Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Fay Bowen
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 08/07/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(13.00 - 13.30) |
Rheoli apwyntiadau cleifion allanol ar draws Cymru: Trafod yr adroddiad drafft PAC(5)-19-19
Papur 1 - Adroddiad drafft Dogfennau ategol: Cofnodion: 1.1
Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft, a chaiff fersiwn ddiwygiedig ei
llunio i'w thrafod yn ei gyfarfod ar 15 Gorffennaf 2019. |
|
(13.30 - 13.50) |
Gwasanaeth gofal sylfaenol y tu allan i oriau: Trafod yr adroddiad drafft PAC(5)-19-19 Papur 2 – Adroddiad Drafft Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1
Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft, yn amodol ar ychydig o fân
ddiwygiadau a gaiff eu dosbarthu y tu allan i'r Pwyllgor. |
|
(13.50) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 3.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Ni chafwyd unrhyw
ymddiheuriadau. |
|
(13.50 - 14.00) |
Papur(au) i'w nodi Cofnodion: 4.1 Nodwyd
y papurau. |
|
Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru: Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer 2018-19 Dogfennau ategol: |
||
Plant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal: Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg (21 Mehefin 2019) Dogfennau ategol: |
||
Gwasanaeth gofal sylfaenol y tu allan i oriau: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (25 Mehefin 2019) Dogfennau ategol: |
||
Rheoli apwyntiadau cleifion allanol ar draws Cymru: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (26 Mehefin 2019) Dogfennau ategol: |
||
(14.00 - 15.00) |
Gweithredu Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014: Sesiwn dystiolaeth gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda Papur briffio PAC(5)-19-19 Papur 3 – Datganiad Llywodraeth Cymru:
Perfformiad Ariannol y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2018-19 (12 Mehefin 2019) PAC(5)-19-19 Papur 4 – Datganiad Swyddfa Archwilio Cymru
i’r wasg – Cyfrifon Blynyddol Byrddau Iechyd (12 Mehefin 2019) PAC(5)-19-19 Papur 5 - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda Joe Teape - Dirprwy Brif Weithredwr/ Cyfarwyddwr
Gweithrediadau, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda Huw Thomas – Cyfarwyddwr Cyllid, Bwrdd Iechyd Prifysgol
Hywel Dda Mandy Rayani - Cyfarwyddwr Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad Cleifion, Bwrdd
Iechyd Prifysgol Hywel Dda Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth ar ei ymchwiliad i weithredu Deddf Cyllid y GIG
(Cymru) 2014 gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. 5.2
Cytunodd y Cyfarwyddwr Cyllid i anfon manylion am gyfanswm y gwariant ar
daliadau goramser i staff parhaol mewn cyferbyniad â'r gostyngiad mewn gwariant
ar staff asiantaeth. 5.3
Oherwydd cyfyngiadau amser, dywedodd y Cadeirydd y byddai'r Clercod yn
ysgrifennu at y tystion i ofyn nifer o gwestiynau nad oedd amser i'w gofyn yn y
cyfarfod. |
|
(15.10 - 16.15) |
Gweithredu Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014: Sesiwn dystiolaeth gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan PAC(5)-19-19
Papur 6 - Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan Judith
Paget – Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan Glyn Jones
- Cyfarwyddwr Cyllid a Pherfformiad, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan Martine
Price - Cyfarwyddwr Nyrsio Dros Dro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth ar ei ymchwiliad i weithredu Deddf Cyllid y GIG
(Cymru) 2014 gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. 6.2
Oherwydd cyfyngiadau amser, dywedodd y Cadeirydd y byddai'r Clercod yn
ysgrifennu at y tystion i ofyn nifer o gwestiynau nad oedd amser i'w gofyn yn y
cyfarfod. |
|
(16.15) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y mater a ganlyn: Eitemau 8, 9 & 10 Cofnodion: 7.1
Derbyniwyd y cynnig. |
|
(16.15 - 16.30) |
Gweithredu Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 8.1
Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law. |
|
(16.30 - 16.50) |
Blaenraglen waith: Trafod rhaglen waith yr hydref 2019 PAC(5)-19-19 Papur 7 – Rhaglen waith drafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: 9.1 Nododd
yr Aelodau y rhaglen waith arfaethedig ar gyfer tymor yr hydref 2019. |
|
(16.50 - 17.00) |
Gwrthsefyll twyll yn y Sector Cyhoeddus: Gwaith dilynol ar y digwyddiad a gynhaliwyd ar 1 Gorffennaf Cofnodion: 10.1
Trafododd yr Aelodau y digwyddiad ar wrthsefyll twyll yn y sector cyhoeddus,
gan roi eu hadborth i Archwilydd Cyffredinol Cymru. |