Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Graeme Francis 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 513KB) Gweld fel HTML (204KB)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

Mynegodd Neil McEvoy AC bryderon ynghylch neges ar y cyfryngau cymdeithasol gan Carl Sargeant AC (Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant) yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor ar 9 Mai 2017. Dywedodd y Cadeirydd y gall y Pwyllgor ddychwelyd at y mater hwn pan fydd y ddeiseb dan sylw (P-05-751 Cydnabod Achosion o Ddieithrio Plentyn oddi wrth Riant) yn cael ei thrafod y tro nesaf.

 

2.

Deisebau newydd

2.1

P-05-749 Adfer Gwasanaeth Deintyddol Symudol Corwen

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am ymateb y deisebwyr i'r wybodaeth sydd wedi dod i law cyn penderfynu ar unrhyw gamau pellach i'w cymryd.

 

2.2

P-05-753 Cryfhau'r Fframwaith Deddfwriaethol a Rheoleiddiol Ynghylch Cyfleusterau Prosesu Pren Gwastraff

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i rannu'r sylwadau a wnaed gan y deisebydd ac i ofyn am ymateb pellach iddynt.

 

 

 

2.3

P-05-755 Galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod yr A48 ger Trelales, Broadlands a Merthyr Mawr yn ddiogel i holl ddefnyddwyr y ffyrdd ac i gerddwyr.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:

 

  • ysgrifennu at Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i roi gwybod iddynt am y ddeiseb a'r ymateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith; ac
  • aros i glywed barn y deisebydd cyn penderfynu ar gamau gweithredu priodol.

 

 

2.4

P-05-756 Diogelu Cerddoriaeth Fyw yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:

 

  • gwahodd y deisebydd i roi tystiolaeth ar lafar i'r Pwyllgor mewn cyfarfod yn y dyfodol; ac
  • ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i ofyn am amser ar gyfer dadl ar y ddeiseb hon cyn toriad yr haf.

 

 

3.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

3.1

P-04-408 Gwasanaeth i Atal Anhwylder Bwyta ymysg Plant a Phobl Ifanc

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon i rannu sylwadau a wnaed gan y deisebydd a gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am y ffordd y bydd cyllid ychwanegol ar gyfer gwasanaethau anhwylderau bwyta yn 2017-18 yn cael ei ddefnyddio.

 

3.2

P-04-532 Gwella Gwasanaethau Niwrogyhyrol Arbenigol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros am sylwadau'r deisebydd cyn penderfynu ar unrhyw gamau priodol i'w cymryd.

 

3.3

P-05-718 Cyflogau GIG Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb oherwydd nid yw'n bosibl ei dwyn ymlaen yn absenoldeb cyswllt â'r deisebydd.

 

 

3.4

P-05-736 Gwneud gwasanaethau iechyd meddwl yn fwy hygyrch

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon i dynnu sylw at y pryderon a chynigion ar gyfer gwella a wnaed gan y deisebydd a Hafal, ac i ofyn am ragor o wybodaeth am y cynlluniau i wella ymatebolrwydd gwasanaethau.

 

 

3.5

P-04-485 Camddefnyddio contractau dros dro yn y sector Addysg Bellach

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb oherwydd nid yw'n bosibl ei dwyn ymlaen yn absenoldeb cyswllt â'r deisebydd.

 

3.6

P-04-522 Asbestos mewn Ysgolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb. Oherwydd yr amser sydd wedi mynd heibio ers i'r Pwyllgor Deisebau blaenorol glywed tystiolaeth ar y mater hwn, cytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i ofyn barn bresennol y Llywodraeth ar y materion a godwyd gan y deisebydd.

 

 

3.7

P-04-606 Sicrhau bod ysgolion yn defnyddio eu pwerau statudol o dan reoliad 7 o Reoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010 heb unrhyw ymyrraeth neu ragfarn.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ystyried y ddeiseb ochr yn ochr â'r ddeiseb gysylltiedig, P-04-576 Caniatáu i Blant yng Nghymru Gael Gwyliau Teuluol yn ystod Tymor yr Ysgol, yn y dyfodol.

 

 

3.8

P-04-539 Achub Cyfnewidfa Lo Caerdydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb ar y sail bod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith wedi cadarnhau na fydd Llywodraeth Cymru yn galw am ymchwiliad cyhoeddus i'r broses y tu ôl i'r gwaith o ail-ddatblygu'r Gyfnewidfa Lo.

 

 

3.9

P-05-690 Arwynebu Ffordd A40 Rhaglan–Y Fenni

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith i rannu sylwadau a wnaed gan y deisebwyr a Nick Ramsay AC, a gofyn pam nad yw ymrwymiadau blaenorol i arwynebu'r A40 heb eu gweithredu eto a gofyn am amserlen ar gyfer y gwelliannau hyn.

 

 

3.10

P-05-737 Achubwch ein Bws

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros i glywed barn y deisebydd ar yr ohebiaeth a gafwyd hyd yma, ac i ysgrifennu at Stagecoach i ofyn am wybodaeth am ganlyniadau'r arolwg a gynhaliwyd ar y gwasanaeth yn gynharach yn 2017.

 

 

3.11

P-04-683 Coed mewn Trefi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd ar y camau gweithredu a ganlyn:

·         Ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i ofyn pa gynnydd mewn gorchudd coed mewn ardaloedd trefol sydd wedi'i gyflawni yn ystod y pum mlynedd diwethaf ac a yw rhywogaethau eraill o blanhigion hefyd yn cael eu defnyddio at ddiben tebyg; a

·         gofyn barn y deisebwyr ar yr ymateb a gafwyd.

 

 

3.12

P-04-687 Adolygiad o Bysgota Cregyn Bylchog ym Mae Ceredigion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

  • nodi boddhad eang y deisebydd, gan gytuno i gau'r ddeiseb ac i rannu sylwadau ychwanegol y deisebydd gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig.

 

 

3.13

P-05-733 Dim camau pellach o gwbl mewn perthynas â Pharthau Perygl Nitradau yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig a chytunodd i aros am gyhoeddiad ar y camau gweithredu nesaf gan Lywodraeth Cymru yn dilyn yr ymgynghoriad, fel y cytunwyd yn flaenorol.

 

 

3.14

P-05-711 Sicrhau bod Anghenion Pobl Anabl am Addasiadau i Dai yn cael eu Diwallu’n Ddigonol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y deisebwyr i ofyn eu barn ar y wybodaeth a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru cyn penderfynu a ddylid cymryd camau pellach ynghylch y ddeiseb.

 

 

 

(09:30 - 10:15)

4.

Sesiwn dystiolaeth – P-04-628 Mynediad at Iaith Arwyddion Prydain i Bawb

Cathie Robins-Talbot

 

Helen Robins-Talbot

 

Luke Collins- Hayes

 

Zoe Pallenson

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu Cathie Robins-Talbot, Helen Robins-Talbot, Luke Collins-Hayes a Zoe Pallenson o Deffo! yn ateb cwestiynau gan y Pwyllgor.

 

 

 

5.

Papur i'w nodi – Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y papur a chytunodd i roi gwybod i'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol am unrhyw ddeisebau yn y dyfodol sy'n berthnasol i'w waith ynghylch y Papur Gwyn ar Fil y Diddymu Mawr.

 

 

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

 

7.

Trafod y dystiolaeth: P-05-710 Sicrhau y gall Pobl Anabl Ddefnyddio Trafnidiaeth Gyhoeddus Pryd Bynnag y Bo’i Hangen Arnynt

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y camau nesaf i'w cymryd ynghylch y ddeiseb a chytunodd i lunio adroddiad i'r Cynulliad ar y dystiolaeth a gafwyd.