R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi cael ei gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Bydd y Llywydd yn galw Llefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith
1. Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ba gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella cysylltedd rhyngwladol Cymru? (OAQ51151)
2. Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am dwf yr economi gig yng Nghymru? (OAQ51143)
3. Eluned Morgan (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i yrru economi Cymru ymlaen? (OAQ51162)
4. Leanne Wood (Rhondda):Sut y mae Llywodraeth Cymru'n bwriadu gwella'r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru? (OAQ51161)
5. Steffan Lewis (Dwyrain De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y seilwaith rheilffyrdd yng Ngwent? (OAQ51140) TYNNWYD YN ÔL
6. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i nodi 300 mlwyddiant geni William Williams Pantycelyn eleni? (OAQ51142W)
7. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Pa ystyriaeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei rhoi i gynaliadwyedd wrth wneud penderfyniadau mewn perthynas â thrafnidiaeth? (OAQ51165)
8. Jeremy Miles (Castell-nedd):Beth yw rôl Llywodraeth Cymru yn y broses o gefnogi busnesau Cymru i fasnachu â'i gilydd? (OAQ51157)
9. Mark Reckless (Dwyrain De Cymru): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fanteisio i'r eithaf ar y manteision datblygu economaidd a fydd yn llifo i dde-ddwyrain Cymru yn dilyn cadarnhad gan Lywodraeth y DU y bydd yn diddymu tollau'r pontydd Hafren yn ystod 2018? (OAQ51158)
10. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y diwydiant twristiaeth? (OAQ51150) TYNNWYD YN ÔL
11. David Rees (Aberafan):Pa dystiolaeth sydd wedi'i chyhoeddi am y manteision economaidd a ddaw i Port Talbot os bydd y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn bwrw ymlaen â chynlluniau i adeiladu carchar ym mharc diwydiannol Baglan? (OAQ51160)
12. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am fasnachfraint reilffyrdd Cymru a'r Gororau? (OAQ51149) TYNNWYD YN ÔL
13. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi busnesau bach a chanolig yng ngorllewin Cymru? (OAQ51155)
14. Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu pa bolisïau newydd y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu cyflwyno i gynorthwyo busnesau canolig? (OAQ51148)
15. Nick Ramsay (Mynwy):A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am effaith diddymu tollau’r pontydd Hafren ar lefelau traffig ar yr M4? (OAQ51146)
Gofyn i’r Cwnsler Cyffredinol
1. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cynnal gyda swyddogion y gyfraith am apwyntiadau i'r Goruchaf Lys? (OAQ51164W)
2. Eluned Morgan (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth yw asesiad y Cwnsler Cyffredinol o oblygiadau cyfansoddiadol y Confensiwn Sewel i Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael)? (OAQ51159)
3. Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd): Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cynnal ynghylch yr amserlen weithredu ar gyfer Deddf Cymru 2017? (OAQ51144)
4. Hefin David (Caerffili):Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cynnal ynghylch cynyddu amrywiaeth mewn sylwadau a gaiff eu gwneud i'r Goruchaf Lys? (OAQ51152)
5. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cynnal ynglŷn â Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael)? (OAQ51163W)
6. Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth yw'r goblygiadau i Gymru o fabwysiadu system gyfiawnder unigryw a fydd yn adlewyrchu anghenion Cymru? (OAQ51154)