Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd

Cyswllt: Fay Bowen 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 13/05/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.15)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor.

1.2        Cafwyd ymddiheuriadau gan Neil Hamilton AC, Rhianon Passmore AC ac Adam Price AC. Nid oedd dirprwyon yn bresennol ar eu rhan.

 

(13.15 - 13.25)

2.

Papur(au) i'w nodi

Cofnodion:

2.1 Nodwyd y papurau.

 

2.1

Gwasanaeth Awyr oddi mewn i Gymru – Caerdydd i Ynys Môn: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (23 Ebrill 2019)

Dogfennau ategol:

2.2

Caffael Cyhoeddus: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (30 Ebrill 2019)

Dogfennau ategol:

2.3

Craffu ar Gyfrifon 2016-17: Llythyr gan Chwaraeon Cymru (8 Ebrill 2019)

Dogfennau ategol:

(13.25 - 13.40)

3.

Craffu ar Gyfrifon 2017-18: Trafod ymatebion i adroddiad y Pwyllgor

PAC(5)-12-19 Papur 1 – Comisiwn y Cynulliad

PAC(5)-12-19 Papur 1A – Llythyr gan Gomisiwn y Cynulliad ynglŷn â chodi’r cyfyngiad ar swyddi y Sefydliad

PAC(5)-12-19 Papur 2 - Amgueddfa Cymru

PAC(5)-12-19 Papur 3 - Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

PAC(5)-12-19 Papur 4 – Llywodraeth Cymru

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Trafododd yr Aelodau yr ymatebion i adroddiad y Pwyllgor ar Gyfrifon 2017-18.

3.2 Cytunwyd y byddai materion yn ymwneud â Chomisiwn y Cynulliad a Llywodraeth Cymru yn cael eu trafod fel rhan o'r gwaith o graffu ar Gyfrifon 2018-19 ac y byddai'r Cadeirydd yn ysgrifennu at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i ofyn am eglurhad ar nifer o bwyntiau.

 

(13.40 - 15.15)

4.

Cymorth Ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer Busnesau

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-12-19 Papur 5 – Chwarae Teg

 

Cerys Furlong – Chwarae Teg

Robert Lloyd Griffiths - Sefydliad y Cyfarwyddwyr

Dylan Jones-Evans – Prifysgol De Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Cynhaliodd yr Aelodau sesiwn gwybodaeth gefndirol yng nghwmni Cerys Furlong o Chwarae Teg, Robert Lloyd Griffiths o Sefydliad y Cyfarwyddwyr a Dylan Jones-Evans o Brifysgol De Cymru cyn yr ymchwiliad ffurfiol i gymorth ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer busnesau.

 

(15.15)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y mater a ganlyn:

Eitemau 6, 7 & 8

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(15.15 - 15.30)

6.

Cymorth Ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer Busnesau: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

6.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(15.30 - 16.15)

7.

Adolygiad Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Yr Hyn a Ddysgwyd – Trafod yr adroddiad drafft

PAC(5)-12-19 Papur 6 - Adroddiad drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Trafododd yr Aelodau yr adroddiad drafft a chytunwyd y byddai fersiwn ddiwygiedig yn cael ei dosbarthu drwy e-bost i'w chytuno ganddynt.

 

(16.15 - 16.45)

8.

Rheoli Gwastraff: Adroddiadau Archwilydd Cyffredinol Cymru

Papur briffio

PAC(5)-12-19 Papur 7 – Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru: Caffael Capasiti Trin Gwastraff Gweddilliol a Gwastraff Bwyd

PAC(5)-12-19 Papur 8 – Ymateb Llywodraeth Cymru

PAC(5)-12-19 Papur 9 – Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru: Rheoli Gwastraff yng Nghymru: Ailgylchu Trefol

PAC(5)-12-19 Papur 10 – Ymateb Llywodraeth Cymru

PAC(5)-12-19 Papur 11 – Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru: Rheoli Gwastraff yng Nghymru – Atal Gwastraff

PAC(5)-12-19 Papur 12 – Ymateb Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Trafododd yr Aelodau adroddiadau yr Archwilydd Cyffredinol ar reoli gwastraff, gan nodi'r ymatebion gan Lywodraeth Cymru. Cytunodd y Pwyllgor i gynnal ymchwiliad i'r mater hwn yn nhymor yr hydref.