P-05-715 Gwahardd cynhyrchu, gwerthu a defnyddio maglau yng Nghymru

P-05-715 Gwahardd cynhyrchu, gwerthu a defnyddio maglau yng Nghymru

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan League Against Cruel Sports ar ôl casglu 1,405 llofnod.

 

Geiriad y ddeiseb

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i wahardd cynhyrchu, gwerthu a defnyddio maglau yng Nghymru.

Gwybodaeth ychwanegol

Maglau yw dolenni o wifrau tenau sydd wedi’u dylunio i ddal ‘ysglyfaethwyr’. Er yr honnir iddynt gael eu defnyddio fel dyfeisiau ffrwyno, mae eu dyluniad yn golygu eu bod yn achosi anafiadau difrifol i’r anifeiliaid y maent yn eu dal. Mae’r anafiadau hyn yn cynnwys colli aelodau o’r corff, tagu ac, yn aml, marwolaeth.

 

Yn ôl DEFRA, nid yw hyd at ddwy ran o dair o’r anifeiliaid sy’n cael eu dal yn y maglau hyn hyd yn oed ymhlith y rhywogaethau sy’n cael eu targedu. Gan amlaf, caiff maglau eu gosod i ddal llwynogod. Fodd bynnag, mewn gwirionedd, maent yn dal moch daear, ceirw ac anifeiliaid anwes.

Yng Nghymru, caiff tua 370,000 o anifeiliaid eu dal mewn maglau bob blwyddyn. Mae hynny’n fwy na 1,000 y dydd.

 

Yn 2015, cyflwynodd Llywodraeth Cymru God Ymarfer Gorau ar ddefnyddio maglau. Fodd bynnag, mae cydymffurfio â’r Cod yn wirfoddol, ac nid oes unrhyw gamau gwirio ar waith na chosbau i’r rhai nad ydynt yn cydymffurfio ag ef. Mae hyd yn oed magl sy’n cydymffurfio â’r Cod yn ddyfais fras sydd ddim yn gwahaniaethu rhwng rhywogaethau ac sy’n fwy tebygol o achosi anaf neu farwolaeth i anifail nag ei ffrwyno.

 

Mae gan y Cynulliad y pŵer i roi terfyn ar yr ymarfer hwn, ac arwain y ffordd o ran lles anifeiliaid yn y DU, drwy wahardd cynhyrchu, gwerthu a defnyddio maglau yng Nghymru.

 

Trosglwyddo deiseb yn y Senedd

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 07/11/2017 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i gau'r ddeiseb gan fod y mater wedi bod yn destun sylw manwl yn ddiweddar gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, a bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhellion y pwyllgor hwnnw.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 27/09/2016.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

  • Gwyr
  • Gorllewin De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 14/09/2016

Dogfennau