Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Graeme Francis
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld
trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 498KB) Gweld
fel HTML (195KB) |
||
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datganiadau o fuddiant Dogfennau ategol: Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
|
||
Deisebau newydd |
||
P-05-771 Ailystyried cau Grant Byw'n Annibynnol Cymru a chefnogi pobl anabl i fyw'n annibynnol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a
ganlyn ·
Ystyried y ddeiseb ymhellach yng nghyd-destun y
cyhoeddiad ar y gyllideb yn ddiweddarach y prynhawn hwnnw; ac yn y cyfamser ·
Ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau
Cymdeithasol i rannu pryderon y deisebydd a gofyn: o
a fydd hi'n cyhoeddi canlyniadau'r ymgynghoriad cyhoeddus
a chofnodion y grŵp rhanddeiliaid fel gofynnodd y deisebydd; o
p'un ai a wnaed Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb ac a
ellir rhoi hwn i’r Pwyllgor a’r deisebydd; ac am ei barn ynghylch a fydd y trefniadau trosiannol
arfaethedig yn sicrhau y bydd amcanion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles
(Cymru) wedi cael eu rhoi ar waith gan awdurdodau lleol cyn cau Grant Byw'n
Annibynnol Cymru. |
||
P-05-773 Peidiwch â Llenwi Safleoedd Tirlenwi! Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb am y tro cyntaf a
chytunodd i aros i glywed barn y deisebwyr am ymateb Ysgrifennydd y Cabinet
dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig cyn penderfynu pa gamau i’w cymryd mewn
perthynas â’r ddeiseb yn y dyfodol. |
||
P-05-774 Ewch Heibio’n Llydan ac yn Araf (Cymru) Dogfennau ategol:
Cofnodion: Gwnaeth David Rowlands ddatgan y buddiant perthnasol a
ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae ei ferch yn marchogaeth ceffylau. Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb am y tro cyntaf a
chytunodd i: ·
Ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r
Seilwaith i ofyn a fyddai’n ystyried a ellid rhoi cymorth ychwanegol i ymgyrch
“Dead? Or Dead Slow” Cymdeithas Ceffylau Prydain; ac ·
Ysgrifennu at Gymdeithas Ceffylau Prydain i ofyn eu barn am
y ddeiseb a’r camau y credir y gellid eu cymryd i gynyddu ymwybyddiaeth o’r
angen i arafu wrth basio ceffylau a rhoi digon o le iddynt. |
||
P-05-776 Cydnabod tri chan mlwyddiant Williams Pantycelyn Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb am y tro cyntaf a
chytunodd i ysgrifennu at Gyngor Celfyddydau Cymru i ofyn: o
p’un ai fod unrhyw ddigwyddiadau neu weithgareddau wedi
cael eu cynnal yn ystod 2017 i gydnabod tri chan mlwyddiant geni William
Williams; o
os na, pa ystyriaeth roddwyd i nodi’r garreg filltir hon
yn ystod y flwyddyn; ac o
am eu barn am y cynigion a wnaed gan y deisebydd. |
||
P-05-778 Amddiffyn Cyllyll Môr ar Draeth Llanfairfechan Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb am y tro cyntaf a
chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion
Gwledig yn gofyn: ·
iddi roi diweddariad i’r Pwyllgor ar ôl cwblhau’r arolwg,
a manylion unrhyw gamau pellach mae’n bwriadu eu cymryd i ddiogelu stociau
cyllyll môr; ac a oes unrhyw gamau wedi’u cymryd i ymchwilio i honiadau
fod cynaeafu cyllyll môr wedi parhau ers cau’r bysgodfa. |
||
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
||
P-05-757 Cael gwared ar y rhwymedigaeth ar ysgolion i gynnal gweithredoedd addoli crefyddol Dogfennau ategol: Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan Ysgrifennydd y
Cabinet dros Addysg a chytunodd i aros am ddiweddariad gan yr Ysgrifennydd
Cabinet wedi iddi ystyried y materion a godwyd gan y ddeiseb hon a P-05-765
Cadw Canllawiau Presennol ar gyfer Gwasanaethau Crefyddol. |
||
P-05-765 Cadw canllawiau presennol ar gyfer Gwasanaethau Crefyddol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan Ysgrifennydd y
Cabinet dros Addysg a chytunodd i aros am ddiweddariad gan yr Ysgrifennydd
Cabinet wedi iddi ystyried y materion a godwyd gan y ddeiseb hon a P-05-757
Cael gwared ar y rhwymedigaeth ar ysgolion i gynnal gweithredoedd addoli
crefyddol. |
||
P-04-408 Gwasanaeth i Atal Anhwylder Bwyta ymysg Plant a Phobl Ifanc Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan Ysgrifennydd y
Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon a chytunodd i:
o
atgynhyrchu’r tîm arbenigol rhanbarthol ar anhwylderau
bwyta (tîm SPEED) sy’n gweithredu yng Ngogledd Cymru ac mewn rhannau eraill o’r
gwasanaeth iechyd yng Nghymru ar hyn o bryd; ac ·
Ystyried cymryd rhagor o dystiolaeth mewn perthynas â’r
ddeiseb maes o law yn dibynnu ar yr ymateb a geir. |
||
P-04-505 Uned Anhwylderau Bwyta yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn
ystyried gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a
Chwaraeon a’r deisebydd a chytunodd i aros am yr ymateb i lythyr pellach y
Pwyllgor at yr Ysgrifennydd Cabinet mewn perthynas â P-04-408 cyn ystyried
camau pellach ar y ddeiseb, gan gynnwys y posibilrwydd o wahodd yr Ysgrifennydd
Cabinet i un o gyfarfodydd y Pwyllgor yn y dyfodol. |
||
P-04-648 Diwygio'r Cyfarwyddyd ar Olew a Nwy Anghonfensiynol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth gan Ysgrifennydd y
Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig a chytunodd i aros am y
diweddariad a gynigiwyd gan yr Ysgrifennydd Cabinet cyn diwedd tymor yr hydref,
cyn ystyried unrhyw gamau pellach ar y ddeiseb.
|
||
P-04-683 Coed mewn Trefi Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan Ysgrifennydd y
Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig a chytunodd i ofyn am farn y
deisebydd am yr ymateb hwnnw a holi beth arall, yn eu barn hwy, y gallai’r
Pwyllgor ei wneud i symud y ddeiseb yn ei blaen. |
||
P-05-743 Rhowch Derfyn ar Fasnachu Anifeiliaid Anwes Egsotig yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Gwnaeth Janet Finch- Saunders ddatgan y buddiant
perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae’n berchen ar macaw. Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan Ysgrifennydd y
Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig a’r deisebydd a chytunodd i
ysgrifennu at RSPCA Cymru i gael eu barn am y materion a godwyd gan y deisebydd
ac ar unrhyw gynnydd a wnaed trwy’u cyfarfodydd â Llywodraeth Cymru mewn
perthynas â’r pwnc hwn. |
||
P-05-753 Cryfhau’r Fframwaith Deddfwriaethol a Rheoleiddiol Ynghylch Cyfleusterau Prosesu Pren Gwastraff Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan Ysgrifennydd y
Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig a chytunodd i ysgrifennu at
Gyfoeth Naturiol Cymru i holi am eu hymateb i’r materion a godwyd mewn
gohebiaeth flaenorol gan y deisebydd. |
||
P-05-756 Diogelu cerddoriaeth fyw yng Nghymru Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb, yn dilyn dadl y y
Cyfarfod Llawn a gynhaliwyd ar 12 Gorffennaf, gan nodi’r ymateb cadarnhaol a
gafwyd gan Lywodraeth Cymru i’r ddeiseb. |
||
P-05-759 Ailagor Ffordd Goedwig Cwmcarn adeg y Pasg 2018 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan Gyfoeth Naturiol
Cymru a’r deisebydd, a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at Adnoddau Naturiol Cymru
er mwyn rhannu sylwadau diweddaraf y deisebwyr a derbyn eu cynnig i
ddiweddaru’r Pwyllgor erbyn dechrau mis Tachwedd ar y cynnydd a wnaed mewn
perthynas â chomisiynnu astudiaeth ddichonoldeb i’r opsiynau ar gyfer Ffordd
Goedwig Cwmcarn. |
||
P-05-690 P-05-690 Arwynebu Ffordd A40 Rhaglan-Y Fenni Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn ystyried sylwadau gan y deisebydd a
chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith
i ofyn a allai roi eglurhad clir i’r deisebydd a’r Pwyllgor am yr hyn sy’n
ymddangos yn newid safbwynt ers y Cynllun Gweithredu ynghylch Sŵn 2013-18
a’r ymrwymiadau a roddwyd gan ei ragflaenydd bod cynllun i ail-wynebu’r ffordd
ar y gweill. |
||
P-05-726 Rhoi Rhyddhad Ardrethi i Awdurdodau Lleol ar gyfer Cyfleusterau Hamdden a Diwylliannol Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb ar y sail bod
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol wedi ymateb i bryderon y
deisebwyr, a’i bod hi’n anodd cymryd camau pellach yn sgil diffyg cysylltiad
â’r deisebydd. |
||
P-05-734 Gwahardd Codi Ffioedd Asiant Gosod ar Denantiaid Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn trafod sylwadau pellach gan y deisebydd
a chytunodd i gau’r ddeiseb o gofio bwriad Llywodraeth Cymru i ddeddfu ar y
mater hwn a llongyfarch y deisebwyr ar lwyddiant eu hymgyrch. |
||
P-04-472 Gwnewch y Nodyn Cyngor Technegol Mwynau yn ddeddf Dogfennau ategol: Cofnodion: Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y deisebydd ochr yn
ochr â chynrychiolwyr deiseb P-04-575 Galw i Mewn Pob Cais Cynllunio ar Gyfer
Cloddio Glo Brig. |
||
P-04-575 Galw i Mewn Pob Cais Cynllunio ar Gyfer Cloddio Glo Brig Dogfennau ategol:
Cofnodion: Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr
Grŵp Gweithredu United Valleys a deisebydd P-04-472 Gwnewch y Nodyn Cyngor
Technegol Mwynau yn ddeddf. |
||
(10.30) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig. |
|
Trafod y dystiolaeth o'r Sesiwn Flaenorol Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn trafod tystiolaeth y sesiwn dystiolaeth
flaenorol a nododd y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig
yn bresennol yn un o gyfarfodydd y Pwyllgor yn y dyfodol i drafod y materion a
godwyd gan y deisebwyr. |