Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 162(v3)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 10/10/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
13.30 Gofynnwyd y 7 cwestiwn
cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i
Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.22 Gofynnwyd
y 7 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Dirprwy Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.09 Gofynnwyd
cwestiynau 1, 2, 4 a 5. Tynnwyd cwestiwn 3 yn ôl. |
|||||||||||||||||||||||||
Cwestiynau Amserol Ni
ddewiswyd unrhyw Gwestiynau Amserol. Cofnodion: Ni
ddewiswyd unrhyw Gwestiynau Amserol. |
||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.24 Gwnaeth
Jack
Sargeant ddatganiad am:
Heddiw yw Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd. Gwnaeth
Rhun
ap Iorwerth ddatganiad am: RMS Leinster (100 mlynedd ers iddi
suddo). Gwnaeth
Mark
Isherwood ddatganiad am: Dathlu Wythnos Gofal Hosbis 2018. Gwnaeth
David
Melding ddatganiad am: Diwrnod Digartrefedd y Byd. Gwnaeth
Llyr
Gruffydd ddatganiad am Dathlu Canolfan Iaith Clwyd yn 30 oed a
Gwefr heb Wifrau yn 10 oed. |
|||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog NDM6825
Elin
Jones (Ceredigion) Cynnig bod y Cynulliad
Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2: 1. Yn ystyried Adroddiad
y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio'r Rheolau Sefydlog: Rheolau Sefydlog 24, 25 a 27 –
Gorchmynion Adran 116C’, a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Hydref 2018; a 2. Yn cymeradwyo’r
cynnig i adolygu Rheolau Sefydlog 24, 25 a 27, fel y nodir yn Atodiad B i
Adroddiad y Pwyllgor Busnes. Dogfen Ategol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.33 NDM6825
Elin Jones (Ceredigion) Cynnig
bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2: 1.
Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio'r Rheolau Sefydlog: Rheolau
Sefydlog 24, 25 a 27 – Gorchmynion Adran 116C’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2
Hydref 2018; a 2.
Yn cymeradwyo’r cynnig i adolygu Rheolau Sefydlog 24, 25 a 27, fel y nodir yn
Atodiad B i Adroddiad y Pwyllgor Busnes. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod NDM6819
Helen
Mary Jones (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi cynnig ar
gyfer Bil i ymgorffori Datganiad y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Personau Anabl
yng nghyfraith Cymru. 2. Diben y Bil hwn
fyddai cryfhau dulliau polisi sy'n seiliedig ar hawliau i hyrwyddo hawliau pobl
ag anableddau a defnyddio Datganiad y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Personau
Anabl fel fframwaith ar gyfer datblygiadau yn y dyfodol. Datganiad
y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Personau Anabl (Saesneg yn unig) Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.42 NDM6819
Helen Mary Jones (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn nodi cynnig ar gyfer Bil i ymgorffori Datganiad y Cenhedloedd Unedig ar
Hawliau Personau Anabl yng nghyfraith Cymru. 2.
Diben y Bil hwn fyddai cryfhau dulliau polisi sy'n seiliedig ar hawliau i
hyrwyddo hawliau pobl ag anableddau a defnyddio Datganiad y Cenhedloedd Unedig
ar Hawliau Personau Anabl fel fframwaith ar gyfer datblygiadau yn y dyfodol. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: Meithrin Cydnerthedd – Ymchwiliad i gyllid heblaw cyllid cyhoeddus ar gyfer y celfyddydau - Ni chyflwynwyd Cynnig Cofnodion: Ni chyflwynwyd Cynnig. |
||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl yn ceisio cytundeb y Cynulliad i gyflwyno Bil arfaethedig y Comisiwn - Bil Senedd Cymru ac Etholiadau (Cymru) NDM6821
Elin
Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi adroddiad Comisiwn y Cynulliad:
"Creu Senedd i Gymru, adroddiad yr ymgynghoriad", Hydref 2018; 2. Yn nodi datganiad
ysgrifenedig Comisiwn y Cynulliad: Bil Senedd Cymru ac Etholiadau (Cymru); 3. Yn cytuno i
ganiatáu i Gomisiwn y Cynulliad gyflwyno Bil i: a) newid enw Cynulliad Cenedlaethol Cymru, b) ymestyn yr etholfraint ar gyfer etholiadau’r
Cynulliad, c) diwygio’r gyfraith yn ymwneud ag
anghymhwyso, a d) gwneud newidiadau eraill i drefniadau
etholiadol a threfniadau mewnol y Cynulliad, a newidiadau sy’n gysylltiedig â
hwy. Creu
Senedd i Gymru, adroddiad yr ymgynghoriad
Datganiad
ysgrifenedig Comisiwn y Cynulliad: Bil Senedd Cymru ac Etholiadau (Cymru) Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.05 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM6821 Elin
Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi adroddiad Comisiwn y Cynulliad:
"Creu Senedd i Gymru, adroddiad yr ymgynghoriad", Hydref 2018; 2. Yn nodi datganiad
ysgrifenedig Comisiwn y Cynulliad: Bil Senedd Cymru ac Etholiadau (Cymru); 3. Yn cytuno i ganiatáu
i Gomisiwn y Cynulliad gyflwyno Bil i: a) newid enw Cynulliad Cenedlaethol Cymru, b) ymestyn yr etholfraint ar gyfer etholiadau’r
Cynulliad, c) diwygio’r gyfraith yn ymwneud ag
anghymhwyso, a d) gwneud newidiadau eraill i drefniadau
etholiadol a threfniadau mewnol y Cynulliad, a newidiadau sy’n gysylltiedig â
hwy. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar NDM6813 - Gwaredu deunyddiau a garthwyd o Fôr Hafren Darren Millar
(Gorllewin Clwyd) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn nodi pryderon eang ymhlith y cyhoedd mewn perthynas â gwaredu deunyddiau a
garthwyd o Fôr Hafren i leoliadau oddi ar arfordir de Cymru, sy'n gysylltiedig
ag adeiladu gorsaf bŵer newydd yn Hinkley. 2.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a)
cyhoeddi tystiolaeth fwy manwl mewn ymateb i bryderon ynglŷn â risgiau i
iechyd y cyhoedd a'r amgylchedd, gan gynnwys caniatáu ar gyfer cynnal profion
pellach er mwyn darparu mwy o dryloywder; a b)
cyfarwyddo Cyfoeth Naturiol Cymru i atal y drwydded forol sy'n galluogi
gweithgarwch gwaredu ac ymgymryd â rhaglen eang o ymgysylltu ac ymgynghori â
chymunedau lleol a rhanddeiliaid ar draws de Cymru. Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Julie James (Gorllewin
Abertawe) Dileu
popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le: 2.
Yn nodi: a)
o dan delerau’r Confensiwn ar Atal Llygredd Morol yn sgil Dympio Gwastraff a
Deunyddiau Eraill (Confensiwn Llundain, 1972), y mae’r DU yn un o’r llofnodwyr,
dim ond deunyddiau sydd â lefelau de minimis o ymbelydredd a all gael eu
hystyried ar gyfer cael eu gwaredu ar y môr. b)
yr asesiad ymbelydrol generig ceidwadol, a ddatblygwyd gan yr Asiantaeth Ynni
Atomig Rhyngwladol, yw’r dull rhyngwladol cymeradwy ar gyfer profi am lefelau
de minimis o ymbelydredd a chafodd y dull hwn ei ddefnyddio wrth wneud
penderfyniad ynghylch trwydded forol Hinkley.
c)
y dystiolaeth o fewn adroddiad Pwyllgor Deisebau’r Cynulliad Cenedlaethol a nododd
fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gwneud ei benderfyniad ynghylch trwydded forol
ar sail cyngor arbenigol, a hynny’n unol â gweithdrefnau’r Asiantaeth Ynni
Atomig Rhyngwladol ar gyfer asesiadau ymbelydrol. d)
y ffaith y daeth yr holl brofion ac asesiadau i’r casgliad fod y gwaddod i’w
waredu o fewn y terfynau diogel, nad oes unrhyw berygl ymbelydrol i iechyd pobl
nac i’r amgylchedd a’i fod yn ddeunydd diogel ac addas i’w waredu ar y môr. 3.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi cyfarwyddyd i Cyfoeth Naturiol Cymru o
safbwynt ymgysylltu rhagor â’r cyhoedd er mwyn egluro’r broses a’r dystiolaeth,
gan dawelu ofnau’r cyhoedd. Confensiwn
ar Atal Llygredd Morol yn sgil Dympio Gwastraff a Deunyddiau Eraill (Confensiwn
Llundain, 1972)
(Saesneg yn unig) [Os derbynnir
gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol] Gwelliant 2 - Neil McEvoy (Canol De
Cymru) Ym
mhwynt 2, ychwanegu is-bwyntiau newydd: cymryd
i ystyriaeth y wybodaeth a ddarparwyd gan yr Athro Emeritws Keith Barnham
ynghylch damweiniau pwll oeri yn Hinkley Point A yn y 1960au; cyfarwyddo
Cyfoeth Naturiol Cymru i gynnal asesiad llawn o'r effaith amgylcheddol y caiff
dympio gwaddod o Hinkley yn Cardiff Grounds ar arfordir Cymru, y boblogaeth
arfordirol ac amgylchedd morol Cymru. Yr
Athro Keith Barnham, 'New evidence of the need to test Hinkley Point sediments
for Uranium and Plutonium' - gosodwyd copi yn Llyfrgell yr Aelodau Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.42 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6813 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi pryderon eang ymhlith y cyhoedd mewn perthynas â gwaredu deunyddiau
a garthwyd o Fôr Hafren i leoliadau oddi ar arfordir de Cymru, sy'n
gysylltiedig ag adeiladu gorsaf bŵer newydd yn Hinkley. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) cyhoeddi tystiolaeth fwy manwl mewn ymateb i bryderon ynglŷn â
risgiau i iechyd y cyhoedd a'r amgylchedd, gan gynnwys caniatáu ar gyfer cynnal
profion pellach er mwyn darparu mwy o dryloywder; a b) cyfarwyddo Cyfoeth Naturiol Cymru i atal y drwydded forol sy'n
galluogi gweithgarwch gwaredu ac ymgymryd â rhaglen eang o ymgysylltu ac
ymgynghori â chymunedau lleol a rhanddeiliaid ar draws de Cymru.
Gwrthodwyd y cynnig heb
ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Julie
James (Gorllewin Abertawe) Dileu popeth ar ôl pwynt
1 a rhoi yn ei le: 2. Yn nodi: a) o dan delerau’r
Confensiwn ar Atal Llygredd Morol yn sgil Dympio Gwastraff a Deunyddiau Eraill
(Confensiwn Llundain, 1972), y mae’r DU yn un o’r llofnodwyr, dim ond
deunyddiau sydd â lefelau de minimis o ymbelydredd a all gael eu hystyried ar
gyfer cael eu gwaredu ar y môr. b) yr asesiad ymbelydrol
generig ceidwadol, a ddatblygwyd gan yr Asiantaeth Ynni Atomig Rhyngwladol,
yw’r dull rhyngwladol cymeradwy ar gyfer profi am lefelau de minimis o
ymbelydredd a chafodd y dull hwn ei ddefnyddio wrth wneud penderfyniad ynghylch
trwydded forol Hinkley. c) y dystiolaeth o fewn
adroddiad Pwyllgor Deisebau’r Cynulliad Cenedlaethol a nododd fod Cyfoeth
Naturiol Cymru wedi gwneud ei benderfyniad ynghylch trwydded forol ar sail
cyngor arbenigol, a hynny’n unol â gweithdrefnau’r Asiantaeth Ynni Atomig
Rhyngwladol ar gyfer asesiadau ymbelydrol. d) y ffaith y daeth yr
holl brofion ac asesiadau i’r casgliad fod y gwaddod i’w waredu o fewn y
terfynau diogel, nad oes unrhyw berygl ymbelydrol i iechyd pobl nac i’r
amgylchedd a’i fod yn ddeunydd diogel ac addas i’w waredu ar y môr. 3. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i roi cyfarwyddyd i Cyfoeth Naturiol Cymru o safbwynt ymgysylltu rhagor
â’r cyhoedd er mwyn egluro’r broses a’r dystiolaeth, gan dawelu ofnau’r
cyhoedd. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gan fod gwelliant 1
wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM6813 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi pryderon eang ymhlith y cyhoedd mewn perthynas â gwaredu
deunyddiau a garthwyd o Fôr Hafren i leoliadau oddi ar arfordir de Cymru, sy'n
gysylltiedig ag adeiladu gorsaf bŵer newydd yn Hinkley. 2. Yn nodi: a) o dan delerau’r
Confensiwn ar Atal Llygredd Morol yn sgil Dympio Gwastraff a Deunyddiau Eraill
(Confensiwn Llundain, 1972), y mae’r DU yn un o’r llofnodwyr, dim ond
deunyddiau sydd â lefelau de minimis o ymbelydredd a all gael eu hystyried ar
gyfer cael eu gwaredu ar y môr. b) yr asesiad ymbelydrol
generig ceidwadol, a ddatblygwyd gan yr Asiantaeth Ynni Atomig Rhyngwladol,
yw’r dull rhyngwladol cymeradwy ar gyfer profi am lefelau de minimis o
ymbelydredd a chafodd y dull hwn ei ddefnyddio wrth wneud penderfyniad ynghylch
trwydded forol Hinkley. c) y dystiolaeth o fewn
adroddiad Pwyllgor Deisebau’r Cynulliad Cenedlaethol a nododd fod Cyfoeth
Naturiol Cymru wedi gwneud ei benderfyniad ynghylch trwydded forol ar sail
cyngor arbenigol, a hynny’n unol â gweithdrefnau’r Asiantaeth Ynni Atomig
Rhyngwladol ar gyfer asesiadau ymbelydrol. d) y ffaith y daeth yr
holl brofion ac asesiadau i’r casgliad fod y gwaddod i’w waredu o fewn y
terfynau diogel, nad oes unrhyw berygl ymbelydrol i iechyd pobl nac i’r
amgylchedd a’i fod yn ddeunydd diogel ac addas i’w waredu ar y môr. 3. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i roi cyfarwyddyd i Cyfoeth Naturiol Cymru o safbwynt ymgysylltu rhagor
â’r cyhoedd er mwyn egluro’r broses a’r dystiolaeth, gan dawelu ofnau’r
cyhoedd.
Derbyniwyd y cynnig fel
y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.35 |
||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.38 NDM6820 Mark
Reckless (Dwyrain De Cymru Casnewydd: economi,
seilwaith a chyfleoedd. |