Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: 166(v4) 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 24/10/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Enwebiadau ar gyfer cadeirydd pwyllgor (5 munud)

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gwahoddodd y Dirprwy Llywydd enwebiadau ar gyfer Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, yn unol â Rheol Sefydlog 17.2F.

Enwebwyd Llyr Gruffydd gan Rhun ap Iorwerth. Gan nad oedd ond un enwebiad, ac na chafwyd gwrthwynebiad i’r enwebiad, datganodd y Dirprwy Llywydd fod Llyr Gruffydd  wedi ei ethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid.

(45 munud)

1.

Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.31

Gofynnwyd y 7 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 6 gan y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.

(30 munud)

2.

Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.24

Gofynnwyd y 5 cwestiwn.

(20 munud)

3.

Cwestiynau Amserol

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig:

Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau a yw ei sylwadau yn y Farmers Guardian ar 18 Hydref, lle y dywedodd na fydd yn ystyried cynnal rhyw fath o daliad uniongyrchol i ffermwyr, hyd yn oed pe bai’r rhan fwyaf o ymatebwyr i Brexit a’n Tir yn gofyn am hynny, yn adlewyrchu safbwynt Llywodraeth Cymru?

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.44

(5 munud)

4.

Datganiadau 90 Eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.55

Gwnaeth Leanne Wood ddatganiad am - Ymgyrch dros gyfiawnder rhag aflonyddu rhywiol a cham-drin.

Gwnaeth Neil McEvoy ddatganiad am - Y rhyfel yn Yemen

Cynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau - Plaid Cymru

Dechreuodd yr eitem am 14.58

Cytunwyd o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod yr eitemau canlynol gyda'i gilydd, ond gyda phleidleisiau ar wahân.

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM6836 - Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Cyllid yn lle Steffan Lewis (Plaid Cymru).

NDM6837 - Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Leanne Wood (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Deisebau yn lle Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru).

NDM6838 - Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Llyr Gruffydd (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn lle Dai Lloyd (Plaid Cymru).

NDM6839 - Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Bethan Sayed (Plaid Cymru) yn aelod o Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn lle Adam Price (Plaid Cymru).

NDM6840 - Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Sian Gwenllian (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn lle Llyr Gruffydd (Plaid Cymru).

NDM6841 - Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Leanne Wood (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn lle Bethan Sayed (Plaid Cymru).

NDM6842 - Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Helen Mary Jones (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn lle Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru).

NDM6843 - Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Dai Lloyd (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yn lle Sian Gwenllian (Plaid Cymru).

NDM6844 - Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Helen Mary Jones (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn lle Llyr Gruffydd (Plaid Cymru).

NDM6845 - Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Llyr Gruffydd (Plaid Cymru) yn aelod amgen o’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn lle Adam Price (Plaid Cymru).

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

47

0

3

50

Derbyniwyd y cynigion.

Cynnig i ethol Aelod i bwyllgor - UKIP

Dechreuodd yr eitem am 14.59

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM6846 - Elin Jones (Ceredigion) 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Neil Hamilton (Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig) yn aelod amgen o’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn lle Michelle Brown (Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig).

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

13

3

34

50

Gwrthodwyd y cynnig.

(60 munud)

5.

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar ei Ymchwiliad i Dai Carbon Isel: Yr Her

NDM6832 Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar ‘Dai Carbon Isel: yr Her', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Awst 2018.

Nodyn: Gosodwyd yr ymateb gan Lywodraeth Cymru ar 17 Hydref 2018.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.00

NDM6832 Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar ‘Dai Carbon Isel: yr Her', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Awst 2018.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

6.

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: Taro’r Tant: Ymchwiliad i ariannu addysg cerddoriaeth a gwella mynediad ati

NDM6833 Bethan Sayed (Gorllewin De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, 'Taro'r Tant - Ymchwiliad i ariannu addysg cerddoriaeth a gwella mynediad ati’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Mehefin 2018.

Nodyn: Gosodwyd yr ymateb gan Lywodraeth Cymru ar 13 Awst 2018.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.32

NDM6833 Bethan Sayed (Gorllewin De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, 'Taro'r Tant - Ymchwiliad i ariannu addysg cerddoriaeth a gwella mynediad ati’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Mehefin 2018

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

7.

Dadl Plaid Cymru - Newid Hinsawdd

NDM6835 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi adroddiad Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig.

2. Yn nodi casgliad yr adroddiad bod yn rhaid i lywodraethau weithredu ar frys ac ar lefel pellgyrhaeddol erbyn 2030 er mwyn cadw cynhesu byd-eang at uchafswm o 1.5 gradd celsius.

3. Yn nodi bod y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig wedi canfod bod Llywodraeth Cymru yn debygol o fethu â chyrraedd ei thargedau ar leihau allyriadau carbon erbyn 2020.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adrodd yn ôl i’r Cynulliad ar ba gamau breision y bydd yn eu cymryd mewn ymateb i adroddiad y Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd:

5. Yn credu y dylai’r camau hynny gynnwys:

a) gwaharddiad ar ffracio yng Nghymru;

b) rhoi’r gorau i gynllun llwybr du yr M4 a buddsoddi mewn atebion mwy cynaliadwy i ddatrys problem capasiti yr M4 yn yr ardal;

c) cynnydd sylweddol mewn buddsoddiad mewn ôl-osod tai a chryfhau rheoliadau adeiladu er mwyn cyrraedd y nod o adeiladau ynni agos at sero; a

d) sefydlu cwmni ynni cenedlaethol er mwyn helpu cyrraedd y nod o gynhyrchu cymaint o drydan ag sy’n cael ei ddefnyddio yng Nghymru o ynni adnewyddadwy erbyn 2035 gan fuddsoddi elw mewn gwell gwasanaeth a phrisoedd i gleientiaid.

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru a sefydliadau cyhoeddus eraill yng Nghymru i fod yn rhan o’r symudiad byd-eang i ddad-fuddsoddi mewn tanwydd ffosil.

Adroddiad Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig (Saesneg yn unig)

Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Cynnydd Llywodraeth Cymru o ran lliniaru effeithiau newid hinsawdd: Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Julie James (Gorllewin Abertawe)

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

Yn nodi’r dystiolaeth sy’n dangos yr heriau i Gymru sydd ynghlwm wrth gyflawni ymrwymiadau Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 o ran lleihau allyriadau o leiaf 80 y cant erbyn 2050.

Adeiladu economi carbon isel yng Nghymru – Pennu targedau carbon Cymru

Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016

Gwelliant 2 - Neil McEvoy (Canol De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 3:

Yn gwrthwynebu defnyddio ynni niwclear fel ffordd o fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.

Gwelliant 3 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Dileu pwynt 5 a rhoi yn ei le:

5. yn croesawu Papur Gwyn Ceidwadwyr Cymru, 'Dinasoedd Byw', sy'n cyflwyno cynigion i liniaru achosion ac effeithiau newid yn yr hinsawdd, gan gynnwys:

a) gwneud Caerdydd yn brifddinas carbon niwtral gyntaf y DU;

b)  gosod offer monitro llygredd aer ym mhob ysgol a meithrinfa yng Nghymru;

c) cyflwyno menter cartrefi clyfar i gefnogi micro gynlluniau ynni a chynlluniau ynni cymdogaethau sydd am gynhyrchu, storio a chludo eu hynni eu hunain;

d) ymrwymo i darged o orchudd canopi coed trefol o 20 y cant erbyn 2030;

e) cymell ac annog toeau gwyrdd ar ddatblygiadau masnachol yng Nghymru; a

f) cyflwyno cerdyn gwyrdd a fydd yn rhoi teithiau bws am ddim i bob plentyn rhwng 16 a 24 oed yng Nghymru.

Dinasoedd Byw

[Os derbynnir gwelliant 3, caiff gwelliant 4 ei ddad-ddethol]

Gwelliant 4 - Julie James (Gorllewin Abertawe)

Dileu pwynt 5 a rhoi yn ei le:  

Yn nodi’r camau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cymryd hyd yma o ran y newid yn yr hinsawdd gan gynnwys:

a) gosod targedau interim a chyllidebau carbon i Gymru a datblygu’r cynllun cyflenwi carbon isel cyntaf.

b) cyhoeddi’r fersiwn ddrafft o’r polisi echdynnu petroliwm at ddiben ymgynghori.

c)  cynlluniau a gyhoeddwyd yn ddiweddar gyfer gwasanaeth rheilffordd newydd gwerth £5 biliwn a fydd yn arwain at leihad o 25 y cant mewn allyriadau carbon ar rwydwaith Cymru a’r Gororau a chynlluniau i ddatblygu Strategaeth Trafnidiaeth Cymru newydd a all gefnogi rhwydwaith trafnidiaeth carbon isel ac aml-ddull ar draws Cymru.

d) buddsoddi dros £240 miliwn yn rhaglen Cartrefi Cynnes Llywodraeth Cymru, sy’n cynnwys Nyth ac Arbed, gan wella effeithlonrwydd ynni dros 45,000 o gartrefi a chymeradwyo buddsoddiad pellach o £104 miliwn ar gyfer y cyfnod 2017-2021.

e) cychwyn adolygiad o ran L o’r rheoliadau adeiladu er mwyn cynyddu lefel yr effeithlonrwydd ynni sy’n ofynnol ar gyfer cartrefi newydd

f) gosod targed sy’n golygu bod 70 y cant o’r trydan a ddefnyddir yng Nghymru’n dod o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2030, gyda gwahanol gamau gweithredu gan Lywodraeth Cymru’n cefnogi cynnydd i 48 y cant yn 2017.

Polisi echdynnu petrolewm yng Nghymru

Adolygiad Rheoliadau Adeiladu Rhan L

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.20

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM6835 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi adroddiad Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig.

2. Yn nodi casgliad yr adroddiad bod yn rhaid i lywodraethau weithredu ar frys ac ar lefel pellgyrhaeddol erbyn 2030 er mwyn cadw cynhesu byd-eang at uchafswm o 1.5 gradd celsius.

3. Yn nodi bod y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig wedi canfod bod Llywodraeth Cymru yn debygol o fethu â chyrraedd ei thargedau ar leihau allyriadau carbon erbyn 2020.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adrodd yn ôl i’r Cynulliad ar ba gamau breision y bydd yn eu cymryd mewn ymateb i adroddiad y Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd:

5. Yn credu y dylai’r camau hynny gynnwys:

a) gwaharddiad ar ffracio yng Nghymru;

b) rhoi’r gorau i gynllun llwybr du yr M4 a buddsoddi mewn atebion mwy cynaliadwy i ddatrys problem capasiti yr M4 yn yr ardal;

c) cynnydd sylweddol mewn buddsoddiad mewn ôl-osod tai a chryfhau rheoliadau adeiladu er mwyn cyrraedd y nod o adeiladau ynni agos at sero; a

d) sefydlu cwmni ynni cenedlaethol er mwyn helpu cyrraedd y nod o gynhyrchu cymaint o drydan ag sy’n cael ei ddefnyddio yng Nghymru o ynni adnewyddadwy erbyn 2035 gan fuddsoddi elw mewn gwell gwasanaeth a phrisoedd i gleientiaid.

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru a sefydliadau cyhoeddus eraill yng Nghymru i fod yn rhan o’r symudiad byd-eang i ddad-fuddsoddi mewn tanwydd ffosil.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

11

1

38

50

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Julie James (Gorllewin Abertawe)

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

Yn nodi’r dystiolaeth sy’n dangos yr heriau i Gymru sydd ynghlwm wrth gyflawni ymrwymiadau Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 o ran lleihau allyriadau o leiaf 80 y cant erbyn 2050.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

28

12

10

50

Derbyniwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - Neil McEvoy (Canol De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 3:

Yn gwrthwynebu defnyddio ynni niwclear fel ffordd o fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

1

8

41

50

Gwrthodwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Dileu pwynt 5 a rhoi yn ei le:

5. yn croesawu Papur Gwyn Ceidwadwyr Cymru, 'Dinasoedd Byw', sy'n cyflwyno cynigion i liniaru achosion ac effeithiau newid yn yr hinsawdd, gan gynnwys:

a) gwneud Caerdydd yn brifddinas carbon niwtral gyntaf y DU;

b)  gosod offer monitro llygredd aer ym mhob ysgol a meithrinfa yng Nghymru;

c) cyflwyno menter cartrefi clyfar i gefnogi micro gynlluniau ynni a chynlluniau ynni cymdogaethau sydd am gynhyrchu, storio a chludo eu hynni eu hunain;

d) ymrwymo i darged o orchudd canopi coed trefol o 20 y cant erbyn 2030;

e) cymell ac annog toeau gwyrdd ar ddatblygiadau masnachol yng Nghymru; a

f) cyflwyno cerdyn gwyrdd a fydd yn rhoi teithiau bws am ddim i bob plentyn rhwng 16 a 24 oed yng Nghymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

10

4

36

50

Gwrthodwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 - Julie James (Gorllewin Abertawe)

Dileu pwynt 5 a rhoi yn ei le: 

Yn nodi’r camau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cymryd hyd yma o ran y newid yn yr hinsawdd gan gynnwys:

a) gosod targedau interim a chyllidebau carbon i Gymru a datblygu’r cynllun cyflenwi carbon isel cyntaf.

b) cyhoeddi’r fersiwn ddrafft o’r polisi echdynnu petroliwm at ddiben ymgynghori.

c)  cynlluniau a gyhoeddwyd yn ddiweddar gyfer gwasanaeth rheilffordd newydd gwerth £5 biliwn a fydd yn arwain at leihad o 25 y cant mewn allyriadau carbon ar rwydwaith Cymru a’r Gororau a chynlluniau i ddatblygu Strategaeth Trafnidiaeth Cymru newydd a all gefnogi rhwydwaith trafnidiaeth carbon isel ac aml-ddull ar draws Cymru.

d) buddsoddi dros £240 miliwn yn rhaglen Cartrefi Cynnes Llywodraeth Cymru, sy’n cynnwys Nyth ac Arbed, gan wella effeithlonrwydd ynni dros 45,000 o gartrefi a chymeradwyo buddsoddiad pellach o £104 miliwn ar gyfer y cyfnod 2017-2021.

e) cychwyn adolygiad o ran L o’r rheoliadau adeiladu er mwyn cynyddu lefel yr effeithlonrwydd ynni sy’n ofynnol ar gyfer cartrefi newydd

f) gosod targed sy’n golygu bod 70 y cant o’r trydan a ddefnyddir yng Nghymru’n dod o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2030, gyda gwahanol gamau gweithredu gan Lywodraeth Cymru’n cefnogi cynnydd i 48 y cant yn 2017.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

28

12

10

50

Derbyniwyd gwelliant 4.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

NDM6835 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi adroddiad Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig.

2. Yn nodi casgliad yr adroddiad bod yn rhaid i lywodraethau weithredu ar frys ac ar lefel pellgyrhaeddol erbyn 2030 er mwyn cadw cynhesu byd-eang at uchafswm o 1.5 gradd celsius.

3. Yn nodi’r dystiolaeth sy’n dangos yr heriau i Gymru sydd ynghlwm wrth gyflawni ymrwymiadau Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 o ran lleihau allyriadau o leiaf 80 y cant erbyn 2050.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adrodd yn ôl i’r Cynulliad ar ba gamau breision y bydd yn eu cymryd mewn ymateb i adroddiad y Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd:

5. Yn nodi’r camau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cymryd hyd yma o ran y newid yn yr hinsawdd gan gynnwys:

a) gosod targedau interim a chyllidebau carbon i Gymru a datblygu’r cynllun cyflenwi carbon isel cyntaf.

b) cyhoeddi’r fersiwn ddrafft o’r polisi echdynnu petroliwm at ddiben ymgynghori.

c)  cynlluniau a gyhoeddwyd yn ddiweddar gyfer gwasanaeth rheilffordd newydd gwerth £5 biliwn a fydd yn arwain at leihad o 25 y cant mewn allyriadau carbon ar rwydwaith Cymru a’r Gororau a chynlluniau i ddatblygu Strategaeth Trafnidiaeth Cymru newydd a all gefnogi rhwydwaith trafnidiaeth carbon isel ac aml-ddull ar draws Cymru.

d) buddsoddi dros £240 miliwn yn rhaglen Cartrefi Cynnes Llywodraeth Cymru, sy’n cynnwys Nyth ac Arbed, gan wella effeithlonrwydd ynni dros 45,000 o gartrefi a chymeradwyo buddsoddiad pellach o £104 miliwn ar gyfer y cyfnod 2017-2021.

e) cychwyn adolygiad o ran L o’r rheoliadau adeiladu er mwyn cynyddu lefel yr effeithlonrwydd ynni sy’n ofynnol ar gyfer cartrefi newydd

f) gosod targed sy’n golygu bod 70 y cant o’r trydan a ddefnyddir yng Nghymru’n dod o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2030, gyda gwahanol gamau gweithredu gan Lywodraeth Cymru’n cefnogi cynnydd i 48 y cant yn 2017.

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru a sefydliadau cyhoeddus eraill yng Nghymru i fod yn rhan o’r symudiad byd-eang i ddad-fuddsoddi mewn tanwydd ffosil.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

37

3

10

50

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd

8.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.32

(30 munud)

9.

Dadl Fer

NDM6834 Bethan Sayed (Gorllewin De Cymru)

Newyddion ffug: sut y gallwch ei adnabod a sut y gallwch ei drechu?

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.36

NDM6834 Bethan Sayed (Gorllewin De Cymru)

Newyddion ffug: sut y gallwch ei adnabod a sut y gallwch ei drechu?

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol: