Adolygiad Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Yr Hyn a Ddysgwyd
Adolygiad Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Yr Hyn a Ddysgwyd
Cynhaliodd Pwyllgor Cyfrifon
Cyhoeddus y Pedwerydd Cynulliad ymchwiliad i drefniadau
llywodraethu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn 2014 ar
ôl i Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru gyhoeddi eu
hadroddiad ar y cyd ym mis Mehefin 2013, ac mae wedi bod yn cadw golwg ar y
sefyllfa ers i’r Pwyllgor gyhoeddi ei adroddiad ym mis Rhagfyr 2013.
Mewn gwaith
dilynol, ymchwiliodd y Pwyllgor hwnnw hefyd i drefniadau llywodraethu ym
myrddau iechyd Cymru yn gyffredinol, ac mae ei adroddiad, Materion
ehangach sy’n deillio o adolygiad llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi
Cadwaladr (PDF 803KB) (a gyhoeddwyd ar 26 Chwefror 2016), yn
cynnwys casgliadau'r Pwyllgor ynglŷn
â threfniadau llywodraethu
byrddau iechyd, y sefyllfa bresennol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
a'r dystiolaeth a gasglodd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg,
ynghyd â'i safbwyntiau am y sefyllfa ariannol ym maes iechyd. Ymatebodd
Llywodraeth Cymru, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, a Bwrdd Iechyd Prifysgol
Betsi Cadwaladr (PDF 869KB) i’r adroddiad ym Mehefin 2016.
Cynhaliodd y
Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ymchwiliad byr yng ngwanwyn 2019 i ganfod pa
bethau a ddysgwyd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a hefyd i drafod
gwelliannau llywodraethau ehangach yn y byrddau iechyd.
Derbyniodd
Llywodraeth Cymru argymhellion y Pwyllgor ac fe’u rhoddwyd ar waith. Mae’r
Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cyhoeddi datganiadau
rheolaidd ar y gwelliannau a wnaed yn y bwrdd iechyd fel rhan o’r broses Mesurau
Arbennig.
Sesiwn Dystiolaeth |
Dyddiad, Agenda a Chofnodion |
Trawsgrifiad |
Fideo |
1. Llywodraeth Cymru Dr Andrew Goodall Alan Brace |
|||
2. Cyngor Iechyd Cymuned Geoff Ryall-Harvey |
|||
3. Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr Mark Polin |
Math o fusnes: Arall
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 08/01/2019
Dogfennau