Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Graeme Francis
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 15/01/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datganiadau o fuddiant Dogfennau ategol: Cofnodion: Croesawodd
y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd ymddiheuriadau. Estynnodd
y Cadeirydd bob cydymdeimlad ar ran y Pwyllgor i deulu a ffrindiau'r diweddar
Steffan Lewis AC a fu farw ar 11 Ionawr 2019, a gwahoddodd y Pwyllgor i gymryd
ennyd o amser i fyfyrio'n dawel. |
|
Deisebau newydd |
|
P-05-853 Na i gau Cyffordd 41 o gwbl Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at Weinidog
yr Economi a Thrafnidiaeth i ofyn pa asesiad a wnaed o effaith bosibl cynnydd
mewn allyriadau o gerbydau ar hyd ffyrdd lleol pe bai Cyffordd 41 yn cael ei
chau'n rhannol neu'n gyfan gwbl, ac a gasglwyd y data perthnasol ar allyriadau
fel rhan o'r cyfnod prawf pan gaewyd y gyffordd yn flaenorol. |
|
P-05-854 Gwneud hyfforddiant Anabledd Dysgu yn orfodol ar gyfer staff ysbytai Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:
|
|
P-05-858 Taenellwyr Dŵr i arbed bywydau nid i wneud arian! Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am farn y deisebydd ar
ymateb Llywodraeth Cymru cyn penderfynu a ddylid cymryd camau pellach o ran y
ddeiseb. |
|
P-05-859 Dylid Darparu Tai Plant yng Nghymru i Blant sy'n Dioddef Camdriniaeth Rywiol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd
Neil McEvoy y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae'n
gynghorydd lleol ac mae wedi ymwneud ag achosion unigol. Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:
o
Gomisiynydd
Plant Cymru i ofyn am ei barn ar y ddeiseb, rhagor o wybodaeth am yr
argymhellion perthnasol a wnaeth yn Adroddiad Blynyddol 2017/18 ac ymateb
Llywodraeth Cymru, a'i barn am alwad y deisebydd am leoedd lle gall plant fynd
i ddianc rhag camdriniaeth rywiol; a'r o
Gweinidog
Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn pa gyfleusterau sydd ar gael yng
Nghymru ar gyfer diogelu plant sy'n rhoi gwybod am gamdriniaeth rywiol ac yn
dianc rhagddi; o
Gofyn am y
wybodaeth ddiweddaraf ynghylch a yw'r adolygiad o wasanaethau cynghori a
sefydlwyd gan y Prif Weinidog blaenorol yn parhau. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-04-576 Caniatáu i Blant yng Nghymru Gael Gwyliau Teuluol yn Ystod Tymor yr Ysgol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth y Gweinidog Addysg a chytunodd ar y camau a
ganlyn:
|
|
P-04-606 Sicrhau bod ysgolion yn defnyddio eu pwerau statudol o dan reoliad 7 o Reoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010 heb unrhyw ymyrraeth neu ragfarn. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth y Gweinidog Addysg a chytunodd ar y camau a
ganlyn:
|
|
P-05-828 Rhagdybiaeth o blaid Ysgolion Gwledig Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu
at y Gweinidog Addysg er mwyn:
|
|
P-05-805 Rhoi chwarae teg i Athrawon Cyflenwi Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd
Neil McEvoy y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A: mae wedi
gweithio fel athro cyflenwi yn y gorffennol. Trafododd
y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth y Gweinidog Addysg ynghyd â sylwadau pellach gan
y deisebydd a chytunodd ar y camau a ganlyn:
o
ofyn am
ymateb i'r cwestiynau pellach a ofynnwyd gan y deisebwyr; o
gofyn iddi
egluro pam nad yw'n meddwl ar hyn o bryd y byddai'n addas cael trefniant sector
cyhoeddus rhanbarthol neu leol o ran darparu athrawon cyflenwi; a
|
|
P-05-848 Rhowch gyfle i Fyfyrwyr Cymru ddewis yr opsiwn astudio gorau ar eu cyfer hwy Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth y Gweinidog Addysg ynghyd â sylwadau pellach gan
y deisebydd a chytunodd i gau'r ddeiseb yn sgil yr ymateb diamwys a gafwyd gan
y Gweinidog Addysg a'r ffaith ei bod hi'n debyg nad oes gobaith gwirioneddol o
newid yr agwedd hon ar bolisi cyllido myfyrwyr. |
|
P-04-648 Ceisiadau cynllunio nwy ac olew anghonfensiynol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor ddatganiad ysgrifenedig ar y Polisi Echdynnu Petrolewm a chytunodd i
ofyn i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig gadarnhau bod y Pwyllgor
wedi deall yn gywir y byddai unrhyw gais newydd am drwydded i echdynnu
petrolewm yn cael ei 'alw i mewn' gan Lywodraeth Cymru pe bai'r awdurdod lleol
perthnasol yn bwriadu ei gymeradwyo. |
|
P-05-743 Rhowch Derfyn ar Fasnachu Anifeiliaid Anwes Egsotig yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd
Janet Finch Saunders y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A: Bu'n
gweithio ym maes gwerthu anifeiliaid anwes yn y gorffennol. Bu'r
Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth oddi wrth Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a
Materion Gwledig a chytunodd i ofyn am bapur briffio ar y gwahaniaethau rhwng y
rheoliadau ar werthu anifeiliaid anwes egsotig yng Nghymru a Lloegr. |
|
P-05-816 Dywedwch ‘NA’ i saethu ffesantod ar dir cyhoeddus Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Tafododd y
Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig a
chytunodd i gau'r ddeiseb am fod Bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi penderfynu
peidio ag ymestyn unrhyw brydlesi ar gyfer hawliau saethu ffesantod ar ôl
iddynt ddod i ben ym mis Mawrth 2019, yn dilyn ymyrraeth gan Lywodraeth
Cymru. Wrth wneud hynny, roedd y Pwyllgor
am longyfarch y deisebwyr ar lwyddiant eu hymgyrch. |
|
P-05-825 Diogelu ysgyfaint plant rhag llygredd niweidiol tra maent yn yr ysgol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd ar y camau a ganlyn:
|
|
P-05-852 Cyflwyno trwydded i reoli tir ar gyfer saethu adar hela mewn ymgais i roi terfyn ar erlid adar ysglyfaethus Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth y deisebydd a chytunodd i'w hanfon at Weinidog
yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, yn gofyn am ei barn ar y materion a
godwyd, a gofyn am gopi o'r adolygiad ynghylch atal ac ymchwilio i droseddau
bywyd gwyllt yng Nghymru. |
|
P-05-804 Mae angen cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer chwarae!! Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor yr ohebiaeth oddi wrth y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at:
|
|
P-05-846 Achub Ysbyty Tywysog Philip Llanelli Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ynghyd â
sylwadau pellach gan y deisebwyr, a chytunodd i wahodd y deisebwyr i gyfarfod
Pwyllgor yn y dyfodol i drafod eu pryderon ynghylch cynigion yn ymwneud ag
Ysbyty Tywysog Philip yn fanylach. |
|
P-05-775 Caewch y bwlch sy'n ymwneud â gweithio trawsffiniol ac is-gontractio yn y gyfraith trwyddedu tacsis. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd Mike Hedges y buddiant perthnasol a ganlyn o
dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae ganddo deulu a ffrindiau sy'n gweithio yn
y diwydiant tacsis. Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynglŷn
â'r ddeiseb a chytunodd i anfon y wybodaeth a gafwyd gan y deisebwyr at
Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn sgil yr ymgynghoriad cyhoeddus ar y
Papur Gwyn ar wella trafnidiaeth gyhoeddus, a gofyn:
|
|
P-05-835 Caniatáu i Yrwyr Tacsi Symud yn Rhydd i wneud Gwaith Hurio Preifat Unrhyw Le yng Nghymru Dogfennau ategol: Cofnodion: Datganodd Mike Hedges y buddiant perthnasol a ganlyn o
dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae ganddo deulu a ffrindiau sy'n gweithio yn
y diwydiant tacsis. Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynglŷn
â'r ddeiseb a chytunodd i anfon y wybodaeth a gafwyd gan y deisebwyr at
Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn sgil yr ymgynghoriad cyhoeddus ar y
Papur Gwyn ar wella trafnidiaeth gyhoeddus, a gofyn:
|
|
P-05-798 Gwasanaethau cymorth i ddynion sy'n ddioddefwyr trais yn y cartref i gael eu rhedeg a'u cyllido'n annibynnol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd
Neil McEvoy y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae wedi
defnyddio gwasanaeth FNF Both Parents Matter Cymru yn y gorffennol. Trafododd y
Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth Arweinydd y Tŷ ynghyd â sylwadau pellach gan
y deisebydd a chytunodd ar y camau a ganlyn:
|