cynllunio, Amgylchedd ac Economi), Cyngor Sir y Fflint

Llinos Quelch – Pennaeth Cynllunio, Cyngor Sir Gâr

Nicola Pearce - Cyfarwyddwr Corfforaethol dros yr Amgylchedd ac Adfywio, Cyngor Castell-nedd Port Talbot

 

 

Cofnodion:

3.1 Holodd yr Aelodau gynrychiolwyr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fel rhan o ymchwiliad y Pwyllgor i Effeithiolrwydd Awdurdodau Cynllunio Lleol yng Nghymru.

 

(15.30 - 15.45)

4.

Craffu ar Gyfrifon 2018-19: Trafod Ymateb Comisiwn y Cynulliad

PAC(5)-06-20 Papur 2 – Craffu ar Gyfrifon 2018-19: Ymateb Comisiwn y Cynulliad

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor ymateb Comisiwn y Cynulliad i'r Craffu ar Gyfrifon 2018-19 a’i nodi.

4.2 Cytunwyd y bydd y Cadeirydd yn ysgrifennu at y Comisiwn i ofyn am eglurder pellach ynghylch pam y gwrthodwyd y ddau Argymhelliad.

 

(15.45)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:

Eitemau 6 a 7

 

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(15.45 - 16.00)

6.

Effeithiolrwydd Awdurdodau Cynllunio Lleol yng Nghymru: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law.

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(16.00 - 16.30)

7.

Rheoli Gwastraff: Trafod canlyniadau'r arolwg

PAC(5)-06-20 Papur 3 - Canlyniadau'r Arolwg

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor ganlyniadau'r arolwg ynghylch Rheoli Gwastraff a nodwyd y bydd y rhain, a’r dystiolaeth i’r Pwyllgor, yn cael eu cyflwyno i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar reoli gwastraff.