Dadl ar NNDM6813 - Gwaredu deunyddiau a garthwyd o Fôr Hafren

Dadl ar NNDM6813 - Gwaredu deunyddiau a garthwyd o Fôr Hafren

NDM6813

Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi pryderon eang ymhlith y cyhoedd mewn perthynas â gwaredu deunyddiau a garthwyd o Fôr Hafren i leoliadau oddi ar arfordir de Cymru, sy'n gysylltiedig ag adeiladu gorsaf bŵer newydd yn Hinkley.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cyhoeddi tystiolaeth fwy manwl mewn ymateb i bryderon ynglŷn â risgiau i iechyd y cyhoedd a'r amgylchedd, gan gynnwys caniatáu ar gyfer cynnal profion pellach er mwyn darparu mwy o dryloywder; a

b) cyfarwyddo Cyfoeth Naturiol Cymru i atal y drwydded forol sy'n galluogi gweithgarwch gwaredu ac ymgymryd â rhaglen eang o ymgysylltu ac ymgynghori â chymunedau lleol a rhanddeiliaid ar draws de Cymru.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Julie James (Gorllewin Abertawe)

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

2. Yn nodi:

a) o dan delerau’r Confensiwn ar Atal Llygredd Morol yn sgil Dympio Gwastraff a Deunyddiau Eraill (Confensiwn Llundain, 1972), y mae’r DU yn un o’r llofnodwyr, dim ond deunyddiau sydd â lefelau de minimis o ymbelydredd a all gael eu hystyried ar gyfer cael eu gwaredu ar y môr.

b) yr asesiad ymbelydrol generig ceidwadol, a ddatblygwyd gan yr Asiantaeth Ynni Atomig Rhyngwladol, yw’r dull rhyngwladol cymeradwy ar gyfer profi am lefelau de minimis o ymbelydredd a chafodd y dull hwn ei ddefnyddio wrth wneud penderfyniad ynghylch trwydded forol Hinkley. 

c) y dystiolaeth o fewn adroddiad Pwyllgor Deisebau’r Cynulliad Cenedlaethol a nododd fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gwneud ei benderfyniad ynghylch trwydded forol ar sail cyngor arbenigol, a hynny’n unol â gweithdrefnau’r Asiantaeth Ynni Atomig Rhyngwladol ar gyfer asesiadau ymbelydrol.

d) y ffaith y daeth yr holl brofion ac asesiadau i’r casgliad fod y gwaddod i’w waredu o fewn y terfynau diogel, nad oes unrhyw berygl ymbelydrol i iechyd pobl nac i’r amgylchedd a’i fod yn ddeunydd diogel ac addas i’w waredu ar y môr.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi cyfarwyddyd i Cyfoeth Naturiol Cymru o safbwynt ymgysylltu rhagor â’r cyhoedd er mwyn egluro’r broses a’r dystiolaeth, gan dawelu ofnau’r cyhoedd.

Confensiwn ar Atal Llygredd Morol yn sgil Dympio Gwastraff a Deunyddiau Eraill (Confensiwn Llundain, 1972) (Saesneg yn unig)

Adroddiad y Pwyllgor Deisebau

 

[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol]

Gwelliant 2 - Neil McEvoy (Canol De Cymru)

Ym mhwynt 2, ychwanegu is-bwyntiau newydd:

cymryd i ystyriaeth y wybodaeth a ddarparwyd gan yr Athro Emeritws Keith Barnham ynghylch damweiniau pwll oeri yn Hinkley Point A yn y 1960au;

cyfarwyddo Cyfoeth Naturiol Cymru i gynnal asesiad llawn o'r effaith amgylcheddol y caiff dympio gwaddod o Hinkley yn Cardiff Grounds ar arfordir Cymru, y boblogaeth arfordirol ac amgylchedd morol Cymru.

Yr Athro Keith Barnham, 'New evidence of the need to test Hinkley Point sediments for Uranium and Plutonium' - gosodwyd copi yn Llyfrgell yr Aelodau

 

Math o fusnes: Dadl

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 10/06/2021

Angen Penderfyniad: 10 Hyd 2018 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Prif Aelod: Rhun ap Iorwerth AS, Darren Millar AS