NDM6526 - Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig

NDM6526 - Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig

NDM6526 Caroline Jones (Gorllewin De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu:

a) mai busnesau bach yw calon economaidd a chymdeithasol y stryd fawr yng Nghymru ond bod y gyfundrefn ardrethi busnes bresennol yn dodi manwerthwyr mewn dinasoedd a threfi bach o dan anfantais sylweddol;

b) bod ardrethi busnes o'u hanfod yn annheg oherwydd bod ychydig, os unrhyw, berthynas rhyngddynt â phroffidioldeb busnes a'u bod yn cael effaith iasol ar ganol trefi drwy ychwanegu costau sylweddol i'r broses o sefydlu busnesau newydd;

c) y byddai leihau effaith ardrethi busnes yn helpu busnesau i oroesi'r heriau a achosir gan siopa ar y rhyngrwyd ac yn rhoi hwb sylweddol i'r stryd fawr.

2. Yn penderfynu:

a) fel mesur dros dro, hyd nes y caiff ardrethi busnes eu disodli gan dreth sy'n gysylltiedig â'r gallu i dalu, y dylai safleoedd busnes sydd â gwerth ardrethol o lai na £15,000 gael eu heithrio ac y dylai cyfraddau eiddo busnes sydd o fewn y band o £15,000 i £50,000 gael eu gostwng 20 y cant;

b) y dylai awdurdodau lleol Cymru annog masnach leol drwy gynnig parcio am ddim am o leiaf 60 munud mewn meysydd parcio canol tref;

c) y dylai datblygiadau siopa ar gyrion y dref ddwyn cyfran fwy ond rhesymol o'r baich ardrethi busnes ac y dylai cyfraddau o'r fath fod yn berthnasol i'w meysydd parcio, i helpu i adfywio canol trefi.

Math o fusnes: Dadl

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 05/10/2017

Angen Penderfyniad: 11 Hyd 2017 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd