Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Graeme Francis 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld  trawsgrifiad o drafodion y cyfarfod (PDF 556KB) Gweld fel HTML (144KB)

 

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datganiadau o fuddiant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

 

Roedd Suzy Davies yn bresennol lle Janet Finch-Saunders.

 

2.

Deisebau newydd

2.1

P-05-705 Annog Pwyllgorau Cynllunio i Sicrhau bod Penderfyniadau ar Faterion Cynllunio yn Rhoi sylw Dyledus i’r Effaith ar Grwpiau Ymunedol a Sefydliadau Gwirfoddol neu i’r Posibilrwydd y Bydd y Grwpiau a’r Sefydliadau hyn yn Cau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i ysgrifennu’n ôl at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i ofyn am eglurhad ynglŷn â sut mae'r gofyniad ym Mholisi Cynllunio Cymru (Rhifyn 8 Ionawr 2016) yn gweithio’n ymarferol a’r dylanwad y mae’n ei gael, sef bod rhaid i'r awdurdod cynllunio lleol ystyried sylwedd sylwadau lleol, gan gynnwys unrhyw sylwadau a wnaed gan grwpiau cymunedol lleol.

2.2

P-05-715 A Gwahardd Cynhyrchu, Gwerthu a Defnyddio Maglau yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i anfon yr ohebiaeth a gafwyd hyd yn hyn at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig a gofyn am gael ein hysbysu am ganlyniadau'r trafodaethau sy’n cael eu hwyluso gan Lywodraeth Cymru cyn penderfynu a ddylid gweithredu ymhellach yn ddiweddarach.

 

2.3

P-05- 696 Y Trên Rhithiol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i ysgrifennu at y deisebwyr yn eu llongyfarch ar ganlyniad llwyddiannus eu hymgyrch ac i gau’r ddeiseb.

2.4

P-05-692 Adeiladu Cofeb Mamieithoedd Rhyngwladol ym Mae Caerdydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i aros am farn y deisebydd cyn penderfynu ar y ffordd orau i weithredu ar y ddeiseb.

 

3.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

3.1

P-04-399 Arferion lladd anifeiliaid

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Gweler y cam gweithredu y cytunwyd arno o dan eitem 3.2 ar yr agenda.

3.2

P-04-433 Teledu Cylch Cyfyng mewn Lladd-dai

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon ynghyd â P-04-399 Arferion Lladd Anifeiliaid, a chytunwyd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i ofyn am gael ein hysbysu am ganfyddiadau adroddiad y grŵp diwydiant cyn ystyried y camau gweithredu nesaf gyda’r ddwy ddeiseb.

 

3.3

P-04-648 Ceisiadau Cynllunio Nwy ac Olew Anghonfensiynol.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig y Pwyllgor a chytunwyd i aros am farn y deisebydd cyn penderfynu ar y ffordd orau i weithredu ar y ddeiseb.

 

3.4

P-04-594 Apêl Cyngor Cymuned Cilmeri ynghylch y Gofeb i’r Tywysog Llywelyn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i anfon sylwadau'r deisebwyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith a gofyn iddo roi’r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor pan fydd penderfyniad wedi’i wneud ar y cynigion ar gyfer yr arwyddion newydd.

 

3.5

P-04-663 Bwyd yn Ysbytai Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru a chytunwyd i ofyn i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ystyried y ddeiseb fel rhan o'i ymchwiliad arfaethedig i arlwyo mewn ysbytai a maeth cleifion ac adrodd yn ôl i’r Pwyllgor ar ei ganfyddiadau ac unrhyw argymhellion maes o law.

 

4.

P-04-668 Cefnogi Sgrinio Blynyddol ar gyfer Canser yr Ofari (CA125)

Rebecca Evans – Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol

 

Irfon Rees, Dirprwy Gyfarwyddwr, Iechyd y Cyhoedd

 

Dr Rosemary Fox, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Atebodd y Gweinidog gwestiynau gan y Pwyllgor.

 

Cytunodd y Gweinidog i ysgrifennu at y Pwyllgor gyda:

  • rhagor o wybodaeth am ganran y canlyniadau cadarnhaol ffug a ddychwelwyd gan y prawf gwaed CA125;
  • cost yr ymgyrch codi ymwybyddiaeth o ganser yr ofari a drefnwyd gan Felindre ym mis Mawrth 2016: a
  • rhagor o wybodaeth am y gost o weinyddu prawf CA125 unigol.

 

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:

Eitem 6.

6.

Trafod tystiolaeth lafar o dan eitem 4 ar yr agenda.

P-04-668 Cefnogi Sgrinio Blynyddol ar gyfer Canser yr Ofari (CA125)

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth yr oedd wedi’i chlywed gan y Gweinidog a chan y deisebydd yn y cyfarfod blaenorol, a chytunwyd i ysgrifennu at nifer o elusennau canser i ofyn am eu barn ar y materion a godwyd gan y ddeiseb cyn ystyried y camau nesaf.

 

Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn am ragor o fanylion am yr amserlen ar gyfer cwblhau adolygiad y meddygon teulu o’r achosion o ganser yr ofari y bu diagnosis ohonynt yn ystod 2015.