R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y cwestiwn mewn
cromfachau)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Gareth Bennett (Canol De Cymru):Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leddfu'r tagfeydd traffig ar y ffyrdd yng Nghanol De Cymru? OAQ(5)0344(FM)
2. Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd): Pryd y cyfarfu Prif Weinidog Cymru ddiwethaf â Phrif Weinidog y Deyrnas Unedig i drafod datblygiadau cyfansoddiadol yng Nghymru? OAQ(5)0330(FM)W
3. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cynnydd sy'n cael ei wneud tuag at gyrraedd safon ansawdd tai Cymru? OAQ(5)0328(FM)
4. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyflymder y newid sydd ei angen i drawsnewid gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru? OAQ(5)0341(FM)
5. Steffan Lewis (Dwyrain De Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymdrechion i sicrhau adolygiad o warged Cynllun Pensiwn y Glowyr? OAQ(5)0331(FM)
6. Huw Irranca–Davies (Ogwr):Pa drafodaethau diweddar y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch cysylltiad / cangen rheilffordd Heathrow? OAQ(5)0332(FM)
7. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau rhewmatoleg yng Nghymru? OAQ(5)0338(FM)
8. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru):Sut y bydd y polisïau yn rhaglen Llywodraeth Cymru, “Symud Cymru Ymlaen”, yn cyfrannu at leddfu achosion o dlodi parhaus yng Nghymru? OAQ(5)0326(FM)
9. Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am strategaeth Llywodraeth Cymru i hyrwyddo twristiaeth yng Nghymru? OAQ(5)0335(FM)
10. Hannah Blythyn (Delyn):A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i arloesi mewn diwydiant? OAQ(5)0337(FM)
11. Eluned Morgan (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn ymdrin ag effeithiau niweidiol camddefnyddio alcohol yng Nghymru? OAQ(5)0336(FM)
12. Mark Isherwood (Gogledd Cymru):Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o bobl sy'n byw mewn tlodi tanwydd? OAQ(5)0327(FM)
13. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd):Pa gynlluniau sydd gan y Prif Weinidog i wella safonau byw yng Nghymru? OAQ(5)0343(FM)
14. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i ofalwyr ifanc? OAQ(5)0342(FM)
15. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella hyfforddiant nyrsio yn ystod y Pumed Cynulliad? OAQ(5)0334(FM)