Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Plant a Gwaith Cymdeithasol

Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Plant a Gwaith Cymdeithasol

Cafodd y Bil Plant a Gwaith Cymdeithasol ei gyflwyno yn Nhŷ’r Arglwyddi ar 19 Mai 2016. Bil Llywodraeth y DU ydoedd, ac fe’i noddwyd gan yr Adran dros Addysg. Roedd y Bil yn ymwneud â phlant sy'n derbyn gofal, lles plant, a’r drefn reoleiddio ar gyfer gweithwyr cymdeithasol.

Roedd y Bil yn ddarostyngedig i'r broses cydsyniad deddfwriaethol o dan Reol Sefydlog 29. Dilynir y broses hon mewn achosion lle mae Llywodraeth y DU yn gofyn am gydsyniad Senedd Cymru i ddeddfu ar fater a allai ddod o fewn cymhwysedd y Senedd fel arfer.

Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â'r Bil Plant a Gwaith Cymdeithasol (PDF, 18KB) ar 13 Hydref 2016. Ar 18 Hydref 2016, cafodd y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol hwn ei gyfeirio gan y Pwyllgor Busnes (PDF, 52KB) at Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i'w drafod. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad arno oedd 24 Tachwedd 2016. Cyhoeddodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ei adroddiad ar y Memorandwm (PDF, 355KB) ar 22 Tachwedd 2016. Cytunwyd ar y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil yn y Cyfarfod Llawn ar 29 Tachwedd 2016.

Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol mewn perthynas â'r Bil Plant a Gwaith Cymdeithasol (PDF, 20KB) ar 10 Tachwedd 2016. Ar 15 Tachwedd 2016, cafodd y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol hwn ei gyfeirio gan y Pwyllgor Busnes (PDF, 51KB) at y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad arno oedd 8 Rhagfyr 2016. Cyhoeddodd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ei adroddiad (PDF, 104KB) ar y Memorandwm atodol ar 5 Rhagfyr 2016. Cytunwyd ar y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol atodol ar gyfer y Bil yn y Cyfarfod Llawn ar 13 Rhagfyr 2016.

 

 

 

Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 14/10/2016

Dogfennau