Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 94(v3)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 11/10/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cofnod y Trafodion Gweld Cofnod
y Trafodion |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith Bydd
y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i
Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd cwestiynau 1–4 a 6–9. Tynnwyd cwestiwn 5 yn ôl.
Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y
Cabinet ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.20 Gofynnwyd
y 6 chwestiwn. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(0 muned) |
Cwestiynau Amserol Ni ddewiswyd unrhyw gwestiynau amserol. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.48 Ni ddewiswyd unrhyw gwestiynau amserol. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.48 Gwnaeth Mark Isherwood ddatganiad ar Wythnos Gofal
Hosbis. Gwnaeth Rhun ap Iorwerth ddatganiad ar Apêl y Pwyllgor
Argyfwng Trychineb ar gyfer pobl sy’n ffoi o Myanmar. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Tawelu'r traffig: effaith tagfeydd ar wasanaethau bysiau NDM6524
Russell
George (Sir Drefaldwyn) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a
Sgiliau ar ei ymchwiliad i effaith tagfeydd ar wasanaethau bysiau a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Gorffennaf 2017. Nodyn: Gosodwyd
yr ymateb gan Lywodraeth Cymru ar 4 Hydref 2017. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.51 NDM6524
Russell George (Sir Drefaldwyn) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn
nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar ei ymchwiliad i
effaith tagfeydd ar wasanaethau bysiau a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Gorffennaf 2017. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar y goblygiadau i borthladdoedd Cymru o adael yr Undeb Ewropeaidd NDM6525 David
Rees (Aberafan) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn
nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar ei
ymchwiliad i oblygiadau gadael yr Undeb Ewropeaidd i borthladdoedd Cymru a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Awst 2017. Nodyn:
Gosodwyd
yr ymateb gan Lywodraeth Cymru ar 4 Hydref 2017. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.41 NDM6525
David Rees (Aberafan) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn
nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar ei
ymchwiliad i oblygiadau gadael yr Undeb Ewropeaidd i borthladdoedd Cymru a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Awst 2017. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig NDM6526
Caroline
Jones (Gorllewin De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn credu: a) mai busnesau bach yw calon economaidd a chymdeithasol y
stryd fawr yng Nghymru ond bod y gyfundrefn ardrethi busnes bresennol yn rhoi
manwerthwyr mewn dinasoedd a threfi bach o dan anfantais sylweddol; b) bod ardrethi busnes o'u hanfod yn annheg oherwydd mai
ychydig, os unrhyw, berthynas sydd rhyngddynt â phroffidioldeb busnes a'u bod
yn cael effaith iasol ar ganol trefi drwy ychwanegu costau sylweddol i'r broses
o sefydlu busnesau newydd; c) y byddai lleihau effaith ardrethi busnes yn helpu
busnesau i oroesi'r heriau a achosir gan siopa ar y rhyngrwyd ac yn rhoi hwb
sylweddol i'r stryd fawr. 2. Yn penderfynu: a) fel mesur dros dro, hyd nes y caiff ardrethi busnes eu
disodli gan dreth sy'n gysylltiedig â'r gallu i dalu, y dylai safleoedd busnes
sydd â gwerth ardrethol o lai na £15,000 gael eu heithrio ac y dylai cyfraddau
eiddo busnes sydd o fewn y band o £15,000 i £50,000 gael eu gostwng 20 y cant; b) y dylai awdurdodau lleol Cymru annog masnach leol drwy
gynnig parcio am ddim am o leiaf 60 munud mewn meysydd parcio canol tref; c) y dylai datblygiadau siopa ar gyrion y dref ysgwyddo
cyfran fwy ond rhesymol o'r baich ardrethi busnes ac y dylai cyfraddau o'r fath
fod yn berthnasol i'w meysydd parcio, i helpu i adfywio canol trefi. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1. Jane
Hutt (Bro Morgannwg): Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod pwysigrwydd microfusnesau a busnesau bach
a chanolig i lwyddiant cymunedau ac economi ehangach Cymru. 2. Yn nodi pwysigrwydd allweddol polisïau
traws-lywodraethol sy'n cefnogi busnesau ar strydoedd mawr Cymru i ffynnu a
thyfu. 3. Yn cydnabod ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gefnogi
manwerthwyr y stryd fawr a busnesau eraill drwy ddarparu dros £200m o gyllid yn
2017-18 i gefnogi tua thri chwarter talwyr ardrethi yng Nghymru drwy ryddhad
ardrethi. 4. Yn cydnabod nad yw dros hanner holl fusnesau Cymru'n
talu unrhyw ardrethi o gwbl yn ystod 2017-18. 5. Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i sefydlu cynllun
parhaol Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach sy'n fwy syml, yn fwy teg ac sy'n fwy
penodol ar gyfer busnesau sy'n tyfu yng Nghymru o fis Ebrill 2018. [Os
derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol] Gwelliant
2. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro): Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le: Yn croesawu'r penderfyniad i ddatganoli ardrethi busnes i
Lywodraeth Cymru yn llawn a'r potensial y mae hyn yn ei ddatgloi. [Os
derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-dethol] Gwelliant
3. Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn): Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) dileu ardrethi busnes ar gyfer pob busnes sydd â
gwerth ardrethol o hyd at £10,000 y flwyddyn, a rhoi cymorth sy'n lleihau'n
raddol i fusnesau sydd â gwerth ardrethol o rhwng £10,000 ac £20,000; b) eithrio pob busnes rhag talu unrhyw ardrethi yn ystod eu
blwyddyn gyntaf o fasnachu, er mwyn annog dechrau busnesau newydd ledled Cymru; c) cyflwyno lluosydd hollt ar gyfer busnesau bach a mawr
fel yn yr Alban a Lloegr; a d) archwilio disodli ardrethi busnes yn gyfan gwbl gan
ffurfiau eraill o drethi nad ydynt yn rhwystro cyflogaeth, adfywio canol trefi
a buddsoddi mewn gwaith a pheiriannau. Gwelliant
4. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro): Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu bod Llywodraeth Cymru wedi llywyddu dros y
gyfradd uchaf o eiddo gwag ar y stryd fawr ym Mhrydain Fawr yn 2017, sef 14.5 y
cant. Gwelliant
5. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro): Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) diddymu ardrethi busnes ar gyfer yr holl fusnesau bach
sydd â gwerth ardrethol o hyd at £15,000; a b) diwygio'r system ardrethi busnes ac ymchwilio i hollti
lluosydd Cymru i gynyddu cystadleurwydd busnesau llai. Gwelliant
6. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro): Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru ymestyn y cyllid sydd
ar gael i gefnogi cynlluniau peilot parcio am ddim yng Nghymru. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.44 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6526 Caroline Jones (Gorllewin
De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn credu: a) mai busnesau bach yw
calon economaidd a chymdeithasol y stryd fawr yng Nghymru ond bod y gyfundrefn
ardrethi busnes bresennol yn rhoi manwerthwyr mewn dinasoedd a threfi bach o
dan anfantais sylweddol; b) bod ardrethi busnes
o'u hanfod yn annheg oherwydd mai ychydig, os unrhyw, berthynas sydd rhyngddynt
â phroffidioldeb busnes a'u bod yn cael effaith iasol ar ganol trefi drwy
ychwanegu costau sylweddol i'r broses o sefydlu busnesau newydd; c) y byddai lleihau
effaith ardrethi busnes yn helpu busnesau i oroesi'r heriau a achosir gan siopa
ar y rhyngrwyd ac yn rhoi hwb sylweddol i'r stryd fawr. 2. Yn penderfynu: a) fel mesur dros dro,
hyd nes y caiff ardrethi busnes eu disodli gan dreth sy'n gysylltiedig â'r
gallu i dalu, y dylai safleoedd busnes sydd â gwerth ardrethol o lai na £15,000
gael eu heithrio ac y dylai cyfraddau eiddo busnes sydd o fewn y band o £15,000
i £50,000 gael eu gostwng 20 y cant; b) y dylai awdurdodau
lleol Cymru annog masnach leol drwy gynnig parcio am ddim am o leiaf 60 munud
mewn meysydd parcio canol tref; c) y dylai datblygiadau
siopa ar gyrion y dref ysgwyddo cyfran fwy ond rhesymol o'r baich ardrethi
busnes ac y dylai cyfraddau o'r fath fod yn berthnasol i'w meysydd parcio, i
helpu i adfywio canol trefi.
Gwrthodwyd y cynnig heb
ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Jane Hutt (Bro Morgannwg): Dileu popeth a rhoi yn
ei le: Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod pwysigrwydd
microfusnesau a busnesau bach a chanolig i lwyddiant cymunedau ac economi
ehangach Cymru. 2. Yn nodi pwysigrwydd
allweddol polisïau traws-lywodraethol sy'n cefnogi busnesau ar strydoedd mawr
Cymru i ffynnu a thyfu. 3. Yn cydnabod ymrwymiad
Llywodraeth Cymru i gefnogi manwerthwyr y stryd fawr a busnesau eraill drwy
ddarparu dros £200m o gyllid yn 2017-18 i gefnogi tua thri chwarter talwyr
ardrethi yng Nghymru drwy ryddhad ardrethi. 4. Yn cydnabod nad yw
dros hanner holl fusnesau Cymru'n talu unrhyw ardrethi o gwbl yn ystod 2017-18. 5. Yn nodi bwriad
Llywodraeth Cymru i sefydlu cynllun parhaol Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach
sy'n fwy syml, yn fwy teg ac sy'n fwy penodol ar gyfer busnesau sy'n tyfu yng
Nghymru o fis Ebrill 2018. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gan fod gwelliant 1
wedi’i dderbyn, cafodd gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Gwelliant 4. Paul Davies (Preseli
Sir Benfro): Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu bod
Llywodraeth Cymru wedi llywyddu dros y gyfradd uchaf o eiddo gwag ar y stryd
fawr ym Mhrydain Fawr yn 2017, sef 14.5 y cant. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 4:
Gwrthodwyd gwelliant 4. Gwelliant 5. Paul Davies (Preseli
Sir Benfro): Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i: a) diddymu ardrethi
busnes ar gyfer yr holl fusnesau bach sydd â gwerth ardrethol o hyd at £15,000;
a b) diwygio'r system
ardrethi busnes ac ymchwilio i hollti lluosydd Cymru i gynyddu cystadleurwydd
busnesau llai. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 5:
Gwrthodwyd gwelliant 5. Gwelliant 6. Paul Davies (Preseli
Sir Benfro): Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn credu y dylai
Llywodraeth Cymru ymestyn y cyllid sydd ar gael i gefnogi cynlluniau peilot
parcio am ddim yng Nghymru. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 6:
Gwrthodwyd gwelliant 6. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig fel y’i diwygiwyd: Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod
pwysigrwydd microfusnesau a busnesau bach a chanolig i lwyddiant cymunedau ac
economi ehangach Cymru. 2. Yn nodi pwysigrwydd
allweddol polisïau traws-lywodraethol sy'n cefnogi busnesau ar strydoedd mawr
Cymru i ffynnu a thyfu. 3. Yn cydnabod ymrwymiad
Llywodraeth Cymru i gefnogi manwerthwyr y stryd fawr a busnesau eraill drwy
ddarparu dros £200m o gyllid yn 2017-18 i gefnogi tua thri chwarter talwyr ardrethi
yng Nghymru drwy ryddhad ardrethi. 4. Yn cydnabod nad yw
dros hanner holl fusnesau Cymru'n talu unrhyw ardrethi o gwbl yn ystod 2017-18. 5. Yn nodi bwriad
Llywodraeth Cymru i sefydlu cynllun parhaol Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach
sy'n fwy syml, yn fwy teg ac sy'n fwy penodol ar gyfer busnesau sy'n tyfu yng
Nghymru o fis Ebrill 2018.
Derbyniwyd y cynnig fel
y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.25 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM6522 Dai
Lloyd (Gorllewin De Cymru) Gwarchod
a datblygu canolfannau rhanbarthol o ragoriaeth feddygol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.28 NDM6522 Dai Lloyd (Gorllewin De
Cymru) Gwarchod a datblygu
canolfannau rhanbarthol o ragoriaeth feddygol |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |