Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Fay Bowen
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 03/12/2018 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(13.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1
Croesawodd
y Cadeirydd dros dro yr Aelodau i'r cyfarfod Pwyllgor. 1.2
Cafwyd
ymddiheuriadau gan Jack Sargeant AC a Nick Ramsay AC. Roedd Darren Millar AC yn
bresennol fel dirprwy. 1.3
Llongyfarchodd y Cadeirydd dros dro Nick Ramsay AC ar
enedigaeth ddiweddar ei fab. |
|
(13.30 - 13.40) |
Papur(au) i'w nodi Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Cafodd
y papurau eu nodi. 2.2
Cytunwyd y byddai angen eglurhad pellach gan Amgueddfa Genedlaethol Cymru
ynghylch ei ffigurau absenoldeb oherwydd salwch. |
|
Craffu ar Gyfrifon 2017-18: Gwybodaeth ychwanegol gan Gomisiwn y Cynulliad (14 Tachwedd 2018) |
||
Craffu ar Gyfrifon 2017-18: Gwybodaeth ychwanegol gan Amgueddfa Genedlaethol Cymru (15 Tachwedd 2018) |
||
Craffu ar Gyfrifon 2017-18: Llythyr gan yr Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru (22 Tachwedd 2018) |
||
Perthynas Llywodraeth Cymru â Pinewood: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (22 Tachwedd 2018) |
||
(13.40 - 15.00) |
Rhaglen Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru: Sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru Papur
briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil PAC(5)-32-18
Papur 1 – Papur gan Lywodraeth Cymru PAC(5)-32-18 Papur 2 - Llythyr oddi wrth Tai Cymunedol
Cymru PAC(5)-32-18 Papur 3 - Llythyr oddi wrth Cymorth Cymru Tracey
Burke – Cyfarwyddwr Cyffredinol, Grŵp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus,
Llywodraeth Cymru Jo-Anne
Daniels – Cyfarwyddwr, Cymunedau & Trechu Tlodi, Llywodraeth Cymru John
Howells – Cyfarwyddwr Tai ac Adfywio, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Cafodd
yr Aelodau dystiolaeth gan y tystion a ganlyn fel rhan o'u hymchwiliad i Raglen
Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru: Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol y
Grŵp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus; Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr
Cymunedau a Threchu Tlodi; a John Howells, Cyfarwyddwr Tai ac Adfywio,
Llywodraeth Cymru. 3.2
Cytunodd Tracey Burke i: ·
anfon
nodyn yn egluro'r gyllideb ar gyfer y dull dwy grant ar gyfer 2019-20, ac yn egluro lle y dyrannwyd y £5 miliwn a
glustnodwyd yn flaenorol ar gyfer y cynnig gofal plant; ·
gwirio sut
y mae adborth ynghylch safbwyntiau awdurdodau lleol yn deillio o'r gwerthusiad
interim wedi'i rannu â phob awdurdod lleol; ·
cael
trafodaeth gyda'r gwerthuswyr ynghylch a fyddai modd enwi'r saith awdurdod
lleol sy'n rhan o'r cynllun peilot, a hynny er mwyn rhoi cyfle i awdurdodau
lleol nad ydynt yn awdurdodau braenaru drafod y dulliau a ddefnyddiwyd; ·
anfon
rhestr o'r holl grantiau sy'n gysylltiedig â'r dull dau grant ynghyd â'r
gyllideb a ddyrennir ar gyfer 2019-20; a ·
rhoi
cyngor ar y paratoadau sy'n cael eu gwneud ynglŷn â'r effaith y gallai
Brexit ei chael ar y Rhaglen Cefnogi Pobl. 3.3 Yn
ogystal, cytunodd Tracey Burke i gysylltu â Swyddfa Archwilio Cymru er mwyn
sicrhau bod yr holl argymhellion yn deillio o adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru
yn cael eu hadlewyrchu'n llawn yn y canllawiau sy'n cael eu cyhoeddi. |
|
(15.00 - 15.05) |
Maes Awyr Caerdydd: Y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru am weithredu argymhellion y Pwyllgor PAC(5)-32-18 Papur 4 – Y wybodaeth ddiweddaraf gan
Lywodraeth Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1
Trafododd yr Aelodau y llythyr gan Gyfarwyddwr Cyffredinol Grŵp yr
Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol a chytunodd i: ·
geisio
eglurhad pellach ar nifer o bwyntiau; a ·
threfnu sesiwn dystiolaeth ar gyfer tymor yr haf 2019 i
graffu ar berfformiad y maes awyr, ynghyd â'i gynlluniau ar gyfer gwaith
datblygu yn y tymor canolig a'r tymor hir. |
|
(15.05) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y mater a ganlyn: Eitemau 6,
7 & 8 Cofnodion: 5.1
Derbyniwyd y cynnig. |
|
(15.05 - 15.15) |
Rhaglen Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 6.1
Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a gafwyd, gan gytuno i ysgrifennu at
Lywodraeth Cymru er mwyn nodi eu casgliadau ac er mwyn trefnu sesiwn
dystiolaeth ar gyfer tymor yr haf 2019 at ddibenion craffu ar werthusiad
terfynol y Rhaglen Ariannu Hyblyg. |
|
(15:15 - 15:40) |
Adroddiad(au) Archwilydd Cyffredinol Cymru: Blaenraglen waith PAC(5)-32-18 Papur 5 – Blaenraglen waith Archwilydd
Cyffredinol Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1
Trafododd yr Aelodau flaenraglen waith Archwilydd Cyffredinol Cymru. Cytunwyd y
dylid trafod y cynigion a dychwelyd i'r eitem hon yn y cyfarfod ar 14 Ionawr
2019. |
|
(15.40 - 16.00) |
Gwasanaeth gofal sylfaenol y tu allan i oriau: trafod y papur cwmpasu PAC(5)-32-18 Papur 6 – Papur cwmpasu Dogfennau ategol:
Cofnodion: 8.1
Trafododd yr Aelodau y papur cwmpasu, gan gytuno i wneud gwaith ymgysylltu yn
unol â'r hyn a fanylwyd yn y papur ar 21 Ionawr 2019. |