Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol - Y Bumed Senedd
Caiff Aelodau'r Cynulliad (AC) ofyn Cwestiynau Llafar y
Cynulliad i’r Cwnsler Cyffredinol am
unrhyw fater mewn perthynas â’i gyfrifoldebau fel swyddog y gyfraith.
Bydd y Cwnsler Cyffredinol yn ateb cwestiynau unwaith bob
pedair wythnos. Atebir cwestiynau llafar yn ystod cyfnod a neilltuir ar gyfer
Cwestiynau yn y Cyfarfod Llawn.
Bydd y Llywydd yn cynnal balot i benderfynu pa Aelodau a
gaiff gyflwyno cwestiynau. Caiff pob Aelod gynnwys ei enw yn y balot.
Yna, rhaid i'r Aelod a ddetholir gyflwyno'r cwestiwn
llafar o leiaf bum niwrnod cyn y dyddiad a bennwyd ar gyfer ei ateb. Defnyddir
cyfrifiadur i ddewis trefn ar hap ar gyfer gofyn y cwestiynau yn y Cyfarfod
Llawn.
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Llywodraeth;
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 30/06/2016