Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Graeme Francis
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 27/11/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datganiadau o fuddiant Dogfennau ategol: Cofnodion: Croesawodd
y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni
chafwyd ymddiheuriadau. |
||
Deisebau newydd |
||
P-05-847 Creu ffynhonnau dŵr yng nghanol dinasoedd a threfi er mwyn rhoi diwedd ar wastraff plastig Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros i glywed barn y
deisebydd ar yr ymateb a gafwyd gan Weinidog yr Amgylchedd cyn penderfynu a
ddylid cymryd camau pellach ynghylch y ddeiseb. |
||
P-05-850 Amddiffyn Gwastatir Gwent ac atal traffordd arfaethedig yr M4 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn: ·
grwpio'r
ddeiseb hon gyda deiseb P-05-838 Cefnogwch y Llwybr Du o ran Ffordd
Liniaru’r M4 a thrafod
y ddwy ddeiseb gyda'i gilydd yn y dyfodol; ·
rhannu'r
sylwadau ychwanegol gan y deisebydd ag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a
Thrafnidiaeth;
|
||
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
||
P-05-736 Gwneud gwasanaethau iechyd meddwl yn fwy hygyrch Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd, a chytunodd i lunio
adroddiad sy'n canolbwyntio ar fynediad at wasanaethau iechyd meddwl mewn
argyfwng, ac i ddefnyddio'r adroddiad hwn fel sail ar gyfer dadl yn y Cyfarfod
Llawn yn y dyfodol. |
||
P-05-751 Cydnabod achosion o Ddieithrio Plentyn oddi wrth Riant Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd Neil McEvoy y buddiant perthnasol a
ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A: Bu'n ddefnyddiwr gwasanaethau Both Parents
Matter ac yn wirfoddolwr dros y mudiad; ac mae'r deisebydd yn gweithio iddo dros dro ar
hyn o bryd. Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan CAFCASS
Cymru a chytunodd i: ·
ofyn barn
y deisebydd ar y wybodaeth a gafwyd gan CAFCASS Cymru; ·
ysgrifennu
yn ôl at CAFCASS Cymru i ofyn bod copi o'r canllawiau ymarfer yn cael ei roi
i'r Pwyllgor pan fyddant ar eu ffurf derfynol, ac i amlinellu'r cyfleoedd
hyfforddi a datblygu a ddarparwyd i ymarferwyr CAFCASS Cymru sy'n ymdrin ag
ymddygiadau dieithrio; ac ·
ystyried
gofyn am ragor o wybodaeth gan sefydliadau eraill yn y maes hwn. |
||
P-05-797 Sicrhau mynediad i'r feddyginiaeth ffibrosis systig, Orkambi, fel mater o frys Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghyd â
sylwadau ychwanegol gan y deisebydd a chytunodd i:
·
aros am y
camau gweithredu gan y Pwyllgor Dethol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn
San Steffan ynghylch ymchwiliad posibl i argaeledd Orkambi. |
||
P-05-831 Rhowch ddiwedd ar yr annhegwch a'r gwahaniaethu yn y cymorth ariannol a roddir i ddioddefwyr sgandal gwaed wedi'i heintio yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at Ysgrifennydd y Cabinet i
ailadrodd y cais am yr amserlen debygol ar gyfer penderfynu ar fuddion Cynllun
Cymorth Gwaed Heintiedig Cymru a'u cyfathrebu, a gofyn iddo roi dadansoddiad
i'r Pwyllgor o'r cymorth ariannol i fuddiolwyr unwaith y bydd buddion y cynllun
wedi'u pennu. |
||
P-05-826 Mae sir Benfro yn dweud NA!! i gau adran damweiniau ac achosion brys Llwynhelyg! Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor ohebiaeth gan Fwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda a chytunodd i ysgrifennu
yn ôl at y bwrdd iechyd i: ·
ofyn am y
wybodaeth ddiweddaraf am ei gynlluniau ar gyfer newid gwasanaethau yn Ysbyty
Llwynhelyg, gan gynnwys amserlenni a gwaith i ymgysylltu â chymunedau lleol yn
y dyfodol; a ·
gofyn am
sicrwydd y bydd y bwrdd iechyd yn sicrhau bod gwasanaethau'n parhau yn ystod y
gwaith o ddatblygu ysbyty newydd ac ni fydd gwasanaethau'n cael eu tynnu oddi
ar Ysbyty Llwynhelyg cyn bod ysbyty newydd yn agor. |
||
P-05-773 Peidiwch â Llenwi Safleoedd Tirlenwi! Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor hanes y ddeiseb a chytunodd i'w chau, o ystyried yr amser sydd wedi
mynd heibio ers y cysylltiad diwethaf â'r deisebydd a'r cynnig blaenorol a
wnaed gan Gyngor Caerdydd i ddwyn y mater hwn yn ei flaen yn lleol. |
||
P-05-779 Sganio gorfodol gan gynghorau am ficrosglodion mewn anifeiliaid anwes Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor ohebiaeth gan Gyngor Sir Gâr ynghyd â sylwadau pellach gan y
deisebydd a chytunodd i gau'r ddeiseb yng ngoleuni'r ffaith bod y deisebwyr
bellach yn fodlon â'r sefyllfa a'r cynnydd a wnaed wrth annog awdurdodau lleol
yng Nghymru i fabwysiadu polisi sganio am ficrosglodion. |
||
P-05-803 Mae ein byd naturiol yn cael ei wenwyno gan blastigau untro...mae'n bryd cyflwyno treth! Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a chytunodd i: ·
rannu
manylion y ddeiseb â'r Pwyllgor Cyllid;
|
||
P-05-837 Ynni Gwyrdd er Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y deisebwyr a chytunodd i: ·
anfon
sylwadau ychwanegol y deisebwyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio
a Materion Gwledig a gofyn iddi ymateb i'r pwyntiau a godwyd a rhoi gwybod am y
camau posibl y gallai Llywodraeth Cymru eu cymryd; a ·
gofyn i
Ysgrifennydd y Cabinet, yng ngoleuni'r sylwadau hyn a'r adroddiad diweddar gan
y Panel Rhynglywodraethol ar Newid yn yr Hinsawdd, ystyried trefnu dadl yn
ystod amser y Llywodraeth ar ddatblygu ynni gwyrdd a chefnogaeth i'r gwaith
hwn. |
||
P-05-823 Gostwng y terfyn cyflymder ar yr A487 ym Mhenparcau Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a
Thrafnidiaeth ynghyd â sylwadau ychwanegol gan y deisebydd. Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb oherwydd
yr ymrwymiad a wnaed gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth
y byddai'r deisebau sy'n dod i law, a barn trigolion lleol, yn cael eu
hystyried yn ystod y broses o adolygu'r terfyn cyflymder. Wrth wneud hynny, cytunodd y Cadeirydd i
ysgrifennu at y deisebydd i egluro'r rhesymau dros hyn ac i egluro na all y
Pwyllgor Deisebau ei hun wneud y newid y gofynnwyd amdano yn uniongyrchol. |
||
P-05-833 Gwella gwasanaethau rheilffordd i Gas-gwent Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a
Thrafnidiaeth ynghyd â sylwadau ychwanegol gan y deisebydd. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at
Ysgrifennydd y Cabinet i ofyn am esboniad manylach ynghylch argaeledd cerbydau,
gan ofyn a yw Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru yn defnyddio pob dull
posibl i gael gafael ar gerbydau ychwanegol i wella gwasanaethau ledled Cymru. |
||
Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad gan y Pwyllgor |
||
P-05-690 Arwynebu Ffordd A40 Rhaglan–Y Fenni Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru i'w adroddiad a chytunodd i gau'r ddeiseb. |
||
Papur i’w nodi |
||
P-05-796 Galw ar Lywodraeth Cymru i wahardd yr arfer o ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru Papur i’w nodi: Gohebiaeth – Ysgrifennydd y Cabinet dros
Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig at y Cadeirydd Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor y papur. |
||
(09:45) |
Sesiwn dystiolaeth – P-05-801 Rhaid achub y coed a'r tir yng Ngerddi Melin y Rhath a Nant y Rhath cyn iddi fynd yn rhy hwyr John
Hogg - Pennaeth
Gweithrediadau, Canol De Cymru Tim
England- Noddwr Prosiect Gavin
Jones - Rheolwr Prosiect Dogfennau ategol:
Cofnodion: Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan John Hogg, Tim England, Gavin Jones
a Gareth O'Shea o Gyfoeth Naturiol Cymru. Dywedodd
staff Cyfoeth Naturiol Cymru y byddent yn rhoi gwybodaeth i'r Pwyllgor am y
rhagolygon llifogydd sy'n gysylltiedig â Nant y Rhath. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd ar gyfer eitemau 8 a 9 Cofnodion: Derbyniwyd
y cynnig. |
||
Trafod y sesiwn dystiolaeth flaenorol – P-05-801 Rhaid achub y coed a'r tir yng Ngerddi Melin y Rhath a Nant y Rhath cyn iddi fynd yn rhy hwyr Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd a chytunodd i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf
gan y deisebwyr a Chyfoeth Naturiol Cymru yn dilyn y cyfarfod arfaethedig rhwng
y rhanddeiliaid perthnasol. |
||
Deisebau sydd â dros 5,000 o lofnodion Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nodwyd y
papur a thrafododd y Pwyllgor gynnig i gyhoeddi adroddiad blynyddol ar y broses
ddeisebu yn y dyfodol. |