Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Fay Bowen
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 14/01/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(13.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r
Pwyllgor. 1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Adam Price AC a
Jack Sargeant AC. 1.3 Diolchodd y Cadeirydd i Adam Price AC am
gadeirio cyfarfodydd y Pwyllgor yn ystod ei gyfnod tadolaeth. 1.4 Ar ran y Pwyllgor, mynegodd y Cadeirydd
gydymdeimlad â theulu Steffan Lewis AC, a fu farw ar 11 Ionawr 2019. |
|
(13.30 - 13.45) |
Papur(au) i'w nodi Cofnodion: 2.1 Nodwyd
y papurau. |
|
Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio (RIFW): Llythyr gan Lywodraeth Cymru (29 Tachwedd 2018) Dogfennau ategol: |
||
Diogelwch Cymunedol yng Nghymru: Gwybodaeth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru Dogfennau ategol: |
||
Craffu ar Gyfrifon 2017-18: Gwybodaeth ychwanegol gan Amgueddfa Cymru Dogfennau ategol: |
||
Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru: Rheoli effaith Brexit ar y Rhaglen Datblygu Gwledig Dogfennau ategol:
|
||
Adroddiad(au) Archwilydd Cyffredinol Cymru: Aeddfedrwydd llywodraeth leol o ran y defnydd o ddata Dogfennau ategol: |
||
Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru: Datganoli cyllidol yng Nghymru Dogfennau ategol: |
||
(13.45 - 14.15) |
Gwasanaethau Gwybodeg GIG Cymru: Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad y Pwyllgor PAC(5)-01-19
Papur 1 – Ymateb Llywodraeth Cymru PAC(5)-01-19
Papur 2 - Llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1
Trafododd yr Aelodau ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar
Wasanaethau Gwybodeg GIG Cymru. 3.2
Trafododd yr Aelodau sylwadau'r Archwilydd Cyffredinol ar ymateb Llywodraeth
Cymru, gan gytuno y byddai'r Cadeirydd yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn
am eglurhad ynghylch nifer o faterion ac i wneud cais am ddiweddariadau
rheolaidd ar gyflymder y gwelliannau. |
|
(14.15) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y mater a ganlyn: Eitemau 5,
6, 7, 8 a 9 Cofnodion: 4.1
Derbyniwyd y cynnig. |
|
(14.15 - 14.45) |
Perthynas Llywodraeth Cymru â Pinewood: Trafod yr adroddiad drafft PAC(5)-01-19
Papur 3 - Adroddiad drafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1 Trafododd yr Aelodau yr adroddiad drafft,
gan gytuno i drafod drafft arall yn y cyfarfod ar 28 Ionawr. |
|
(14.45 - 15.00) |
Rheoli apwyntiadau cleifion allanol ar draws Cymru: Trafod y papur cwmpasu Papur briffio Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1
Trafododd yr Aelodau y papur cwmpasu, gan gytuno i gynnal ymchwiliad i'r mater
hwn. |
|
(15.00 - 15.15) |
Menter Atal Twyll Genedlaethol: Trafod y papur cwmpasu PAC(5)-01-19
Papur 4 - Papur cwmpasu Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1
Trafododd yr Aelodau y papur cwmpasu, gan gytuno i gynnal ymchwiliad i'r mater
hwn. |
|
(15.15 - 15.30) |
Cymorth Ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer Busnesau: Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru. Papur
briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil PAC(5)-01-19
Papur 5 - Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 8.1
Trafododd yr Aelodau adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol, gan gytuno i gynnal
ymchwiliad i'r mater hwn. |
|
(15.30 - 16.00) |
Adroddiad(au) Archwilydd Cyffredinol Cymru: Blaenraglen waith PAC(5)-01-19
Papur 6 – Blaenraglen Waith Archwilydd Cyffredinol Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 9.1 Nododd
yr Aelodau flaenraglen waith Archwilydd Cyffredinol Cymru a'r ffaith mai diwedd
yr wythnos honno oedd y dyddiad cau ar gyfer ymatebion iddi. |