Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: 198(v4) 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 20/03/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(45 munud)

1.

Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf. Tynnwyd cwestiwn 7 yn ôl. Atebwyd cwestiynau 5, 9 â 10 gan y Dirprwy Weinidog. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

(45 munud)

2.

Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit)

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.21

Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

(20 munud)

3.

Cwestiynau Amserol

Gofyn i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith cwymp y cwmni adeiladu Dawnus, sydd wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr?

Gofyn i Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf am Fargen Ddinesig Bae Abertawe, yn dilyn cyhoeddi adolygiad annibynnol Bargen Ddinesig Bae Abertawe?

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.10

Gofyn i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith cwymp y cwmni adeiladu Dawnus, sydd wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr?

Gofyn i Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf am Fargen Ddinesig Bae Abertawe, yn dilyn cyhoeddi adolygiad annibynnol Bargen Ddinesig Bae Abertawe?

(5 munud)

4.

Datganiadau 90 Eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.44

Gwnaeth Vikki Howells ddatganiad am -  Nodi 35 mlynedd ers dechrau Streic y Glowyr 1984-85.

Cynnig i ethol Aelod i bwyllgor (5 munud)

Dechreuodd yr eitem a 15:46

NDM7017 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 17.3 a 17.13(ii), yn ethol Janet Finch-Saunders (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o’r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog yn lle David Rowlands (Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig).

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(15 munud)

5.

Dadl: Cyfnod 4 y Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru)

NDM7003 – Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:

Yn cymeradwyo’r Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru).

'Bil Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru)'

Dogfen Ategol
Datganiad y Llywydd

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.46

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7003 – Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:

Yn cymeradwyo’r Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru).

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

46

3

1

50

Derbyniwyd y cynnig.

(60 munud)

6.

Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Diweddariad ar y Cynllun Gweithredu Ffonau Symudol

NDM6998 Russell George (Sir Drefaldwyn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar ei Ymchwiliad: Diweddariad ar y Cynllun Gweithredu Ffonau Symudol, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Ionawr 2019.

Nodyn: Gosodwyd yr ymateb gan Lywodraeth Cymru ar 13 Mawrth 2019.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.01

NDM6998 Russell George (Sir Drefaldwyn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar ei Ymchwiliad: Diweddariad ar y Cynllun Gweithredu Ffonau Symudol, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Ionawr 2019.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

7.

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Gradd ar Wahân? Effaith Brexit ar Addysg Uwch ac Addysg Bellach

NDM6996 Lynne Neagle (Torfaen)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg – Gradd ar Wahân? Effaith Brexit ar Addysg Uwch ac Addysg Bellach, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Rhagfyr 2018.

Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru ar 1 Chwefror 2019.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.39

NDM6996 Lynne Neagle (Torfaen)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg – Gradd ar Wahân? Effaith Brexit ar Addysg Uwch ac Addysg Bellach, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Rhagfyr 2018.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(30 munud)

8.

Dadl Plaid Cymru - Y Cwrdiaid yn Nhwrci

NDM6999 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi, er bod materion tramor yn fater a gedwir i Lywodraeth a Senedd y DU ar hyn o bryd, mae adran 62 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn darparu: "“The Welsh Ministers, the First Minister and the Counsel General may make appropriate representations about any matter affecting Wales”.

2. Yn cydnabod y gymuned Cwrdaidd sylweddol yng Nghymru.

3. Yn nodi bod preswylydd o Gymru - İmam Sis, dyn Cwraidd ifanc - ar streic newyn amhenodol, ddigyfaddawd o 17 Rhagfyr 2018, a ddechreuwyd i brotestio yn erbyn ynysu'r arweinydd Cwrdaidd Abdullah Öcalan sydd wedi'i garcharu gan Dwrci ers 1999 o dan amodau sydd, yn ôl pob deall, yn mynd yn groes i rwymedigaethau cyfreithiol gwladwriaeth Twrci mewn perthynas â hawliau dynol.

4. Yn nodi bod streiciau newyn yn digwydd ledled Ewrop a'r byd, gan gynnwys gan Leyla Güven, aelod etholedig o Senedd Twrci.

5. Yn nodi bod Twrci yn un o lofnodwyr sawl cytuniad hawliau dynol rhyngwladol, gan gynnwys y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel aelod o Gyngor Ewrop.

6. Yn mynegi ei bryder ynghylch y rhesymau dros y streiciau newyn.

7. Yn cydnabod mai nod y streiciau newyn yn y pen draw yw gweld ateb heddychlon, gwleidyddol i'r cwestiwn Cwrdaidd yn Nhwrci.

8. Yn cadarnhau pwysigrwydd cynnal rhwymedigaethau hawliau dynol yn Nhwrci.

9. Yn galw ar Lywodraeth Cymru, ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru, i ysgrifennu at y Pwyllgor i Atal Artaith a Thriniaeth Annynol neu Ddiraddiol neu Gosb yn galw ar y Pwyllgor i ymweld â Charchar Imrali i asesu amodau Abdullah Öcalan.

Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Saesneg yn unig)

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ym mhwynt 3, dileu 'ynysu'r arweinydd Cwrdaidd' a rhoi yn ei le 'ynysu arweinydd Cwrdaidd y PKK (Plaid Gweithwyr Cwrdistan)'.

Gwelliant 2 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwyntiau newydd ar ôl pwynt 3 ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn nodi bod y PKK yn sefydliad terfysgol a waharddwyd yn y DU, yr Undeb Ewropeaidd, ac Unol Daleithiau America.

Yn condemnio pob gweithred derfysgol a gyflawnir gan y PKK ac yn cydnabod y dioddefwyr a'r sifiliaid a laddwyd ac a gafodd eu dal yn eu hymosodiadau.

Yn cydnabod hawl Twrci i amddiffyn ei hun rhag ymosodiadau terfysgol gan y PKK. 

Gwelliant 3 -  Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Dileu pwynt 7 a rhoi yn ei le:

Yn cydnabod mai nod o streicwyr newyn yw galluogi Abdullah Öcalan i gael gafael ar gynrychiolaeth gyfreithiol a chysylltu â'i deulu.

Gwelliant 4 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 8 ac ailrifo'n unol â hynny:

Yn nodi fod Ysgrifennydd Tramor Llywodraeth y DU a Llysgennad EM â Thwrci wedi pwysleisio wrth Lywodraeth Twrci yr angen i barchu hawliau dynol, osgoi anafu sifiliaid a dychwelyd at y broses heddwch.

Gwelliant 5 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yy galw ar y PKK i roi'r gorau i derfysgaeth fel modd o hybu ei amcanion a dychwelyd at y broses heddwch.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.20

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM6999 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi, er bod materion tramor yn fater a gedwir i Lywodraeth a Senedd y DU ar hyn o bryd, mae adran 62 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn darparu: "“The Welsh Ministers, the First Minister and the Counsel General may make appropriate representations about any matter affecting Wales”.

2. Yn cydnabod y gymuned Cwrdaidd sylweddol yng Nghymru.

3. Yn nodi bod preswylydd o Gymru - İmam Sis, dyn Cwraidd ifanc - ar streic newyn amhenodol, ddigyfaddawd o 17 Rhagfyr 2018, a ddechreuwyd i brotestio yn erbyn ynysu'r arweinydd Cwrdaidd Abdullah Öcalan sydd wedi'i garcharu gan Dwrci ers 1999 o dan amodau sydd, yn ôl pob deall, yn mynd yn groes i rwymedigaethau cyfreithiol gwladwriaeth Twrci mewn perthynas â hawliau dynol.

4. Yn nodi bod streiciau newyn yn digwydd ledled Ewrop a'r byd, gan gynnwys gan Leyla Güven, aelod etholedig o Senedd Twrci.

5. Yn nodi bod Twrci yn un o lofnodwyr sawl cytuniad hawliau dynol rhyngwladol, gan gynnwys y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel aelod o Gyngor Ewrop.

6. Yn mynegi ei bryder ynghylch y rhesymau dros y streiciau newyn.

7. Yn cydnabod mai nod y streiciau newyn yn y pen draw yw gweld ateb heddychlon, gwleidyddol i'r cwestiwn Cwrdaidd yn Nhwrci.

8. Yn cadarnhau pwysigrwydd cynnal rhwymedigaethau hawliau dynol yn Nhwrci.

9. Yn galw ar Lywodraeth Cymru, ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru, i ysgrifennu at y Pwyllgor i Atal Artaith a Thriniaeth Annynol neu Ddiraddiol neu Gosb yn galw ar y Pwyllgor i ymweld â Charchar Imrali i asesu amodau Abdullah Öcalan.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

14

11

50

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

(30 munud)

9.

Dadl Plaid Cymru - Yr ymgyrch menywod yn erbyn anghydraddoldeb pensiwn y wladwriaeth

NDM7000 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod ymgyrch barhaus menywod yn erbyn anghydraddoldeb pensiwn y wladwriaeth;

2. Yn galw ar Lywodraeth y DU i wneud trefniadau pensiwn gwladol trosiannol teg i bob menyw a anwyd ar neu ar ôl 6 Ebrill 1951, sydd wedi gorfod ysgwyddo baich y cynnydd yn annheg, o ran oedran pensiwn y wladwriaeth (SPA) gyda diffyg hysbysiad priodol.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU i gefnogi'r ymgyrch WASPI.

4. Yn galw ar y Cwnsler Cyffredinol i ystyried pa gamau y gallai Llywodraeth Cymru eu cymryd mewn perthynas â'r ymgyfreitha disgwyliedig yn erbyn yr Adran Gwaith a Phensiynau am y camdrafod honedig o godi oedran pensiwn y wladwriaeth i fenywod a aned yn y 1950au.

Cefnogwr
David Rowlands (Dwyrain De Cymru)

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Dileu pwyntiau 2 a 4 ac ailrifo'n unol â hynny.

Gwelliant 2 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi bod Llywodraethau olynol y DU wedi cyfathrebu gyda menywod yr effeithiwyd arnynt ers y newidiadau i oedran pensiwn menywod ers Deddf Pensiynau 1995 a Deddf Pensiynau 2007 a bod ymgynghoriad cyhoeddus a dadleuon helaeth wedi cael eu cynnal yn y Senedd o ran cynnydd ychwanegol i oedran pensiwn y wladwriaeth yn 2011.

'Deddf Pesiynau 1995' (Saesneg yn unig)

'Deddf Pensiynau 2007' (Saesneg yn unig)

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.56

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM7000 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod ymgyrch barhaus menywod yn erbyn anghydraddoldeb pensiwn y wladwriaeth;

2. Yn galw ar Lywodraeth y DU i wneud trefniadau pensiwn gwladol trosiannol teg i bob menyw a anwyd ar neu ar ôl 6 Ebrill 1951, sydd wedi gorfod ysgwyddo baich y cynnydd yn annheg, o ran oedran pensiwn y wladwriaeth (SPA) gyda diffyg hysbysiad priodol.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU i gefnogi'r ymgyrch WASPI.

4. Yn galw ar y Cwnsler Cyffredinol i ystyried pa gamau y gallai Llywodraeth Cymru eu cymryd mewn perthynas â'r ymgyfreitha disgwyliedig yn erbyn yr Adran Gwaith a Phensiynau am y camdrafod honedig o godi oedran pensiwn y wladwriaeth i fenywod a aned yn y 1950au.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

41

0

8

49

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

10.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.36

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol:

(30 munud)

11.

Dadl Fer

NDM6997 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Brwydro dros Wasanaethau'r Dyfodol - yr achos dros warchod gwasanaethau yn ysbyty Llwynhelyg.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.38