Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Davies 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 14/09/2020 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(14.30)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir y Pwyllgor Cyllid.

 

(14.30)

2.

Papur(au) i'w nodi

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Gorffennaf 2020

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

2.1

PTN 1 - Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd at y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol: Buddsoddiad rhanbarthol ar ôl Brexit - 20 Gorffennaf 2020

Dogfennau ategol:

2.2

PTN 2 – Llythyr gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru at y Prif Weinidog: Ymchwiliad cyhoeddus i'r ymateb i bandemig y Coronafeirws yng Nghymru – 30 Gorffennaf 2020

Dogfennau ategol:

2.3

PTN 3 – Llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Gwybodaeth mewn perthynas â’r Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) - 27 Gorffennaf 2020

Dogfennau ategol:

2.4

PTN 4 – Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor: Craffu ar Gyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru 2020-21

Dogfennau ategol:

2.5

PTN 5 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd: Gwybodaeth am y blaengynllunio ariannol ar gyfer cyrff a ariennir yn uniongyrchol - 11 Awst 2020

Dogfennau ategol:

2.6

PTN 6 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd: Diweddariad ar y symiau canlyniadol y mae Cymru wedi'u cael yn sgil COVID-19 - 19 Awst 2020

Dogfennau ategol:

2.7

PTN 7 - Llythyr gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru: Ymateb ariannol i Covid-19 - 5 Medi 2020

Dogfennau ategol:

2.8

PTN 8 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd: Diweddariad ar gais ffurfiol Llywodraeth Cymru i Lywodraeth y DU am ddatganoli rhagor o gymhwysedd trethi - 8 Medi 2020

Dogfennau ategol:

(14.30-15.30)

3.

Y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru): Sesiwn dystiolaeth

Julie James AS, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Emma Williams, Cyfarwyddwr Tai ac Adfywio, Bil - Uwch-swyddog Ymchwil

Simon White, Pennaeth Strategaeth Tai a Deddfwriaeth

Rob Owen, Rheolwr Deddfwriaeth Rhentu Cartrefi

 

Papurau ategol:

Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru)

Memorandwm Esboniadol

FIN(5)-15-20 P1 - Llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol - Ymateb i gwestiynau ar y Bil - 16 Gorffennaf 2020 

Papur briffio’r Gwasanaeth Ymchwil

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Julie James AS, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol; Emma Williams, Cyfarwyddwr Tai ac Adfywio, Bil - Uwch Swyddog Ymchwil; Simon White, Pennaeth Strategaeth Tai a Deddfwriaeth; a Rob Owen, Rheolwr Deddfwriaeth Rhentu Cartrefi ar y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru).

 

3.2 Cytunodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am strategaeth gyfathrebu Llywodraeth Cymru ar gyfer y Bil Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 a’r Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru).

 

(15.35-16.15)

4.

Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Amrywio Dros Dro Gyfraddau a Bandiau ar gyfer Trafodiadau Eiddo Preswyl) (Cymru) 2020: Sesiwn dystiolaeth

Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd

Andrew Hewitt, Pennaeth Trethi a Deddfwriaeth

Dr Tom Nicholls, Cynghorydd Economaidd

 

Papurau ategol:

Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Amrywio Dros Dro Gyfraddau a Bandiau ar gyfer Trafodiadau Eiddo Preswyl) (Cymru) 2020 

Memorandwm Esboniadol

FIN(5)-15-20 P2 - Cyngor cyfreithiol

Papur briffio’r Gwasanaeth Ymchwil

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd; Andrew Hewitt, Pennaeth Trethi a Deddfwriaeth a Dr Tom Nicholls, Cynghorydd Economaidd ar Reoliadau Treth Trafodiadau Tir (Amrywio Dros Dro Gyfraddau a Bandiau ar gyfer Trafodiadau Eiddo Preswyl) (Cymru) 2020.

 

(16.15)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(16.15-16.30)

6.

Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Amrywio Dros Dro Gyfraddau a Bandiau ar gyfer Trafodiadau Eiddo Preswyl) (Cymru) 2020: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

6.1 Roedd y Pwyllgor yn fodlon â’r dystiolaeth a chytunodd i beidio â chyflwyno adroddiad ar y rheoliadau.

 

(16.30-16.45)

7.

Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru): Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

7.1 Roedd y Pwyllgor yn fodlon â’r dystiolaeth a chytunodd i beidio â chyflwyno adroddiad ar y Bil.

 

(16.45-16.55)

8.

Trafod y flaenraglen waith

Papurau ategol:

FIN(5)-15-20 P3 – Blaenraglen waith

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith ar gyfer tymor yr hydref.

 

(16.55-17.00)

9.

Gwaith ymgysylltu ar yr ymchwiliad i weithredu Deddf Cymru 2014 a’r Fframwaith Cyllidol

Papurau ategol:

FIN(5)-15-20 P4 – Gwaith ymgysylltu ar yr ymchwiliad

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Trafododd y Pwyllgor ei ddull o ymgysylltu â’r cyhoedd o ran yr Ymchwiliad i weithredu Deddf Cymru 2014 a’r Fframwaith Cyllidol.