Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Graeme Francis
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 09/10/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Dogfennau ategol: Cofnodion: Croesawodd
y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Neil McEvoy. |
||
Deisebau newydd |
||
P-05-833 Gwella gwasanaethau rheilffordd i Gas-gwent Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro
cyntaf a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi
a Thrafnidiaeth i ofyn am ragor o fanylion am gynlluniau ar gyfer y dyfodol
mewn perthynas â gorsaf Cas-gwent, a pham na ellir cyflawni'r cynnydd
arfaethedig yng ngwasanaethau Masnachfraint Cymru a'r Gororau o aros yng
Nghas-gwent tan fis Rhagfyr 2022. |
||
P-05-834 Dylai Pob Ysgol Fod yn Ysgol Cyfrwng Cymraeg ac Addysgu Hanes Cymru. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro
cyntaf a chytunodd i aros i glywed barn y deisebydd ar ymateb Ysgrifennydd y
Cabinet dros Addysg cyn penderfynu a ddylid cymryd camau pellach ynghylch y
ddeiseb. Wrth wneud hynny, roedd y Pwyllgor am gael rhagor o wybodaeth hefyd
gan y deisebydd am y datganiad a wnaed yn y ddeiseb bod hanes Cymru wedi'i
ysgrifennu yn Gymraeg. |
||
P-05-835 Caniatáu i Yrwyr Tacsi Symud yn Rhydd i wneud Gwaith Hurio Preifat Unrhyw Le yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i: ·
grwpio'r
ddeiseb hon gyda deiseb P-05-775 Caewch y bwlch sy'n ymwneud â gweithio
trawsffiniol ac is-gontractio yn y gyfraith trwyddedu tacsis, a'u hystyried
gyda'i gilydd yn y dyfodol; ac ·
aros i
Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru ar gynigion i ddiwygio trwyddedu cerbydau hurio
preifat a thacsis yng Nghymru gael ei gyhoeddi, cyn ystyried camau pellach ar y
ddeiseb. |
||
P-05-836 Adroddiadau ar y Bwlch Cyflog rhwng y Rhyweddau Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd
Mike Hedges y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae'n
adnabod y deisebydd. Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros i glywed barn y
deisebydd ar yr ymateb a gafwyd gan Arweinydd y Tŷ cyn penderfynu a ddylid
cymryd camau pellach ynghylch y ddeiseb. |
||
P-05-837 Ynni Gwyrdd er Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro
cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y deisebwyr:
|
||
P-05-838 Cefnogwch y Llwybr Du o ran Ffordd Liniaru’r M4 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro
cyntaf a chadw llygad ar y ddeiseb yng ngoleuni'r gwaith craffu cynhwysfawr a
roddwyd i'r mater hwn gan yr ymchwiliad cyhoeddus ac ymrwymiad Llywodraeth
Cymru i gynnal dadl lawn ar y mater hwn cyn gwneud penderfyniad. |
||
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
||
P-05-775 Caewch y bwlch sy'n ymwneud â gweithio trawsffiniol ac is-gontractio yn y gyfraith trwyddedu tacsis Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i: ·
grwpio'r
ddeiseb hon gyda deiseb P-05-835 Caniatáu i Yrwyr Tacsi Symud yn Rhydd i wneud
Gwaith Hurio Preifat Unrhyw Le yng Nghymru a'u hystyried gyda'i gilydd yn y
dyfodol; ac ·
aros i
Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru ar gynigion i ddiwygio trwyddedu cerbydau hurio
preifat a thacsis yng Nghymru gael ei gyhoeddi, cyn ystyried camau pellach ar y
ddeiseb. |
||
P-05-736 Gwneud gwasanaethau iechyd meddwl yn fwy hygyrch Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor ohebiaeth gan Mind Cymru a'r deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn nifer o
gwestiynau yn seiliedig ar y dystiolaeth a ddaeth i law, gan gynnwys:
|
||
P-05-791 Diddymu contractau parcio preifat yn ysbytai Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb yng
ngoleuni'r ffaith y gellir parcio am ddim ym mhob ysbyty GIG yng Nghymru ers 1
Hydref 2018. |
||
P-05-797 Sicrhau mynediad i'r feddyginiaeth ffibrosis systig, Orkambi, fel mater o frys Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r deisebydd, a
chytunodd i:
|
||
P-05-812 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i annog ymddiriedolaethau i weithredu canllawiau NICE ar gyfer trin Anhwylder Personoliaeth Ffiniol neu gyfiawnhau pam nad ydynt yn gwneud hynny Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan fyrddau
iechyd lleol a'r deisebydd a chytunodd i:
|
||
P-05-799 Newid y Cwricwlwm Cenedlaethol a dysgu hanes Cymru, a hynny o bersbectif Cymreig, yn ein Hysgolion Cynradd, Uwchradd a’r Chweched Dosbarth Dogfennau ategol:
Cofnodion:
|
||
P-05-801 Rhaid achub y coed a'r tir yng Ngerddi Melin y Rhath a Nant y Rhath cyn iddi fynd yn rhy hwyr Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Dŵr
Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a'r deisebydd a chytunodd i drefnu i gymryd
tystiolaeth lafar gan y grŵp ymgyrchu a Cyfoeth Naturiol Cymru ar y mater
hwn. |
||
P-05-790 Mynd i'r afael â chysgu ar y stryd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y deisebydd
a chytunodd i gau'r ddeiseb yng ngoleuni boddhad y deisebydd gyda'r
argymhellion sy'n deillio o ymchwiliad diweddar y Pwyllgor Cydraddoldeb,
Llywodraeth Leol a Chymunedau i gysgu allan. |
||
P-05-758 Cerflun i Anrhydeddu Billy Boston Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb yng
ngoleuni'r ffaith na dderbyniwyd unrhyw ddiweddariad gan y deisebwyr am 12 mis,
a'r tebygolrwydd nad oes llawer o waith craffu ymarferol y gall y Pwyllgor ei
wneud i'r mater hwn. Wrth wneud hynny, dymunodd y Pwyllgor lwc i'r deisebwyr
gyda'r prosiect hwn. |
||
P-05-742 Peidiwch â gadael i Forsythia gau Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb yng
ngoleuni'r ffaith nad yw'n ymddangos yn bosibl bellach i symud y ddeiseb hon
ymlaen oherwydd y diffyg cysylltiad gan y deisebwyr ac effaith diwedd cyllid
Cymunedau'n Gyntaf. |
||
(9.45 - 10.45) |
Sesiwn Dystiolaeth P-05-806 Rydym yn galw am roi rhif Tystysgrif Mynediad i bob safle busnes yng Nghymru, yn debyg i'r Dystysgrif Hylendid Bwyd. ·
Simon Green – Bridgend Coalition for Disabled
People ·
Helen Fincham - Bridgend Coalition for Disabled
People ·
Rhian Davies – Disability Wales ·
Anita Davies – RNIB Dogfennau ategol:
Cofnodion: Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan Simon Green, Helen Fincham, Rhian Davies ac Anita
Davies. |
|
(10.45) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd ar gyfer eitem 6 Cofnodion: Derbyniwyd
y cynnig. |
|
Trafodaeth am Sesiwn Dystiolaeth Flaenorol - P-05-806 Rydym yn galw am roi rhif Tystysgrif Mynediad i bob safle busnes yng Nghymru, yn debyg i'r Dystysgrif Hylendid Bwyd. Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd a
chytunodd i ysgrifennu at: ·
Arweinydd
y Tŷ a'r Prif Chwip i roi gwybodaeth am y materion a glywyd yn ystod y
sesiwn dystiolaeth a gofyn a fyddai Llywodraeth Cymru yn ystyried cynnal
ymgynghoriad cyhoeddus ar y posibilrwydd o gyflwyno cynllun o'r fath. Cytunodd
y Pwyllgor hefyd i fynegi pryderon ynghylch y dystiolaeth a gafwyd nad yw'r
darpariaethau yn Neddf Cydraddoldeb 2010 wedi cael fawr o effaith ar wella
hygyrchedd adeiladau ar gyfer pobl ag anableddau; a'r ·
Comisiwn
Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i fynegi pryderon ynghylch y dystiolaeth a gafwyd
mai ychydig iawn o effaith o ran gwella hygyrchedd adeiladau y mae'r
darpariaethau yn Neddf Cydraddoldeb 2010 wedi ei chael ar gyfer pobl ag
anableddau, ac nad yw gofynion y Ddeddf yn cael eu gorfodi'n briodol. |