Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 39(v3)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 13/12/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cofnod y Trafodion Gweld
Cofnod
y Trafodion |
||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb
rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem
am 13.30 Gofynnwyd y 9
cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau
i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||
Cwestiwn Brys Dechreuodd yr eitem am 14.18 Ysgrifennydd y Cabinet dros lechyd, Llesiant a
Chwaraeon: Mohammad Asghar (Dwyrain
De Cymru): A wnaiff y Gweinidog
ddatganiad am adolygiad Llywodraeth Cymru o ofal cleifion sydd â salwch aciwt
yn dilyn ymchwiliad beirniadol iawn yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus i ofal
claf 93 oed yn Ysbyty Brenhinol Gwent? |
||||||||||
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem
am 14.24 |
|||||||||
(60 munud) |
Datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes: Y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.31 |
|||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith: Banc Datblygu Cymru Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.35 |
|||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant: Strategaeth Tlodi Plant Cymru - Adroddiad Cynnydd 2016 Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 16.16 |
|||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol: Codau Cyfraith Cymru Cofnodion: Dechreuodd yr eitem
am 17.05 |
|||||||||
(15 munud) |
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cyllid Troseddol NDM6183
Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd): Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6 yn cytuno y dylai Senedd y DU
ystyried y darpariaethau yn y Bil Cyllid Troseddol, yn ymwneud â chreu trosedd
newydd sef efadu trethi, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd
deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 1 Tachwedd 2016 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i). Mae copi o'r Bil i'w
weld ar wefan Senedd y DU: Criminal Finances Bill 2016-17 — Senedd y DU (Saesneg
yn unig) Dogfennau
Ategol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.44 NDM6183 Mark Drakeford
(Gorllewin Caerdydd): Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6 yn cytuno y dylai Senedd y DU
ystyried y darpariaethau yn y Bil Cyllid Troseddol, yn ymwneud â chreu trosedd
newydd sef efadu trethi, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol
Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
(15 munud) |
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Rhif 2) ar y Bil Plant a Gwaith Cymdeithasol NDM6184
Rebecca Evans (Gŵyr): Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6 yn cytuno y dylai Senedd y DU
ystyried y darpariaethau yn y Bil Plant a Gwaith Cymdeithasol, sy'n ymwneud â
gwahardd cyflogwr perthnasol rhag gwahaniaethu yn erbyn person sy'n gwneud cais
am swydd gofal cymdeithasol i blant am ei bod yn ymddangos i'r cyflogwr bod yr
ymgeisydd wedi gwneud datgeliad gwarchodedig, i'r graddau y maent yn dod o fewn
cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Tachwedd 2016 yn unol â Rheol Sefydlog
29.2(iii). Mae copi o'r Bil i'w
weld ar wefan Senedd y DU: Bill documents — Children and Social Work Bill [HL] 2016-17
— Senedd y DU (Saesneg yn unig) Dogfennau
Ategol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.50 NDM6184 Rebecca Evans (Gŵyr): Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6 yn cytuno y dylai Senedd y DU
ystyried y darpariaethau yn y Bil Plant a Gwaith Cymdeithasol, sy'n ymwneud â
gwahardd cyflogwr perthnasol rhag gwahaniaethu yn erbyn person sy'n gwneud cais
am swydd gofal cymdeithasol i blant am ei bod yn ymddangos i'r cyflogwr bod yr
ymgeisydd wedi gwneud datgeliad gwarchodedig, i'r graddau y maent yn dod o fewn
cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
(15 munud) |
Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau a Godir) (Cymru) 2016 NDM6187
Jane Hutt (Bro Morgannwg): Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5 Yn cymeradwyo bod y
fersiwn ddrafft o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau a Godir) (Cymru) 2016
yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Tachwedd
2016. Dogfennau Ategol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.52 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. NDM6187 Jane Hutt (Bro Morgannwg): Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5 Yn cymeradwyo bod y
fersiwn ddrafft o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau a Godir) (Cymru) 2016
yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Tachwedd 2016. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||
Rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Ehangu Ystyr "Gweithiwr Gofal Cymdeithasol") 2016 NDM6186 Jane Hutt (Bro Morgannwg): Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5 Yn
cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Ehangu
Ystyr "Gweithiwr Gofal Cymdeithasol") 2016 yn cael ei llunio yn unol
â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Tachwedd
2016. Dogfennau
Ategol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.05 NDM6186 Jane Hutt (Bro Morgannwg): Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5 Yn cymeradwyo bod y
fersiwn ddrafft o Reoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Ehangu Ystyr
"Gweithiwr Gofal Cymdeithasol") 2016 yn cael ei llunio yn unol â'r
fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Tachwedd 2016. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
||||||||||
Rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Pennu Gweithwyr Gofal Cymdeithasol) (Cofrestru) 2016 NDM6185 Jane Hutt (Bro Morgannwg): Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5 Yn
cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Pennu
Gweithwyr Gofal Cymdeithasol) (Cofrestru) 2016 yn cael ei llunio yn unol â'r
fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Tachwedd
2016. Dogfennau
Ategol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.05 NDM6185 Jane Hutt (Bro Morgannwg): Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5 Yn cymeradwyo bod y
fersiwn ddrafft o Reoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Pennu Gweithwyr Gofal
Cymdeithasol) (Cofrestru) 2016 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft
a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Tachwedd 2016. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.08 |
||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |