P-05-816 Dywedwch ‘NA’ i saethu ffesantod ar dir cyhoeddus Cymru

P-05-816 Dywedwch ‘NA’ i saethu ffesantod ar dir cyhoeddus Cymru

Wedi'i gwblhau

P-05-816 Dywedwch ‘NA’ i saethu ffesantod ar dir cyhoeddus Cymru

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Animal Aid, ar ôl casglu 12,706  o lofnodion ar wefan amgen.


Geiriad y ddeiseb

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod Cyfoeth Naturiol Cymru, fel y corff cyfrifol a noddir gan Lywodraeth Cymru, yn peidio â phrydlesu tir cyhoeddus i weithgareddau saethu masnachol. Prif swyddogaeth gyfansoddiadol Cyfoeth Naturiol Cymru yw bod yn stiward amgylcheddol dros y tir y mae’n ei reoli ar ran Llywodraeth Cymru a phobl Cymru. Ond mae prydlesu’r tir hwn ar gyfer gweithgareddau saethu yn effeithio’n negyddol ar gadwraeth, bioamrywiaeth a lles anifeiliaid. Herfyd, mae gweithgareddau saethu yn llygru tir gyda phelenni plwm gwenwynig sy’n gyfrifol am wenwyno a lladd llawer o anifeiliaid. Mae arfer Cyfoeth Naturiol Cymru o brydlesu tir ar gyfer saethu yn hwyluso gweithgarwch sy’n wrthun gan lawer o bobl Cymru: lladd anifeiliaid er mwyn ‘difyrrwch’.  Mae’r prydlesau hefyd yn golygu fod mynediad y cyhoedd i dir sy’n eiddo i bobl Cymru yn cael ei gyfyngu. 

Trosglwyddo desiseb

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 15/01/2019 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

Tafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig a chytunodd i gau'r ddeiseb am fod Bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi penderfynu peidio ag ymestyn unrhyw brydlesi ar gyfer hawliau saethu ffesantod ar ôl iddynt ddod i ben ym mis Mawrth 2019, yn dilyn ymyrraeth gan Lywodraeth Cymru.  Wrth wneud hynny, roedd y Pwyllgor am longyfarch y deisebwyr ar lwyddiant eu hymgyrch.

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 05/06/2018.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Sir Drefaldwyn

·         Canolbarth a Gorllewin Cymru

Rhagor o wybodaeth

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 25/04/2018