Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 9(v3)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 28/06/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb
rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd y 7 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd
arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|
(90 munud) |
Dadl: Canlyniad Refferendwm yr UE NDM6045 Jane Hutt
(Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn nodi canlyniad y
refferendwm ar aelodaeth y DU o'r Undeb Ewropeaidd. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.18 NDM6045 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn nodi canlyniad y refferendwm
ar aelodaeth y DU o'r Undeb Ewropeaidd. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36 |
|
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.45 |
|
(5 munud) |
Cynigion i sefydlu Pwyllgorau NDM6034 Elin Jones
(Ceredigion) Bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i archwilio
deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy graffu ar ei gwariant, ei
gweinyddiaeth a'i pholisi, yn cwmpasu'r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn
gyfyngedig iddynt): addysg, iechyd a llesiant plant a phobl ifanc Cymru, gan
gynnwys eu gofal cymdeithasol. NDM6035 Elin Jones
(Ceredigion) Bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion
Gwledig i archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy graffu
ar ei gwariant, ei gweinyddiaeth a'i pholisi, yn cwmpasu'r meysydd a ganlyn
(ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): newid yn yr hinsawdd, ynni, rheoli cyfoeth
naturiol; cynllunio; lles anifeiliaid ac amaethyddiaeth. NDM6036 Elin Jones
(Ceredigion) Bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu i
archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy graffu ar ei
gwariant, ei gweinyddiaeth a'i pholisi, yn cwmpasu'r meysydd a ganlyn (ond heb
fod yn gyfyngedig iddynt): diwylliant; y celfyddydau; yr amgylchedd hanesyddol;
y Gymraeg; cyfathrebu; darlledu a'r cyfryngau. NDM6037 Elin Jones
(Ceredigion) Bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau i archwilio
deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy graffu ar ei gwariant, ei
gweinyddiaeth a'i pholisïau, yn cwmpasu'r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn
gyfyngedig iddynt): datblygu economaidd; trafnidiaeth; seilwaith; cyflogaeth;
sgiliau; a gwaith ymchwil a datblygu, gan gynnwys technoleg a gwyddoniaeth. NDM6038 Elin Jones
(Ceredigion) Bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau
i archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy graffu ar ei
gwariant, ei gweinyddiaeth a'i pholisïau, yn cwmpasu'r meysydd a ganlyn (ond
heb fod yn gyfyngedig iddynt): llywodraeth leol; tai; adfywio, cydlyniant a
diogelwch cymunedol; trechu tlodi; cyfle cyfartal a hawliau dynol. NDM6039 Elin Jones
(Ceredigion) Bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon i
archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy graffu ar ei
gwariant, ei gweinyddiaeth a'i pholisïau, yn cynnwys y meysydd a ganlyn (ond
heb fod yn gyfyngedig iddynt): iechyd corfforol, iechyd meddwl, iechyd y
cyhoedd a llesiant pobl Cymru, gan gynnwys y system gofal cymdeithasol. NDM6040 Elin Jones
(Ceredigion) Bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlol 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Polisi a Deddfwriaeth Wrth Gefn i ystyried
unrhyw fater a gyfeirir ato gan y Pwyllgor Busnes. NDM6041 Elin Jones
(Ceredigion) Bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 16.1 yn sefydlu Pwyllgor Deisebau i gyflawni swyddogaethau'r pwyllgor
cyfrifol fel y'u nodir yn Rheol Sefydlog 23. NDM6042 Elin Jones
(Ceredigion) Bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog i graffu ar
waith y Prif Weinidog o safbwynt unrhyw fater sy'n berthnasol i'r gwaith o
arfer swyddogaethau Llywodraeth Cymru. NDM6043 Elin Jones
(Ceredigion) Bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 16.1 yn sefydlu Pwyllgor Safonau Ymddygiad i gyflawni swyddogaethau'r
pwyllgor cyfrifol fel y'u nodir yn Rheol Sefydlog 22. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.11 NDM6034 Elin Jones (Ceredigion) Bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Plant, Pobl
Ifanc ac Addysg i archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy
graffu ar ei gwariant, ei gweinyddiaeth a'i pholisi, yn cwmpasu'r meysydd a
ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): addysg, iechyd a llesiant plant a
phobl ifanc Cymru, gan gynnwys eu gofal cymdeithasol. NDM6035 Elin Jones (Ceredigion) Bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Newid
Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig i archwilio deddfwriaeth a dwyn
Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy graffu ar ei gwariant, ei gweinyddiaeth a'i
pholisi, yn cwmpasu'r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt):
newid yn yr hinsawdd, ynni, rheoli cyfoeth naturiol; cynllunio; lles
anifeiliaid ac amaethyddiaeth. NDM6036 Elin Jones (Ceredigion) Bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor
Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu i archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth
Cymru i gyfrif drwy graffu ar ei gwariant, ei gweinyddiaeth a'i pholisi, yn
cwmpasu'r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): diwylliant; y
celfyddydau; yr amgylchedd hanesyddol; y Gymraeg; cyfathrebu; darlledu a'r
cyfryngau. NDM6037 Elin Jones (Ceredigion) Bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor yr
Economi, Seilwaith a Sgiliau i archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru
i gyfrif drwy graffu ar ei gwariant, ei gweinyddiaeth a'i pholisïau, yn
cwmpasu'r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): datblygu economaidd;
trafnidiaeth; seilwaith; cyflogaeth; sgiliau; a gwaith ymchwil a datblygu, gan
gynnwys technoleg a gwyddoniaeth. NDM6038 Elin Jones (Ceredigion) Bod Cynulliad Cenedlaethol
Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Cydraddoldeb,
Llywodraeth Leol a Chymunedau i archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru
i gyfrif drwy graffu ar ei gwariant, ei gweinyddiaeth a'i pholisïau, yn
cwmpasu'r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): llywodraeth
leol; tai; adfywio, cydlyniant a diogelwch cymunedol; trechu tlodi; cyfle
cyfartal a hawliau dynol. NDM6039 Elin Jones (Ceredigion) Bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Iechyd,
Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon i archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth
Cymru i gyfrif drwy graffu ar ei gwariant, ei gweinyddiaeth a'i pholisïau, yn
cynnwys y meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): iechyd
corfforol, iechyd meddwl, iechyd y cyhoedd a llesiant pobl Cymru, gan gynnwys y
system gofal cymdeithasol. NDM6040 Elin Jones (Ceredigion) Bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlol 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Polisi a
Deddfwriaeth Wrth Gefn i ystyried unrhyw fater a gyfeirir ato gan y Pwyllgor
Busnes. NDM6041 Elin Jones (Ceredigion) Bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1 yn sefydlu Pwyllgor Deisebau
i gyflawni swyddogaethau'r pwyllgor cyfrifol fel y'u nodir yn Rheol Sefydlog
23. NDM6042 Elin Jones (Ceredigion) Bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Craffu
ar Waith y Prif Weinidog i graffu ar waith y Prif Weinidog o safbwynt unrhyw
fater sy'n berthnasol i'r gwaith o arfer swyddogaethau Llywodraeth Cymru. NDM6043 Elin Jones (Ceredigion) Bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1 yn sefydlu Pwyllgor Safonau
Ymddygiad i gyflawni swyddogaethau'r pwyllgor cyfrifol fel y'u nodir yn Rheol
Sefydlog 22. Derbyniwyd y cynigion yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|
(5 munud) |
Cynnig i newid enw’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol dros dro NDM6044 Elin Jones
(Ceredigion) Bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 16.3 yn cytuno y caiff y Pwyllgor Dros Dro ar Faterion Cyfansoddiadol a
Deddfwriaethol, a sefydlwyd ar 15 Mehefin 2016, ei ailenwi'n Bwyllgor Materion
Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol. Ei gylch gwaith yw cyflawni swyddogaethau'r
pwyllgor cyfrifol fel y'u nodir yn Rheol Sefydlog 21, ac ystyried unrhyw fater
cyfansoddiadol, deddfwriaethol neu lywodraethol arall sydd o fewn cymhwysedd y
Cynulliad neu Weinidogion Cymru, neu sy'n gysylltiedig â chymhwysedd y
Cynulliad neu Weinidogion Cymru, gan gynnwys ansawdd deddfwriaeth. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.12 NDM6044 Elin Jones (Ceredigion) Bod Cynulliad Cenedlaethol
Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.3 yn cytuno y caiff y Pwyllgor Dros Dro ar
Faterion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, a sefydlwyd ar 15 Mehefin 2016, ei
ailenwi'n Bwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol. Ei gylch gwaith yw
cyflawni swyddogaethau'r pwyllgor cyfrifol fel y'u nodir yn Rheol Sefydlog 21,
ac ystyried unrhyw fater cyfansoddiadol, deddfwriaethol neu lywodraethol arall
sydd o fewn cymhwysedd y Cynulliad neu Weinidogion Cymru, neu sy'n gysylltiedig
â chymhwysedd y Cynulliad neu Weinidogion Cymru, gan gynnwys ansawdd
deddfwriaeth. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|
(5 munud) |
Cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 17 mewn perthynas â Gweithrediad Pwyllgorau NDM6047 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 33.2: 1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes 'Diwygio Rheolau
Sefydlog: Rheol Sefydlog 17 – Gweithredu Pwyllgorau' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Mehefin 2016; a 2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 17,
fel y nodir yn Atodiad B i Adroddiad y Pwyllgor Busnes. Dogfen Ategol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.12 NDM6047 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2: 1. Yn ystyried Adroddiad
y Pwyllgor Busnes 'Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 17 – Gweithredu
Pwyllgorau' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Mehefin 2016; a 2. Yn cymeradwyo'r
cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 17, fel y nodir yn Atodiad B i Adroddiad y
Pwyllgor Busnes. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|
(45 munud) |
Datganiad gan y Prif Weinidog: y Rhaglen Ddeddfwriaethol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.13 |
|
(0 munud) |
Datganiad gan Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Lansio'r Ymgynghoriad ar Weithredu Cyfnod 1 y Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) - TYNNWYD YN ÔL Cofnodion: Tynnwyd yr eitem yn ôl. |
|
(0 munud) |
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Cyrff Llywodraethu Ysgolion - TYNNWYD YN ÔL Cofnodion: Tynnwyd yr eitem yn ôl. |
|
(30 munud) |
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant: y Lluoedd Arfog Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.56 |
|
(0 munud) |
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig: Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol - TYNNWYD YN ÔL Cofnodion: Tynnwyd yr eitem yn ôl. |
|
(0 munud) |
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith: Strategaeth Ffyrdd a Gwaith Stryd - TYNNWYD YN ÔL Cofnodion: Tynnwyd yr eitem yn ôl. |
|
(0 munud) |
Dadl: Ail-enwi’r Cynulliad Cenedlaethol yn "Senedd" - WEDI EI GOHIRIO TAN 5 GORFFENNAF NDM6048 Jane Hutt
(Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru yn cytuno: (a) Y dylid newid ei enw
i "Senedd Cymru" ar y cyfle cyntaf; ac (b) Y dylai gael ei
adnabod yn answyddogol gan yr enw hwnnw hyd nes y gall enw o'r fath gael ei
ffurfioli. Cyflwynwyd y Gwelliant a
ganlyn: Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro
Morgannwg) Dileu popeth a rhoi yn
ei le: Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn credu y dylai'r
Cynulliad newid ei enw i adlewyrchu ei statws cyfansoddiadol fel senedd
genedlaethol. 2. Yn gwahodd y Llywydd
a Chomisiwn y Cynulliad i ystyried goblygiadau newid o'r fath a'r ffordd orau
i'w roi ar waith. Cofnodion: Gohiriwyd yr eitem tan ddydd Mawrth 5 Gorffennaf 2016. |
|
(5 munud) |
Cynnig i ddyrannu cadeiryddion pwyllgorau i’r grwpiau plaid Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.2A, yn cytuno
mai'r grwpiau gwleidyddol y caiff cadeiryddion pwyllgorau eu hethol ohonynt
fydd fel a ganlyn: (i) Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Llafur; (ii) Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a
Materion Gwledig - UKIP; (iii) Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a
Deddfwriaethol – Llafur; (iv) Y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a
Chyfathrebu - Plaid Cymru;; (v) Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau - Ceidwadwyr Cymreig; (vi) Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a
Chymunedau - Llafur; (vii) Y Pwyllgor Cyllid - Plaid Cymru; (viii) Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a
Chwaraeon - Plaid Cymru; (ix) Y Pwyllgor Deisebau - Llafur; (x) Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Ceidwadwyr Cymreig; (xi) Y Pwyllgor Polisi a Deddfwriaeth Wrth Gefn -
Llafur; (xii) Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Llafur. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 17.28 NDM6056 Elin
Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 17.2A, yn cytuno mai'r grwpiau gwleidyddol y caiff cadeiryddion
pwyllgorau eu hethol ohonynt fydd fel a ganlyn:
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Nid oedd cyfnod pleidleisio. |
||
(15 munud) |
Ethol cadeiryddion pwyllgorau Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 17.29 Gwahoddodd
y Llywydd enwebiadau ar gyfer cadeiryddion y pwyllgorau yn unol â Rheol
Sefydlog 17.2F. Galwyd am enwebiadau yn y drefn a ganlyn: Y Pwyllgor Plant, Pobl
Ifanc ac Addysg - Llafur Enwebwyd
Julie Morgan gan Mike Hedges. Enwebwyd
Lynne Neagle gan Lesley Griffiths . Gan
fod dau enwebiad, cyfeiriodd y Llywydd yr enwebiadau ar gyfer pleidlais gudd yn
unol â Rheol Sefydlog 17.21. Y Pwyllgor Newid Hinsawdd,
Amgylchedd a Materion Gwledig - UKIP Enwebwyd
Mark Reckless gan David Rowlands . Gan
nad oedd ond un enwebiad, ac na chafwyd gwrthwynebiad i’r enwebiad, datganodd y
Llywydd fod Mark Reckless wedi ei ethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd,
Amgylchedd a Materion Gwledig. Y Pwyllgor Materion
Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Llafur Enwebwyd
Huw Irranca-Davies gan Dawn Bowden. Gan
nad oedd ond un enwebiad, ac na chafwyd gwrthwynebiad i’r enwebiad, datganodd y
Llywydd fod Huw Irranca-Davies wedi ei ethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Materion
Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol. Pwyllgor Diwylliant, y
Gymraeg a Chyfathrebu – Plaid Cymru Enwebwyd
Bethan Jenkins gan Dai Lloyd. Gan
nad oedd ond un enwebiad, ac na chafwyd gwrthwynebiad i’r enwebiad, datganodd y
Llywydd fod Bethan Jenkins wedi ei hethol yn Gadeirydd Pwyllgor Diwylliant, y
Gymraeg a Chyfathrebu. Pwyllgor yr Economi,
Seilwaith a Sgiliau – Ceidwadwyr Cymreig Enwebwyd
Russell George gan David Melding. Gan
fod dau enwebiad, cyfeiriodd y Llywydd yr enwebiadau ar gyfer pleidlais gudd yn
unol â Rheol Sefydlog 17.21. Y Pwyllgor Cydraddoldeb,
Llywodraeth Leol a Chymunedau - Llafur Enwebwyd
John Griffiths gan Jayne Bryant. Enwebwyd
Lee Waters gan Jeremy Miles. Enwebwyd
Jenny Rathbone gan Eluned Morgan. Gan
fod tri enwebiad, cyfeiriodd y Llywydd yr enwebiadau ar gyfer pleidlais gudd yn
unol â Rheol Sefydlog 17.21. Y Pwyllgor Cyllid – Plaid
Cymru Enwebwyd
Simon Thomas gan Llyr Gruffydd. Gan
nad oedd ond un enwebiad, ac na chafwyd gwrthwynebiad i’r enwebiad, datganodd y
Llywydd fod Simon Thomas wedi ei ethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid. Y Pwyllgor Iechyd, Gofal
Cymdeithasol a Chwaraeon – Plaid Cymru Enwebwyd
Dai Lloyd gan Bethan Jenkins. Gan
fod dau enwebiad, cyfeiriodd y Llywydd yr enwebiadau ar gyfer pleidlais gudd yn
unol â Rheol Sefydlog 17.21. Y Pwyllgor Deisebau –
Llafur Enwebwyd
Mike Hedges gan Rhianon Passmore. Gan
nad oedd ond un enwebiad, ac na chafwyd gwrthwynebiad i’r enwebiad, datganodd y
Llywydd fod Mike Hedges wedi ei ethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau. Y Pwyllgor Cyfrifon
Cyhoeddus – Ceidwadwyr Cymreig Enwebwyd
Darren Millar gan David Melding. Gan
fod tri enwebiad, cyfeiriodd y Llywydd yr enwebiadau ar gyfer pleidlais gudd yn
unol â Rheol Sefydlog 17.21. Y Pwyllgor Polisi a
Deddfwriaeth Wrth Gefn - Llafur Enwebwyd
David Rees gan Eluned Morgan. Gan
nad oedd ond un enwebiad, ac na chafwyd gwrthwynebiad i’r enwebiad, datganodd y
Llywydd fod David Rees wedi ei ethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Polisi a
Deddfwriaeth Wrth Gefn. Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad
- Llafur Enwebwyd
Jayne Bryant gan Joyce Watson. Gan
nad oedd ond un enwebiad, ac na chafwyd gwrthwynebiad i’r enwebiad, datganodd y
Llywydd fod Jayne Bryant wedi ei hethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad.
|