Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Graeme Francis 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 15/10/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Dogfennau ategol:

2.

Deisebau newydd

2.1

P-05-895 Etifeddiaeth Rosa - Dylid cyflwyno cynllun i helpu pobl i gael hawl i ofal milfeddygol ar gyfer eu hanifeiliaid anwes

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu i ofyn am ragor o dystiolaeth gan Grŵp Lles Anifeiliaid Anwes Cymru a Chymdeithas Filfeddygol Prydain ynghylch y mater dan sylw yn y ddeiseb.

 

2.2

P-05-900 Ymchwilio i’r ffordd y mae rhieni’n cael eu trin gan y gwasanaethau cyhoeddus

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ychwanegol a chytunodd i ysgrifennu at y deisebydd i ddweud bod yr aelodau’n gofidio am ei phrofiadau gyda’r gwasanaethau cyhoeddus, a:

·         gofyn a yw wedi gofyn i'r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus ymchwilio i'w phryderon ynghylch diffygion yn y gweithdrefnau cwyno;

·         dweud wrthi nad oes rhyw lawer y gall ei wneud i fwrw ymlaen â deisebau sy'n ymwneud ag achosion ac amgylchiadau unigol a bod y Pwyllgor, felly, wedi cytuno i gau'r ddeiseb; ac

·         awgrymu y dylai’r deisebydd, os yw am weld newidiadau penodol i drefn gwyno’r sector cyhoeddus, ystyried trafod y rhain â’i chynrychiolwyr lleol neu gyflwyno deiseb arall.

 

3.

Diweddariadau i ddeisebau blaenorol

3.1

P-05-738 Deiseb gyhoeddus ar gyfer Ffordd Osgoi i Ddinas Powys

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafodoodd y Pwyllgor ohebiaeth ychwanegol a chytunodd i gau’r ddeiseb yn awr gan mai cyfrifoldeb yr awdurdod lleol yw penderfynu a ddylid bwrw ymlaen â chynigion yn ymwneud â ffyrdd osogi ai peidio,

 

3.2

P-05-851 Dileu’r cyfyngiadau amser ar y gilfan i’r dwyrain o Grucywel

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ychwanegol a chytunodd i gau’r ddeiseb o ystyried y wybodaeth a oedd wedi dod i law a phryderon am ddiogelwch yn ymwneud â defnyddio’r gilfan i barcio ynddi.

 

3.3

P-05-885 Cludiant Cyhoeddus Hygyrch a Chynhwysol i Ddinasyddion ag Anableddau Dysgu yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ychwanegol a chytunodd  nad oes fawr ddim y gallai'r Pwyllgor ei gyflawni mwyach yn y cyswllt hwn ar hyn o bryd, a hynny o ystyried y wybodaeth a gafwyd gan y Gweinidog a bwriad Llywodraeth Cymru i ddiwygio trefniadau rheoleiddio gwasanaethau bysiau drwy'r Bil Trafnidiaeth Gyhoeddus arfaethedig. Caeodd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i awgrymu bod y deisebwyr yn ymgysylltu â’r broses o graffu ar y Bil ac yn lobïo Aelodau'r Cynulliad i osod unrhyw welliannau perthnasol bryd hynny.

 

3.4

P-05-743 Rhowch Derfyn ar Fasnachu Anifeiliaid Anwes Egsotig yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ychwanegol a chytunodd i:

·         aros am y wybodaeth ddiweddaraf gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig am yr amserlenni ar gyfer datblygu Cod Ymarfer ar gyfer Primatiaid cyn ystyried cymryd unrhyw gamau eraill; a

·         gofyn am bapur briffio cyfreithiol ynghylch y pŵer deddfwriaethol sydd gan Gymru yn y maes hwn.

 

3.5

P-05-862 Mynd i'r afael â bwlio mewn ysgolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ychwanegol ac, o ystyried cryfder y dystiolaeth a oedd wedi dod i law mewn perthynas â gwella’r modd roedd ysgolion yn ymateb i achosion o fwlio, cytunodd i ofyn i’r Gweinidog Addysg ymddangos gerbron sesiwn dystiolaeth ar y mater hwn mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

3.6

P-05-757 Cael gwared ar y rhwymedigaeth ar ysgolion i gynnal gweithredoedd addoli crefyddol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ychwanegol a chytunodd i ysgrifennu’n ôl at y Gweinidog Addysg i ofyn am ragor o fanylion am yr union waith y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud hyd yma yn y cyswllt hwn. Cytunodd hefyd i godi’r mater hwn yn ystod unrhyw sesiwn dystiolaeth a gaiff ei chynnal gyda’r Gweinidog Addysg yn y dyfodol.

 

3.7

P-05-765 Cadw canllawiau presennol ar gyfer Gwasanaethau Crefyddol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ychwanegol a chytunodd i ysgrifennu’n ôl at y Gweinidog Addysg i ofyn am ragor o fanylion am yr union waith y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud hyd yma yn y cyswllt hwn. Cytunodd hefyd i godi’r mater hwn yn ystod unrhyw sesiwn dystiolaeth a gaiff ei chynnal gyda’r Gweinidog Addysg yn y dyfodol.

 

3.8

P-05-865 Dylid gwarantu bod dewisiadau sy’n seiliedig yn llwyr ar blanhigion ar bob bwydlen y sector cyhoeddus, i ddiogelu hawliau figaniaid ac er budd ein hiechyd, yr amgylchedd ac anifeiliaid

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ychwanegol a chytunodd i:

·         ysgrifennu’n ôl at y Gweinidog Cyllid i ofyn sut mae cytundebau fframwaith bwyd a diod presennol y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn galluogi ac yn annog y sector cyhoeddus i gynnwys dewisiadau ar eu bwydlenni dyddiol, sy’n addas i figaniaid, ac

·         ysgrifennu at y Gweinidog Addysg i ofyn a oes gan y Llywodraeth unrhyw gynlluniau i adolygu canllawiau statudol ar gyfer bwyta'n iach mewn ysgolion a gynhelir, o ran y gofynion i gynnwys dewisiadau ar eu bwydlenni sy’n addas i'r rhai sy'n dilyn diet figan.

 

3.9

P-05-873 Gwersi Cymraeg am ddim i bobl Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ychwanegol a chytunodd i aros i’r deisebydd roi sylwadau ar ymateb Gweinidog y Gymraeg cyn ystyried a yw am fwrw ymlaen â’r ddeiseb.

 

3.10

P-05-863 Darparu cynhyrchion hylendid am ddim i bob menyw mewn cartrefi incwm isel

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ychwanegol a chytunodd i:

·         ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip i ofyn am fwy o fanylion am y modd y mae'r cyllid o £1 miliwn a ddyrannwyd hyd at 2020 yn cael ei wario a sut y mae'n helpi i leihau tlodi mislif; ac

·         ysgrifennu at Lywodraeth yr Alban i ofyn am wybodaeth am y modd y mae’n gweithredu ei hymrwymiadau i ddarparu cynhyrchion hylendid am ddim mewn lleoliadau addysg, ac i ddarparu cymorth penodol i ferched o gartrefi incwm isel, ynghyd ag unrhyw wybodaeth y gallant ei darparu am effaith y mesurau hyn.

 

3.11

P-05-871 Trefnu bod cyfleusterau newid cewynnau ar gael mewn toiledau i ddynion a thoiledau i fenywod

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ychwanegol a chytunodd i ysgrifennu’n ôl at y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip i ofyn sut mae'r llywodraeth yn bwriadu sicrhau bod awdurdodau lleol yn cydymffurfio â'r canllawiau statudol ar ddarparu cyfleusterau newid babanod os nad yw'n bwriadu craffu ar strategaethau toiledau lleol.

 

3.12

P-05-724 Hawliau i Ofal Iechyd Sylfaenol yn Gymraeg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf a’r ohebiaeth ychwanegol a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn a all sicrhau na fydd darpariaethau Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Y Gymraeg mewn Gwasanaethau Gofal Sylfaenol) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019 yn cael eu gwanhau yn dilyn yr adolygiad arfaethedig yn 2019/20, ac a all sicrhau mai un o ddibenion yr adolygiad fydd nodi meysydd lle gellir cryfhau'r Rheoliadau.

 

3.13

P-05-732 Amseroedd Aros Annerbyniol ar gyfer Cleifion y GIG yn Adran Damweiniau ac Achosion Brys Wrecsam/Ysbyty Wrecsam Maelor.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb a chytunodd i'w chau’n awr o ystyried y  mesurau sy'n cael eu rhoi ar waith yn Ysbyty Wrecsam Maelor a'r ffaith bod y Bwrdd Iechyd yn darparu adroddiadau’n rheolaidd ar ei berfformiad i'r Cyngor Iechyd Cymunedol.

 

3.14

P-05-751 Cydnabod achosion o Ddieithrio Plentyn oddi wrth Riant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ganllawiau ar arfer newydd a gyhoeddwyd gan Cafcass Cymru a chytunwyd i ysgrifennu’n ôl atynt i ofyn sut y maent yn bwriadu monitro dylanwad ac effaith y canllawiau a gofyn a fyddant yn darparu hyfforddiant i helpu ymarferwyr.

 

3.15

Gadewch i ni Sicrhau y Caiff Calon Pob Person Ifanc (10-35 oed) ei Sgrinio

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ychwanegol a chytunodd i aros am ganlyniad adolygiad Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU o’i argymhelliad yn ymwneud â datblygu rhaglen sgrinio ar gyfer syndrom Marwolaeth Sydyn y Galon (SCD). Disgwylir canlyniad yr adolygiad ym mis Rhagfyr 2019.

 

3.16

P-05-892 Penodi Comisiynydd Anabledd Dysgu i Gymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ychwanegol a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn nifer o gwestiynau gan y deisebwyr  am fonitro dyletswyddau o dan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant.